Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cefais fy hysbysu ym mis Hydref 2012, yn dilyn arolwg o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005, fod Estyn yn barnu bod angen mesurau arbennig ar Ysgol Uwchradd Llanrhymni yng Nghaerdydd.  

Mae gan yr awdurdod gynlluniau i gau Ysgol Uwchradd Llanrhymni a’r ysgol gyfagos, Ysgol Uwchradd  Rhymni, a sefydlu ysgol newydd o fis Medi 2014.  Cyn hynny, mae’r awdurdod yn bwriadu symud pob disgybl o Lanrhymni i safle Ysgol Uwchradd Rhymni o fis Medi 2013 fel y bydd y ddwy ysgol yn gweithredu ar yr un safle.  

Mae gan Weinidogion Cymru bŵer o dan adran 19 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i gyfarwyddo awdurdod lleol i gau ysgol sydd angen mesurau arbennig.  

Ym mis Chwefror cyhoeddais fy mod yn ystyried defnyddio’r pŵer hwnnw i gyfarwyddo’r awdurdod lleol i gau Ysgol Uwchradd Llanrhymni o fis Awst 2013.  Gofynnais i’r awdurdod ymateb i’r cynnig hwn gan roi amlinelliad manwl os oeddynt yn teimlo bod modd iddynt gau yr ysgol o fewn y cyfnod hwn.  

Er fy mod yn gweld yn yr achos hwn bod yr awdurdod yn cymryd camau positif i gau ysgol oedd yn methu, roedd, ac mae’n parhau yn bryder imi bod y cyfnod cau erbyn mis Awst 2014 yn rhy faith ac nad yw Llanrhymni yn cau yn ddigon cyflym.  

Mae safonau yr addysg sy’n cael ei ddarparu yn Llanrhymni ar hyn o bryd yn anfoddhaol ac mae’r niferoedd ar y gofrestr yn lleihau.  Mae rhagolygon yr ysgol o ran gwella yn anfoddhaol ym marn Estyn, gan godi cwestiynau am allu yr ysgol i wella safonau gwael.  Yn fy marn i, byddai cau Llanrhymni yn gynt o fantais i’r disgyblion.  I’r awdurdod, byddai cael un ysgol i’w gwella yn eu rhoi mewn sefyllfa well i gynorthwyo a datblygu gwelliannau.    

Fel y gwyddoch, cynheliais ymgynghoriad ar y cynnig hwn yn ystod mis Chwefror a Mawrth 2013, ac rwyf bellach wedi derbyn dadansoddiad o’r ymatebion gan fy swyddogion.    

Bu i ystod eang o rieni, disgyblion a staff ac aelodau’r gymuned ymateb gan  fynegi eu barn imi.  Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i gyfrannu at y broses a gynhaliwyd gennym.  

Rwyf bellach wedi ystyried yr ymatebion yn llawn, gan gynnwys ymateb yr awdurdod lleol ac Estyn, sydd ill dau wedi cefnogi fy nghynnig i gau yr ysgol ym mis Awst 2013.  Byddaf yn fuan yn cyhoeddi cyfarwyddyd i’r awdurdod lleol gau Ysgol Uwchradd Llanrhymni o fis Awst 2013.  

Er nad oes amheuaeth y bydd nifer o’r disgyblion a’r staff yn siomedig fy mod wedi penderfynu mynd ymlaen â’r cyfarwyddyd i gau yr ysgol, rwy’n credu, ar sail pwyso a mesur yr holl dystiolaeth oedd ar gael, ac er ei fod yn benderfyniad anodd, mai dyma’r peth iawn i’w wneud.  

Byddaf yn cyhoeddi fy nghyfarwyddyd i’r awdurdod cyn gynted â phosib ond yna’n disgwyl iddynt ddechrau cymryd y camau i sicrhau eu bod yn gweithredu ar fy nghyfarwyddyd a bod yr ysgol yn cau ar ddiwedd y tymor hwn.  

Bydd y sail resymegol lawn ar gyfer llunio’r Cyfarwyddyd wedi’i bennu yn y Cyfarwyddyd ei hun.  Bydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.