Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fe ymwelais â Gibraltar ar 29 a 30 Mehefin ar wahoddiad y Prif Weinidog, yr Anrhydeddus Fabian Picardo, CF, AS.

Diben yr ymweliad oedd trafod barn y naill a’r llall am yr heriau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil ymadawiad y DU â'r UE; safbwynt negodi Llywodraeth y DU fel yr amlinellwyd ef yn y llythyr Erthygl 50 gan y Prif Weinidog at Lywydd y Cyngor Ewropeaidd, a sefyllfa'r trafodaethau ar hyn o bryd. Bwriad arall i'r ymweliad oedd ein galluogi i ddeall blaenoriaethau ein gilydd yn well o ran canlyniad y trafodaethau.

I Gibraltar, roedd y blaenoriaethau hyn yn cynnwys: sicrhau bod modd i bobl a nwyddau barhau i symud yn gymharol ddirwystr dros y ffin â Sbaen; sicrhau bod Gibraltar yn cael ei chynnwys mewn unrhyw gytundeb masnach rydd yn y dyfodol rhwng y DU a 27 gwlad yr UE, yn ogystal ag unrhyw gytundebau masnach rydd newydd â thrydydd gwledydd, gan barhau i barchu ei statws yn llawn fel Tiriogaeth Dramor hunanlywodraethol; a sicrhau lefelau mynediad uchel a pharhaus at farchnad y DU a marchnad sengl yr UE.

Cefais y cyfle i drafod y materion hyn dros ginio gyda'r Prif Weinidog, y Gweinidog Datblygu Economaidd (a'r cyn Brif Weinidog), yr Anrhydeddus Joe Bossano, AS a'r Gweinidog Tai a Chydraddoldeb, yr Anrhydeddus Samantha Sacramento, AS.

Yn ogystal â hyn, cefais gyfarfod ar wahân â'r Dirprwy Brif Weinidog, yr Anrhydeddus Dr Joseph Garcia, AS, sy'n arwain materion Ewropeaidd a'r trafodaethau Brexit. Roedd y cyfarfodydd hyn hefyd yn gyfle inni drafod ffyrdd o sicrhau bod cydweithio agosach yn digwydd yn ystod trafodaethau Brexit rhwng Cymru, ac o bosibl y Gweinyddiaethau Datganoledig eraill, a Gibraltar yn y dyfodol.

Yn ogystal â'r cyfarfodydd hyn â'r Llywodraeth, cefais fy nghyflwyno i Lywodraethwr Gibraltar, Ei Ardderchogrwydd yr Is-gadfridog Edward Davis, CB, CBE, KStJ. Er mwyn clywed pryderon a dyheadau'r gymuned fusnes drosof fy hun, cefais hefyd gyfarfod â chynrychiolwyr o Siambr Fasnach a Ffederasiwn Busnesau Bach Gibraltar.

Yn olaf, bûm yn bresennol mewn cinio bach a oedd yn cael ei gynnal gan yr Anrhydeddus Albert Isola, AS, y Gweinidog Gwasanaethau Ariannol a Hapchwarae. Dyma gyfle i gyfarfod ag unigolion blaenllaw eraill yn Gibraltar, gan gynnwys Syr Peter Caruana, KCMG, CF a fu'n Brif Weinidog o 1996 i 2011, a'r Gweinidog Iechyd, Gofal a Chyfiawnder, yr Anrhydeddus Neil F. Costa, AS.