Jack Sargeant, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Rhwng 14 a 16 Tachwedd, ymwelais â'r Swistir a Liechtenstein i gymryd rhan mewn digwyddiadau coffa i anrhydeddu canmlwyddiant genedigaeth yr eicon Hollywood o Gymru, Richard Burton, ac i gynrychioli Llywodraeth Cymru yn ffurfiol yng ngêm ragbrofol Cwpan y Byd rhwng Liechtenstein a Chymru.
Yng Ngenefa, ymwelais ag Ysgol Ryngwladol La Chataigneraie, lle dysgais am waddol twrnamaint Ewro 2025 i Fenywod, gan ennill dealltwriaeth ddyfnach o sut gwaeth y twrnamaint yn yr haf greu gwaddol a datblygu pêl-droed merched a menywod ymhellach.
Roedd yr ymweliad hwn yn gyfle unigryw i dalu teyrnged i hanes anhygoel Richard Burton. Cafodd ei eni ym Mhont-rhyd-y-fen yn 1925, a daeth yn eicon byd-eang y byd ffilm a theatr, gan ymgartrefu yn Céligny, y Swistir o 1957 hyd ei farwolaeth yn 1984.
Cymerais ran mewn cyfres o ddigwyddiadau seremonïol a choffa i nodi canmlwyddiant Richard Burton. Roedd y rhaglen yn cynnwys dadorchuddio plac treftadaeth yn ei hen breswylfa, yn ogystal ag ailenwi sgwâr y pentref yn swyddogol yn Place Richard Burton.
Roedd yr orymdaith i fynwent Céligny yng ngolau cannwyll yn arbennig o ingol, gan mai'r fan honno yw man gorffwys Richard Burton. Yn ystod y daith chwaraewyd ei hoff emyn, a recordiad o gerdd Dylan Thomas, 'Under Milk Wood' a oedd ag arwyddocâd arbennig i Richard Burton.
Ar 15 Tachwedd, teithiais i Vaduz, lle manteisiais ar y cyfle i fynd ar daith o amgylch safleoedd diwylliannol y brifddinas, gan ddod i ddeall treftadaeth y wlad yn well. Wedi hynny, fe wnes i fy ffordd i Stadiwm Rheinpark i gynrychioli Llywodraeth Cymru ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd Cymru yn erbyn Liechtenstein, lle cefais fy nghroesawu gan y Gweinidog Hurbert Büchel o'r Weinyddiaeth Fewnol, Materion Economaidd a Chwaraeon.
Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb a wnaeth yr ymweliad hwn yn brofiad mor gofiadwy ac ystyrlon, gan dynnu sylw at y cysylltiadau diwylliannol a chwaraeon cadarnhaol rhwng ein gwledydd.
