Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf newydd ddychwelyd o Gemau'r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur yn Awstralia. Roedd yn bleser cael bod yno i gefnogi Tîm Cymru a hoffwn ganmol yr athletwyr, yr hyfforddwyr, Gemau Cymanwlad Cymru, Chwaraeon Cymru, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol y Campau yng Nghymru a’r holl unigolion a chyrff eraill fu'n gweithio mor galed i greu tîm mor gryf. 

Testun balchder mawr oedd gweld y codwr pwysau Gareth Evans o Fôn yn ennill medal aur gyntaf Cymru ar yr ail ddiwrnod o gystadlu. Roedd hon yn un o blith y nifer fwyaf o fedalau i Dîm Cymru ei ennill dramor erioed yng Ngemau’r Gymanwlad.  Llwyddiant ysgubol. 

Cawsom lwyddiant o'r diwrnod cyntaf, gyda'r para-feiciwr James Ball a'i beilot Pete Mitchell yn ennill ein medal gynta' yn y Gemau. Gwefr hefyd oedd gweld Hollie Arnold yn ennill medal aur gyda record byd newydd yn y gystadleuaeth taflu’r waywffon F46 i Fenywod. A'r hyn sy'n galonogol hefyd yw nifer y medalau y bu bron iawn iawn inni eu hennill. Mae hynny'n argoeli'n dda at y dyfodol. 

Mae Gemau'r Gymanwlad yn arbennig gan fod Cymru'n cael cystadlu ynddyn nhw yn ei henw ei hunan. Maen nhw'n dangos hefyd sut rydyn ni'n ei wneud yn erbyn gwledydd mwy. 

Roedd proffesiynoldeb, angerdd, ymroddiad a hwyliau da athletwyr Cymru yn amlwg iawn i bawb eu gweld. Gymaint felly fel y gwnaeth llawer o Awstraliaid fabwysiadu Cymru fel eu hail wlad ac roeddech yn eu gweld yn rhoi cefnogaeth groch a brwd i'n hathletwyr ni. Roeddwn yn hynod falch o gael bod yn Gymro. Roedd agwedd, perfformiad a balchder y Tîm yn gaffaeliad i'n gwlad gan roi llwyfan wych imi wrth siarad â gwleidyddion, llywodraethau a phobl fusnes yn y digwyddiadau swyddogol. Roedd hyd yn oed Uchel Gomisiynydd Prydain yn Awstralia yn falch o gyfaddef ei bod y tro hwn yn gweiddi ar ei mwyaf croch dros Gymru. Fel yr athletwyr eu hunain, ceir digon o gyfle i ddangos ein hymrwymiad i'r DU ond mae'r cyfle i gystadlu a bloeddio dros Gymru yn ddigwyddiad prin ac arbennig. 

Gydol fy amser yn Awstralia, tynnais sylw at y cysylltiadau gwell ar gyfer busnesau a theithwyr rhwng Cymru a rhan honno'r byd pan fydd Qatar Airways yn hedfan rhwng Doha a Chaerdydd ar 1 Mai. 

Yn ystod fy nhrip i ddwyrain Awstralia, cefais gyfarfod â Siambr Fasnach Prydain yn Sydney ac â sefydliadau twristiaeth sy’n gwasanaethu’r wlad gyfan. 

Bum yn cynrychioli Cymru hefyd yng nghyfarfodydd a dathliadau Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad. Roedd yr awydd am fwy o gydweithio mewn chwaraeon, iechyd a materion economaidd yn amlwg iawn.  Cefais yr anrhydedd i annerch athletwyr Tîm Cymru yn ystod fy ymweliad â Phentre’r Athletwyr a bod yn bresennol yn llawer o’r digwyddiadau i floeddio dros Gymru. 

Cynhaliais dderbyniad yn Nhŷ Tîm Cymru a lwyddodd i ddenu, ynghyd â'i arwydd 'Cymru Wales' anferth, lawer o sylw ymhlith ymwelwyr o bob gwlad yn ogystal â'r Cymru 'alltud' sy'n byw yn Awstralia. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i Gymru Iach ac Egnïol. Nid oes ysbrydoliaeth well i sbarduno pobl Cymru i fod yn fwy bywiog na pherfformiad Tîm Cymru ar Arfordir Aur 2018. 

Roedd yn achlysur pan roedd chwifio baner Cymru'n anrhydedd ac yn bleser.