Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn y cydsyniad brenhinol i Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, rwy’n lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiwygio ffioedd trwyddedu morol a thaliadau cysylltiedig, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â’r drefn Asesu Effeithiau Amgylcheddol (EIA) ar y môr yng Nghymru.

Sefydlwyd system trwyddedu morol y DU trwy Ran 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (MCAA) a’r gyfres o is-ddeddfwriaethau Cymreig a wnaed wedi hynny.  Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu o dan Ran 4 yr MCAA ac yn Ebrill 2013, dirprwywyd y rhan fwyaf o’u swyddogaethau fel awdurdod trwyddedu i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) trwy Orchymyn Trwyddedu Morol (Dirprwyo Swyddogaethau) (Cymru) 2013.

Nid yw’r system ffioedd a chodi tâl bresennol ar gyfer trwyddedau morol yng Nghymru yn ateb y diben.  Nid yw’n gyfoes ac nid yw’n caniatáu i CNC adennill ei gostau am ddarparu rhai gwasanaethau.  Nid yw’r gwasanaeth a ddarperir gan CNC yn gynaliadwy a gallai hynny yn y pen draw arwain at grebachu’r gwasanaeth a gynigir i gwsmeriaid yng Nghymru os na eir i’r afael â’r bylchau yn y pwerau i godi tâl.

Rhoddodd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 bwerau newydd i Lywodraeth Cymru fel yr awdurdod trwyddedu i greu system codi tâl well a mwy cynhwysfawr.

Rydym wedi bod yn casglu tystiolaeth ar y cyd â’r Grŵp Rhanddeiliaid Trwyddedau Morol a sefydlwyd yn unswydd gan CNC yn y lle cyntaf i helpu’r Adolygiad o Ffïoedd Trwyddedu Morol yng Nghymru.  Yn aelodau o’r grŵp y mae cyrff cynrychioli’r diwydiant, defnyddwyr eraill a rhanddeiliaid y system drwyddedu yng Nghymru, yn ogystal ag awdurdodau trwyddedu morol eraill y DU.

Yr amcan cyffredinol yw creu trefn gadarn, cymesur, teg ac agored sy’n addas i’r diben ar gyfer codi am gostau sy’n gysylltiedig â thrwyddedau morol a’r EIA yng Nghymru.

Cafodd gweithdy anffurfiol ei gynnal ym mis Chwefror 2016 gyda nifer o sectorau’r diwydiant, gan gynnwys ynni adnewyddadwy, porthladdoedd ac agregau, ymgynghoreion y broses trwyddedu morol, defnyddwyr eraill y system trwyddedu morol a rhanddeiliaid eraill. Bodlonwyd amcanion y dydd a chafwyd ymateb positif gan y rhanddeiliaid ar y cynigion ar gyfer ffioedd trwyddedu morol newydd.

Yr wyf heddiw yn lansio Ymgynghoriad Cyhoeddus Ffurfiol 12 wythnos ar y cynigion, gyda’r bwriad o greu trefn newydd ar gyfer codi tâl ym mis Ebrill 2017.  Yn ystod y cyfnod ymgynghori, caiff gweithdy arall ei gynnal ym mis Hydref 2016 (gweler y Ddogfen Ymgynghori) i esbonio’r cynigion hyn ac rwy’n annog rhanddeiliaid i ddod iddo.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.