Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bum yn ymweld ag ardal Lucerne yn y Swistir o 4 – 6 Gorffennaf 2025 i gefnogi tîm Menywod Cymru wrth iddyn nhw gymryd rhan mewn rowndiau terfynol prif dwrnament am y tro cyntaf erioed. 

Roedd bod yn y gêm gyntaf hanesyddol honno i Fenywod Cymru yn Rowndiau Terfynol Ewro 2025, ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf yn gryn anrhydedd ac yn destun balchder.  Er nad oedd canlyniad y gêm a'r gystadleuaeth ei hun yn ddymunol i'r genedl, roedd yn brofiad bythgofiadwy i Gymru ar y cae ac fel arall.

Yn ystod f'ymweliad â Lucerne, cyfarfûm â Llywydd, Is-lywydd, Cadeirydd a Phrif-weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru i drafod ein partneriaeth barhaus  yn datblygu pêl-droed yng Nghymru, ac yn enwedig gêm y merched a'r menywod.  Hefyd, bum yn ymweld ag Ardal y Cefnogwyr. Nid oedd modd dianc rhag brand Tîm Cymru, oedd ar grysau-t a hetiau bwced ymhobman, a lle bu Aleighcia Scott a Molly Palmer yn perfformio i gefnogwyr Cymru a'r Iseldiroedd cyn y daith lliwgar, llawn cerddoriaeth i Stadiwm Allmend. Roedd hi'n bleser sgwrsio â chefnogwyr o bob oed, wrth i'r gêm agosáu.         

Hefyd yn Lucerne, achubwyd ar y cyfle i gyfarfod â Partners Group, un o’r prif fuddsoddwyr mewn seilwaith y mae ei bencadlys yn y Swistir . Bu trafodaethau am eu diddordeb yng Nghymru ar hyn o bryd ac i’r dyfodol. Roedd yn drafodaeth fuddiol iawn ac yn gyfle euraid i dynnu sylw at rinweddau Cymru fel gwlad i fuddsoddi’n strategol ynddi mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’n blaenoriaethau am dwf economaidd. Cafwyd cyfle i edrych ar sut i feithrin a thyfu’r bartneriaeth bresennol er mwyn denu buddsoddiad pellach sy’n cefnogi ein dyheadau yn y tymor hir.

Roedd Llysgennad Prydain i'r Cydffederasiwn Swisaidd a'r Llysgennad nad yw'n breswylydd i Dywysogaeth Liechtenstein, James Squire wedi dod gyda mi i'r pêl-droed a'r cyfarfodydd.  Roedd y tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng Cymru a'r Swistir yn destun trafod, yn ogystal â'r cyfleoedd i wella a meithrin ein perthynas economaidd a diwylliannol.   

Rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran y genedl gyfan wrth ddweud pa mor falch ydym ni o Dîm Pêl-droed Menywod Cymru, ar ôl y perfformiadau yn y Swistir.  Roedd aros yn y gystadleuaeth yn mynd i fod yn dipyn o gamp, a ninnau yn y grŵp caletaf. Er hynny, gall y chwaraewyr, yr hyfforddwyr a'r rhai y tu o i'r llenni fod yn hynod falch o'r llwyddiant – nid yn unig i Gymru ond i chwaraeon merched a benywod.

Hoffwn ddiolch i'r cefnogwyr a holI sefydliadau Cronfa Gefnogi Partneriaid Ewro 2025  yn y Swistir a fu'n help i arddangos chwaraeon, cerddoriaeth a'r celfyddydau yng Nghymru ar eu gorau, gan ddangos y gwerthoedd sy'n cael eu rhannu, yn enwedig felly o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.