Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Dychwelais o'r Swistir yn ddiweddar, lle roeddwn i'n falch o wylio Menywod Cymru yn gwneud eu gorau glas yn y gêm grŵp olaf yn erbyn Lloegr yn Arena St. Gallen yn St. Gallen. Roedd yn achlysur cofiadwy i bawb yn y stadiwm, yn Ardal y Cefnogwyr ac o amgylch y ddinas.
Yn ystod fy ymweliad â St. Gallen, rhwng 11 a 14 Gorffennaf, cyfarfûm â Chymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) i drafod sut rydym yn gwneud y mwyaf o effaith ymddangosiad cyntaf Menywod Cymru mewn rowndiau terfynol twrnamaint mawr a'r buddsoddiadau yr ydym yn eu gwneud drwy'r Gronfa Cymorth i Bartneriaid gwerth £1m, rhaglen gyfalaf Chwaraeon Cymru a'r Rhaglen Cyfleusterau Aml-chwaraeon ar Lawr Gwlad yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â'n gwaith gyda'r FAW a'n holl bartneriaid i annog a chefnogi rhagor o fenywod a merched i wylio, dilyn, chwarae, gwirfoddoli neu weithio yn y gêm bêl-droed.
Ddydd Sadwrn, 12 Gorffennaf 2025, ymwelais â Llyfrgell Abaty St. Gallen, Safle Treftadaeth Ddiwylliannol y Byd UNESCO, y llyfrgell hynaf yn y Swistir ac un o'r llyfrgelloedd mynachlog mwyaf a hynaf yn y byd. Mae ei llyfrau a'i dogfennau gwreiddiol yn catalogio datblygiad diwylliant Ewropeaidd ac mae’n cael ei disgrifio fel ‘fferyllfa'r enaid’. Ymwelais hefyd â chanolfan tîm Menywod Cymru, yn Weinfelden, lle dangosodd amrywiaeth drawiadol iawn o gyfleusterau elitaidd a gwasanaethau cymorth yn glir lefel y cynllunio, y paratoi a'r proffesiynoldeb y tu ôl i'r tîm. Ar ôl dychwelyd i St. Gallen, cyfarfûm â'n bardd preswyl, Sarah McCreadie, sy'n defnyddio ei hangerdd am bêl-droed Cymru a'r gair llafar i gofnodi a dathlu taith y tîm, i hyrwyddo pêl-droed menywod ac ysbrydoli pobl ifanc i ddarllen ac ysgrifennu barddoniaeth.
Ar ddiwrnod y gêm yn erbyn Lloegr, ar 13 Gorffennaf, cefais y fraint o gynrychioli Llywodraeth Cymru yn yr Apéro a gynhaliwyd gan Lywodraeth Gantonol St. Gallen, lle roeddwn yn gallu diolch i gynrychiolwyr lleol am groesawu cefnogwyr Cymru a rhannu uchafbwyntiau diwylliannol y Canton gyda ni i gyd. Fe wnes i hefyd gwrdd â swyddogion conswl Prydain a diolch iddynt am y gefnogaeth a'r cymorth a roddwyd ganddynt i ymwelwyr o Gymru yn ystod y gystadleuaeth.
Yn ystod y twrnamaint, mae pobl a chynulleidfaoedd yn Lucerne a St. Gallen wedi gweld y gorau o Gymru a'i gwerthoedd o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, drwy lens chwaraeon, barddoniaeth, cerddoriaeth a chreadigrwydd. Gall Menywod Cymru fod yn hynod falch o'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni a'r ysbrydoliaeth maen nhw wedi'i roi i filoedd o fechgyn a merched ledled Cymru. Mae cefnogwyr Cymru hefyd wedi gadael eu marc ar y twrnamaint gyda'u hangerdd drwy gân a'u balchder a'u cefnogaeth diwyro.
Hoffwn ddiolch i Rhian Wilkinson, y tîm, a staff yr ystafell gefn am yr ymdrech a'r ymroddiad a roddwyd ganddynt yn ystod y gystadleuaeth. Hoffwn hefyd ddiolch i'r FAW a holl sefydliadau Cronfa Cymorth i Bartneriaid Ewro 2025 allan yn y Swistir ac yng Nghymru am greu argraff mor gadarnhaol o'r gystadleuaeth.
