Neidio i'r prif gynnwys

Adam Price AS, Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhwng 12 a 16 Hydref 2026, ymwelais â Boston, Massachusetts i fynychu Uwchgynhadledd Weinidogol flynyddol 'Disruptive & Emerging Technologies Alliance' (DETA) 2026. 

Mae Cymru'n Aelod o DETA, sydd ag aelodaeth fyd-eang. Yn Uwchgynhadledd Boston, amlinellais ein hymrwymiad i barhau i ddefnyddio'r uwchgynadleddau a'r gweithgorau i gyfnewid gwybodaeth, llywio gwaith datblygu polisi, ac adeiladu partneriaethau rhyngwladol. 

Ffocws Uwchgynhadledd 2026 oedd AI a hawliau digidol. Yn y gynhadledd, lansiodd aelodau rwydwaith AI DETA i weithio gyda'i gilydd ar gyfleoedd a rennir a chyfeiriad polisi mewn meysydd fel llywodraethu. 

Tra roeddwn yn Boston, fe wnes i hefyd fwrw ymlaen â rhaglen o gyfarfodydd ac ymrwymiadau i hyrwyddo cysylltiadau a chyfleoedd masnach a buddsoddi i Gymru yn rhanbarth ehangach Boston/Massachusetts. Cyfarfûm â chwmnïau fel IBM a Mass Robotics yn Harvard ac MIT i drafod buddsoddiad a phartneriaethau yng Nghymru.

Gyda chefnogaeth Global Welsh, cyfarfûm ag aelodau o'r Cymry ar wasgar yn Boston i drafod prosiectau buddsoddi cyfredol a chyfleoedd i ddatblygu rhwydwaith gryf o arweinwyr busnes i nodi a sicrhau llwybrau buddsoddi newydd i Gymru. Ar y cyd â Phrif Gonswl y DU, cynhaliais ginio i ddathlu'r cysylltiadau rhwng Cymru a Boston, a chyfarfod â buddsoddwyr newydd a phresennol o sectorau gan gynnwys adeiladu, gwyddorau bywyd, ynni adnewyddadwy a thechnoleg dur yn ogystal â chyfalafwyr menter lleol, ac arweinwyr busnes.

Yn ystod fy ymweliad, cyfarfûm â buddsoddwr presennol o'r Unol Daleithiau yng Nghymru, Microchip, sydd â chanolfan yng Nghil-y-coed.  Dangosodd y cyfarfod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r aelod allweddol hwn o'n clwstwr lled-ddargludyddion a chafwyd cyfle i drafod cyfleoedd buddsoddi gyda'r cwmni yn y dyfodol. Ymwelais hefyd â chanolfan feithrin busnesau gwyrdd mwyaf y byd, Greentown Labs, sydd wedi bod yn llwyddiannus yn Boston a Houston trwy gefnogi cwmnïau sy'n tyfu i sicrhau buddsoddiad a chreu mwy na 17,000 o swyddi newydd yn y 10 mlynedd diwethaf.  Fe wnes i hefyd gyfarfod â chwmnïau tenant sydd ag uchelgais i dyfu yn Ewrop, ac fe wnaethom drafod cyfleoedd yng Nghymru. Ar ben hynny, buom yn trafod cydweithrediad posibl gyda Greentown Labs ar gyfer canolfan yng Nghymru.

Roeddwn hefyd yn falch iawn o gael gwahoddiad i draddodi darlith yn Labordy Twf Prifysgol Harvard ar y cyfleoedd y mae AI yn eu cyflwyno i Gymru.

Gwnaethpwyd cysylltiadau newydd i Gymru yn sgil yr ymweliad, ac fe wnaeth gadarnhau'r berthynas â buddsoddwyr presennol ar yr un pryd. Mae gwaith dilynol ar y gweill i sicrhau canlyniadau masnach a buddsoddi newydd i Gymru.