Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel rhan o Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i leihau’r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol, er mwyn eu caniatáu i ganolbwyntio ar eu gwaith hollbwysig yn darparu ar gyfer pobl Cymru. Wrth wraidd y gwaith hwn mae ein hawydd i sicrhau nad yw biwrocratiaeth ddiangen yn amharu ar awdurdodau lleol. Mae’r ymrwymiad hwn yn adlewyrchu cefnogaeth ddiwyro Llywodraeth Cymru i ddemocratiaeth leol a'n dyhead i weithio mewn partneriaeth i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru.

Rydym yn gwybod er mwyn lleddfu'r pwysau ar lywodraeth leol a Llywodraeth Cymru ar yr adeg hon pan nad oes digon o adnoddau ar gael bod yr angen i nodi, lleihau a chael gwared ar broses feichus neu ddiangen yn gryfach nag erioed.

Rwy'n ddiolchgar i'r cynrychiolwyr o awdurdodau lleol sydd wedi gweithio gyda fy swyddogion i'n helpu i ddeall beth yw’r prif broblemau. Roedd y trafodaethau hyn yn tynnu sylw'n benodol at y ffaith mai rheolaeth a gweinyddiaeth grantiau yw’r gorbenion gweinyddol mwyaf beichus, a’r meysydd sy’ncynnig y cyfle mwyaf i newid er budd pawb.

Drwy fynd i'r afael â'r materion a godwyd, rwy'n falch o gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu rhaglen waith gyda thri amcan: talu llai o grantiau ar wahân; rheoli a gweinyddu'r grantiau hynny sy'n cael eu talu mewn ffordd fwy cymesur; a dim cynnydd mewn gofynion gweinyddol eraill o ganlyniad i hyn.

Yn benodol, rydw i a chydweithwyr yn y Cabinet wedi cytuno i wneud gwaith pellach i gyflawni yn erbyn argymhellion allweddol mewn perthynas â:

  • rhaglen waith sydd ar y gweill i leihau nifer y grantiau ar wahân a dalwyd i awdurdodau lleol o 2024/25 ac i ystyried dadneilltuo dros dro os yw’r cyd-destun ehangach yn gwneud hyn yn briodol.
  • trin awdurdodau lleol fel partneriaid y gellir ymddiried ynddynt yng nghyd-destun cyllido blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn cynnwys mabwysiadu fframwaith sy'n annog dulliau rheoli a gweinyddu mwy cymesur ar gyfer y cyllid grant sy'n weddill a dalwyd i awdurdodau lleol, yn unol ag egwyddorion y fframwaith y cytunwyd arnynt.
  • gyda llywodraeth leol, cyd-ddatblygu cyfres o egwyddorion y cytunwyd arnynt i'w dilyn wrth ddatblygu trefniadau polisi ac ariannu yn y dyfodol. Bydd yr egwyddorion hyn yn berthnasol i roi’r swyddogaethau newydd a gyflawnir gan lywodraeth leol ar waith, gan gynnwys y rhai sy'n deillio o ddeddfwriaeth newydd.

Rwy'n gwybod bod y rhaglen bwysig hon o waith yn flaenoriaeth gyffredin i lywodraeth leol a Llywodraeth Cymru, wrth i ni weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth i wneud newidiadau cynaliadwy i'r dyfodol. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol i ddatblygu fframwaith ariannu newydd a chyd-gynhyrchu egwyddorion ar gyfer ffyrdd o weithio yn y dyfodol. Dylai ein ffordd o weithio yn y dyfodol roi'r cyfrifoldeb am gyflenwi a chynnig gwerth am arian ar awdurdodau lleol heb orfod cynnal gwiriadau diangen. Bydd Cyngor Partneriaeth Cymru, ac yn enwedig ei Is-grŵp Cyllid, yn fecanweithiau allweddol ar gyfer goruchwylio'r broses hon ac ar gyfer galluogi trafodaethau amserol i sicrhau cynnydd yn erbyn amserlen heriol.

Mae hefyd yn bwysig ein bod yn ystyried effaith y newidiadau ar y trydydd sector a'r sector gwirfoddol sy'n cael arian drwy'r awdurdodau lleol ar gyfer nifer o'u gweithgareddau a byddwn yn ymgysylltu â'r sector dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Yn olaf, rwy'n ymwybodol, yn ystod trafodaethau gyda chynrychiolwyr yr awdurdodau lleol, bod nifer o faterion eraill wedi'u nodi fel rhai a oedd yn achosi beichiau gweinyddol diangen a hoffwn roi sicrwydd i gydweithwyr bod y rhain naill ai'n cael eu hymgorffori yn y gwaith hwn, neu y byddwn yn delio â nhw ar wahân.

Byddaf yn rhoi gwybodaeth i Aelodau am ddatblygiadau wrth i'r gwaith hwn ddatblygu.