Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf wedi dychwelyd o Seland Newydd yn ddiweddar yn fy rôl fel Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon.

Prif ffocws fy ymweliad oedd cefnogi tîm rygbi merched Cymru wrth iddynt chwarae yn erbyn y Black Ferns, pencampwyr y byd, yn eu gêm grŵp yng Nghwpan Rygbi'r Byd i Ferched ddydd Sul 16 Hydref.

Roedd fy ymweliad yn help i godi proffil Cymru, yn y gymuned rygbi a thu hwnt.  Cyn y gêm roedd hi'n anrhydedd cael cwrdd â'r tȋm a staff Undeb Rygbi Cymru i drafod y cynnydd mae nhw wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf, tra'n cydnabod bod cyfleoedd am fuddsoddiad a datblygiad pellach yng ngêm y merched.

Yn y dyddiau cyn y gêm, roedd gennyf amserlen lawn o ymweliadau, cyfarfodydd a digwyddiadau lle edrychwyd ar brofiadau cyffredin ym maes chwaraeon, diwylliant a threftadaeth.

Roedd fy nghyfarfod cyntaf gyda Chomisiwn iaith Māori yn Wellington i drafod llwybrau cyffredin i’r adfywiad ar gyfer yr ieithoedd brodorol.  Yna cefais gyfarfod â Peter Miskimmin, Rheolwr Diplomyddiaeth Chwaraeon a chyn-Brif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Seland Newydd. Buom yn trafod diplomyddiaeth, cynhwysiant a chydweithio ym myd chwaraeon, a'r manteision economaidd a chymdeithasol, yn arbennig o ran gwledydd llai.

Cyfarfod olaf fy niwrnod cyntaf oedd gyda'r Uchel Gomisiynydd yn Swyddfa Conswl Prydain yn Seland Newydd, Iona Thomas.

Ar fy ail ddiwrnod yn Seland Newydd, cefais y cyfle i drafod datblygiad gêm y merched gyda Traci Houpapa, cyfarwyddwr proffesiynol Women in Rugby Aotearoa.  Wedi hyn cafwyd cyfarfod gyda dirprwy Is-Ganghellor uwch Prifysgol Waikato, yr Athro Alister Jones i drafod y cysylltiadau academaidd rhwng ein dwy wlad.

Yn ddiweddarach cwrddais â chynrychiolwyr o Healthy Active Learning ac Active Me - Kia Tu. Dyma ddwy raglen a gynhelir gan Chwaraeon Seland Newydd gyda'r nod o wella ansawdd gweithgarwch corfforol pobl ifanc er mwyn hybu lles a chefnogi plant difreintiedig i weithgarwch corfforol.   

Cefais gyfarfodydd adeiladol hefyd gyda Raelene Castle, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Seland Newydd, Rachel Froggatt, a Raewyn Lovett, Ysgrifennydd Cyffredinol a Chyd-gadeirydd y Gweithgor Rhyngwladol Merched mewn Chwaraeon, yn y drefn honno.   Cefais gyfarfod dwyochrog gyda Priyanca Radhakrishnan AS, Gweinidog Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chymunedau Ethnig i drafod sut y mae ein priod lywodraethau yn ceisio mynd i'r afael â llawer o'r materion heriol sy'n wynebu'r ddwy wlad.

Teithiais i Queenstown i ymweld â Skyline Enterprises Ltd a'r Shotover Jet - dau atyniad twristiaeth antur i weld sut y mae Queenstown wedi defnyddio'r tirlun naturiol yn gefndir hardd i fentrau llwyddiannus.

Rydym wrthi'n trafod dod ag atyniad twristiaeth antur o Seland Newydd i Gymru ac roedd yn werthfawr i mi weld o lygad y ffynnon un o'i phrif atyniadau tra hefyd yn trafod yr hyn sy’n gyffredin â'n gwaith yng Nghymru, yn enwedig mynd i’r afael ag ymrwymiadau amgylcheddol a chynnwys iaith frodorol fel rhan o'u strategaethau.

Mae'r ymweliad hwn - ar adeg pan fo tîm Cymru yn perfformio ar lwyfan chwaraeon y byd - yn gyfle gwych i ddangos bod Cymru yn genedl sy'n edrych tuag allan, yn agored i fusnes ac yn benderfynol o gynnal cysylltiadau sy'n bodoli eisoes ac edrych ar ffyrdd newydd o gryfhau'r cyfeillgarwch arbennig sy'n bodoli rhwng Cymru a Seland Newydd.