Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau yn gwybod i mi ymweld â’r Unol Daleithiau yr wythnos ddiwethaf, gyda’r bwriad o hyrwyddo Cymru a gwneud yn glir ein bod yn gwbl agored ar gyfer busnes. Ymwelais ag Atlanta, Cincinnati a Chicago, ac fe gefais gyfle i gwrdd â nifer o gwmnïau sydd â phresenoldeb yma yng Nghymru.

Yn Atlanta, cefais gyfle i gyfarfod uwch gynrychiolwyr CNN a Valero, ac fe gynhaliais ginio busnes ar gyfer Bwrdd Gweithredol Cyngor Busnes Prydain America yn Georgia. Cwrddais â Maer Atlanta ac fe gefais gyfarfod gyda Chomisiynydd Adran Datblygu Economaidd Georgia, er mwyn trafod y camau enfawr sydd wedi’u cymryd i ddenu busnesau i fuddsoddi yn Georgia.

Yn Cincinnati ymwelais ag un o brif safleoedd GE Aviation i weld y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg injans awyrennau.

Yn Chicago, cwrddais â chynrychiolwyr cwmnïau United Airlines a Zodiac Seats (UK).  Yn ddiweddar fe lwyddodd Zodiac i sicrhau contract sylweddol i ddarparu seddi awyrennau o safon uchel i United, ac mae’r seddi hynny’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru.

Ymwelais hefyd â chwmni S&C Electric yn Chicago, i weld eu systemau trosglwyddo a dosbarthu trydan. Yn ystod yr ymweliad, siaradais â rhai o weithwyr y cwmni yn Abertawe drwy gyswllt fideo.

Ar ben hynny cefais gwrdd â chynrychiolwyr o Zimmer Biomet, cwmni blaengar sy’n cynhyrchu dyfeisiau meddygol, ac sydd â phresenoldeb sylweddol yng Nghymru. Roedd yn bleser clywed bod y cwmni wedi cyhoeddi buddsoddiad pellach yn y safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Yn Atlanta a Chicago roeddwn yn bresennol mewn derbyniadau i hyrwyddo Cymru, dan nawdd Consyliaid Cyffredinol Prydain yn y dinasoedd hynny. Roedd amrywiaeth eang o bobl yn bresennol, rhai â chysylltiadau â Chymru eisoes ac eraill â diddordeb mewn dysgu mwy am ein gwlad.

Ar ddiwrnod olaf fy ymweliad, cefais gyfle i annerch Cyngor Chicago ar Faterion Byd-eang, a oedd wedi fy ngwahodd i siarad ynghylch effaith Brexit ar Ewrop, y Deyrnas Unedig a Chymru.

Roedd yn gwbl glir bod y gymuned fusnes yn yr Unol Daleithiau yn ymwybodol iawn o effaith bosibl Brexit ar eu gweithgarwch yn y Deyrnas Unedig. Pwysleisiais wrth yr arweinwyr busnes y byddaf yn pwyso’n galed am gytundeb sy’n sicrhau mynediad rhydd a dilyfethair at Farchnad Sengl Ewrop. Mae’n hanfodol i’r rhai sy’n buddsoddi yng Nghymru fedru parhau i fasnachu’n rhydd ar draws yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd yn galonogol clywed pob cwmni â welais sydd â phresenoldeb yng Nghymru yn dweud faint maen nhw’n gwerthfawrogi eu gweithluoedd a’r ffordd y mae sgiliau ac ymroddiad y gweithwyr wedi creu argraff arnynt. Sgiliau ac ymroddiad ein pobl fydd sylfaen ein llwyddiant wrth i ni symud ymlaen drwy’r cyfnod heriol hwn.