Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Ysgrifenedig - Ymweliad â Catalonia a Gwlad y Basg - Mehefin 2018

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr wythnos ddiwethaf roeddwn ar ymweliad â Catalonia a Gwlad y Basg, i rannu profiadau, dysgu mwy o lwyddiant eu mentrau clystyru arloesol ac edrych am ragor o gyfleoedd i gydweithio.

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi i sefydlu Clystyrau Bwyd penodol, sy'n cynnwys sectorau pwysig megis diod, bwyd môr, maetheg, bwyd da ac allforion. Mae'r Clystyrau Bwyd newydd hyn eisoes yn trafod gyda dros 450 o fusnesau, gan annog cydweithio a gweithio ar y cyd, darparu dull pwerus ar gyfer ysgogi twf ac agor cyfleoedd newydd yn y farchnad ar draws ein diwydiant bwyd a diod 'sylfaenol'.

Ochr yn ochr â chynrychiolwyr Clystyrau Bwyd Cymru, cefais gyfarfod ag ACCIÓ, Asiantaeth Cystadleurwydd Catalonia; Rhwydwaith TCI, sy'n cefnogi datblygu economaidd yn seiliedig ar glystyrau; IRTA, Canolfan Technoleg Bwyd Catalonia; SPRI, Asiantaeth Datblygu Busnes Gwlad y Basg; Orkestra, Sefydliad Cystadleurwydd Gwlad y Basg; a Chlwstwr Bwyd Gwlad y Basg. Rhoddodd y cyfarfodydd gipolwg gwerthfawr i Glysytrau Bwyd Cymru ar bolisi clystyrau Catalonia a Gwlad y Basg (sy'n cael eu cydnabod fel un o'r hynaf yn y byd), fydd yn cefnogi datblygiad Clystyrau Bwyd Cymru yn y dyfodol i gefnogi mwy o fasnach a chystadleurwydd.

Yn ystod yr ymweliad â Gwlad y Basg, cefais gyfarfod â Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd Gwlad y Basg, i drafod datblygu rhwydwaith newydd ar gyfer yr UE o 'ranbarthau bwyd amlwg' - y rhwydwaith REGAL. Mae'r rhwydwaith, sy'n cynnwys Cymru a Gwlad y Basg, yn canolbwyntio ar ddatblygu diwylliant bwyd a chefnogi entrepreneuriaeth ac arloesedd. Roedd y cyfarfod hwn hefyd yn rhan o broses gyfnewid barhaus rhwng Cymru a Gwlad y Basg wrth inni barhau i gryfhau'r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad.

Ar y cyfan, roedd yr ymweliad yn cynnig cipolwg ymarferol i lywio datblygiad y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru yn y dyfodol, roedd hefyd yn gwneud mwy i godi proffil Cymru yn y marchnadoedd pwysig hyn, ac yn dangos ein hymrwymiad cadarn i barhau i gydweithio'n agos â'n partneriaid yn Ewrop mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin, a thrwy hynny gefnogi'n hymdrechion i sicrhau diwydiant cadarn sy'n ffynnu yng Nghymru wedi inni ymadael â'r UE.