Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae effeithiau'r cyfryngau cymdeithasol ar ein plant a'n pobl ifanc yn destun pryder sylweddol i mi ac i'r llywodraeth hon. Mae ysgolion a rhieni wedi bod yn codi eu pryderon am y dylanwad sylweddol y gall technoleg a ffonau symudol ei gael ar iechyd, lles a phrofiadau dysgu ein plant a'n pobl ifanc.   

Ar hyn o bryd, mater i ysgolion unigol a chyrff llywodraethu yw penderfynu sut y defnyddir ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol. Mae gan benaethiaid y pŵer i wahardd neu gyfyngu ar y defnydd o ddyfeisiau, ac rwy'n gwybod o'r trafodaethau rwyf wedi'u cael gyda phenaethiaid o bob cwr o Gymru fod llawer ohonynt wedi dewis gwneud hynny.

Rwy'n parhau i gredu mai ysgolion sydd yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniadau hyn, yn seiliedig ar sut mae technoleg yn cael ei defnyddio yn eu lleoliad ac anghenion eu dysgwyr. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod hefyd fod hwn yn faes lle mae ein hysgolion yn chwilio fwyfwy am gyfeiriad cenedlaethol.

Yn dilyn Uwchgynhadledd Ymddygiad 2025 a chan dynnu ar argymhellion Pwyllgor Deisebau'r Senedd, sefydlais fforwm pwrpasol i ymarferwyr a rhanddeiliaid ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion. Yn ddiweddar, mae'r Fforwm wedi cwblhau drafft cyntaf o ganllawiau newydd i gefnogi ysgolion i ddatblygu a chyflwyno polisi ffonau symudol sy'n briodol i'w hysgol.

Fy nod erioed yw taro'r cydbwysedd cywir wrth gefnogi ysgolion rhwng lleihau effaith ffonau symudol ar ddysgu a lles disgyblion ar y naill law, a chynnal hyblygrwydd lleol ar y llall. Er mwyn sicrhau bod y canllawiau hyn yn gadarn, yn ymarferol ac yn adlewyrchu anghenion y sector, rwyf wedi ymrwymo i raglen o ymgysylltu â'r sector yn y cyfnod cyn yr etholiad, ac ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y canllawiau terfynol ar ôl yr etholiad er mwyn gallu eu cyhoeddi cyn y flwyddyn ysgol newydd.   

Heddiw, rwy'n lansio arolwg cenedlaethol o'r gweithlu addysg i archwilio ymhellach bolisïau presennol o ran ffonau symudol, y rhesymeg y tu ôl iddynt, a'u heffaith. Rwy'n annog pob ysgol i gymryd rhan.  Bydd y canfyddiadau yn ein cefnogi'n uniongyrchol i fireinio'r canllawiau drafft a sicrhau bod y camau a gymerir yn y dyfodol yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn adlewyrchu'n llawn yr hyn sy'n gweithio orau i'n dysgwyr a'n hysgolion yng Nghymru. 

Ochr yn ochr â hyn, bydd fy swyddogion yn trafod y canllawiau drafft gydag ysgolion, undebau'r gweithlu addysg, awdurdodau lleol ac yn bwysicaf oll gyda phlant a phobl ifanc.  Edrychaf ymlaen at glywed eu safbwyntiau.

Yn y cyfamser, rwyf am roi ar gof a chadw fy nghefnogaeth i unrhyw ysgol sy'n ceisio cyflwyno polisi sy'n cyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol, er mwyn amddiffyn dysgwyr a gwella eu hymgysylltiad mewn gwersi.