Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw mae Comisiynydd Cyflogaeth, Materion Cymdeithasol a Chynhwysiant yr Undeb Ewropeaidd, László Andor, yng Nghymru i weld dros ei hun yr hyn a gyflawnwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), sy’n cefnogi miloedd o bobl a busnesau ledled Cymru.

Yn ystod ei ymweliad un diwrnod, bydd y Comisiynydd hefyd yn cwrdd ag Aelodau o Senedd Ewrop, llefarwyr trawsbleidiol ar Ewrop yn y Cynulliad Cenedlaethol, Aelodau Pwyllgor Rhanbarthau’r UE, a Chadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor Monitro Rhaglen newydd ar gyfer cyllid yr UE.

Yn ystod yr ymweliadau â phrosiectau ESF, bydd y Comisiynydd yn cyfarfod pobl ifanc sy’n cael eu cefnogi o dan gynllun Twf Swyddi Cymru, rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru. Yn dilyn profiad gwaith am dâl am chwe mis, mae’r bobl ifanc wedi sicrhau swyddi parhaol gyda Grŵp Admiral yng Nghaerdydd. Bydd ef hefyd yn cyfarfod prentisiaid peirianneg yn GE Aviation yn Nantgarw - prif arbenigwr y byd o gofal peiriannau jet mawr a bach i awyrennau masnachol a milwrol sydd wedi derbyn cymorth drwy Sgiliau Twf Cymru a chynlluniau Prentisiaeth Llywodraeth Cymru.

Yn Nhrecelyn, bydd y Comisiynydd yn cwrdd â phobl ifanc agored i niwed a difreintiedig sydd yn dysgu sgiliau newydd, yn ennill hyder ac yn cael eu paratoi ar gyfer dyfodol gwell gyda chymorth y prosiect PUPIL (Disgyblion yn Deall Problemau yn eu Hardal). O dan arweiniad Cymdeithas Atal Troseddu Cwm Cynon, mewn partneriaeth â’r Heddlu, chwe awdurdod lleol a’r Sefydliad Troseddwyr Ifanc, mae’r prosiect eisoes wedi helpu dros 5,800 o bobl ifanc ac mae’n bleser gennyf gyhoeddi heddiw £600,000 ychwanegol o arian Ewropeaidd i ehangu cyflwyno’r prosiect hyd at ddiwedd y flwyddyn.

Rhwng popeth, mae prosiectau ESF ar draws Cymru wedi cefnogi 162,000 o unigolion i ennill cymwysterau, helpwyd dros 54,300 i mewn i waith a 38,450 i ddysgu pellach.

Dangosodd arolwg annibynnol diweddar fod bron i dri chwarter yr ymatebwyr wedi ennill cymhwyster o ganlyniad i hyfforddiant ESF, roedd tua dwy ran o dair o’r unigolion a oedd yn ddi-waith ynghynt a 30% o’r rheiny a oedd yn economaidd anweithgar mewn cyflogaeth o fewn 12 mis i gwblhau eu hyfforddiant ESF. Yn ychwanegol, roedd cyfranogwyr ESF di-waith, o’u cymharu â’r boblogaeth ehangach, tua 20% yn fwy tebygol o ddod o hyd i swydd nag unigolion di-waith nad oedd wedi dilyn hyfforddiant ESF.

Mae rhaglenni newydd yr UE ar gyfer 2014-2020 a fydd yn parhau i gefnogi swyddi, sgiliau a thwf economaidd, wrthi’n cael eu hystyried mewn drafft gan y Comisiwn Ewropeaidd. Ni ellir cytuno ar y rhaglenni hyn yn ffurfiol hyd nes bydd Llywodraeth y DU wedi cyflwyno Cytundeb Partneriaeth y DU, sydd erbyn hyn wedi’i ohirio tan ganol Mawrth 2014.

Yn y cyfamser, cyhoeddwyd drafftiau o Bennod Cymru yng Nghytundeb Partneriaeth y DU, Rhaglenni Gweithredol ERDF ac ESF Cymru, y Fframwaith Blaenoriaethau Economaidd a chanllawiau eraill er mwyn helpu darpar noddwyr i gynllunio a datblygu prosiectau. Mae Pwyllgor Monitro Rhaglen Strwythurol a Chronfeydd Buddsoddi newydd Cymru 2014-2020 hefyd wedi cyfarfod ar ffurf gysgodol i drafod y fethodoleg a’r meini prawf a gynigir ar gyfer dewis gweithrediadau o gronfeydd Ewrop fel y gallwn fwrw iddi’n syth cyn gynted ag y caiff y rhaglenni gytundeb y Comisiwn.