Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy’n cyhoeddi cynnydd arall, i £40,000, yn swm y cyfalaf y gall pobl sy’n derbyn gofal preswyl ei gadw heb orfod ei ddefnyddio i dalu am eu gofal.

Mae hwn yn gam arall tuag at wireddu ein hymrwymiad i godi’r terfyn cyfalaf i £50,000 erbyn diwedd y Cynulliad hwn.
 
Dyma un o'n prif chwe ymrwymiad yn "Symud Cymru Ymlaen". Mae’n caniatáu i bobl mewn gofal gadw mwy o'r arian, y maen nhw wedi gweithio'n galed i'w gynilo, i'w ddefnyddio fel y mynnant yn hwyrach yn eu bywydau.

Y llynedd, ar ôl ymgysylltu â rhanddeiliaid, gwnaethom gadarnhau y byddem yn cynyddu'r terfyn cyfalaf fesul cam o'i lefel wreiddiol, sef £24,000, i lefel ein hymrwymiad, sef £50,000. O fis Ebrill, codwyd y terfyn i £30,000, gan ddarparu £4.5 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i helpu awdurdodau lleol i'w weithredu. Oherwydd y cynnydd hwn, Cymru sydd â'r terfyn cyfalaf uchaf  yn y DU, rhywbeth a gafodd ei groesawu gan breswylwyr cartrefi gofal a'r rheini sy'n meddwl symud i gartref gofal.  

Mae oddeutu 4,000 o breswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru yn talu cost lawn eu gofal gan fod eu cyfalaf yn uwch na'r terfyn. Mae'n dda gennyf ddweud bod cyflwyno terfyn o £30,000 wedi helpu dros 400 o'r preswylwyr hyn o fewn y chwe mis cyntaf ers iddo gael ei weithredu, a disgwylir i fwy o breswylwyr elwa dros y misoedd nesaf. Hyd yn oed yn ystod y cam cynnar hwn, gwelwyd bod gwireddu ein hymrwymiad yn dod â chanlyniadau cadarnhaol iawn, ac mae'n amlwg y bydd y nifer sy'n elwa unwaith y bydd y terfyn o £50,000 yn cael ei weithredu yn un sylweddol.

Gan fod y sefyllfa hon mor addawol, mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd y terfyn cyfalaf yn cynyddu i £40,000 o fis Ebrill nesaf ymlaen, gan ddod â budd i ragor eto o breswylwyr cartrefi gofal. Er mwyn helpu awdurdodau lleol i weithredu'r cynnydd hwn, bydd £7 miliwn y flwyddyn yn cael ei ychwanegu at setliad terfynol awdurdodau lleol ar gyfer 2018-19. Fe gyhoeddir y setliad hwn yn nes ymlaen yn y mis hwn.  

Byddwn yn monitro sut mae'r newidiadau yn cael eu gweithredu er mwyn cadw golwg ar faint o bobl sy'n elwa arnynt a sicrhau bod y cyllid yr ydym yn ei ddarparu yn ddigonol. Os bydd angen, gallwn newid dyraniadau yn y dyfodol i wneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn cael y cyllid priodol.