Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel y gŵyr yr Aelodau, bûm ar ymweliad Gweinidogol ag India yn ddiweddar. Diben fy ymweliad oedd atgyfnerthu a gwella'r cynllun Menter Hyfforddiant Meddygol (MTI) sy'n cael ei rhedeg gan Gymdeithas Prydain ar gyfer Meddygon o Dras Indiaidd (British Association of Physicians of Indian Origin (BAPIO)), ynghyd â GIG Cymru i feithrin cysylltiadau newydd gyda Llywodraethau Taleithiau ac Undebau India.

Dyma'r bedwaredd flwyddyn i’r rhaglen MTI weithredu yn India, ac mae'n galluogi meddygon o India i elwa ar hyfforddiant a chyfleoedd datblygu yn GIG Cymru am hyd at 24 mis. Yn sgil llwyddiant y cynllun, eleni mae wedi cael ei ehangu i gynnwys rhanbarth Chennai. Mae GIG Cymru a phobl Cymru yn elwa ar nifer sylweddol o feddygon graddfa ganol.

Eto eleni, cafwyd nifer mawr o geisiadau, ac mae disgwyl i dros 100 o feddygon gael eu derbyn i'r rhaglen. Yn yr un modd â'r blynyddoedd diwethaf, caiff y meddygon eu paru a'u lleoli ar draws pob un o'r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru.

Cwrddais â nifer o sefydliadau sy'n gweithio yn y maes gofal iechyd, nyrs feddygol ac ysgolion hyfforddi gofal iechyd proffesiynol, darparwyr gofal iechyd ac, wrth gwrs, nifer mawr o feddygon. Cynhaliwyd y cyfarfodydd hyn yn Jaipur a Bharatpur yn nhalaith Rajasthan, a Chennai yn nhalaith Tamil Nadu.

Yn Jaipur, cwrddais â'r canlynol:

  • Cwmni meddalwedd Pratham sy'n arbenigo mewn telefeddygaeth arloesol a systemau cofnodion meddygol cleifion
  • Dr G K Prabhu, Llywydd, Prifysgol Manipal Jaipur a'r uwch-dîm a oedd yn cynnwys llofnodi'r memoranda cyd-ddealltwriaeth rhwng Prifysgol Manipal a Phrifysgol De Cymru
  • Vishnu Laate, Maer Jaipur a Dr Mahesh Joshi, Prif Chwip Llywodraeth Rajasthan

Yn Delhi Newydd, cwrddais â'r tîm recriwtio MTI ynghyd â grŵp o ymgeiswyr. Yna, cwrddais ag Uchel Gomisiynydd Prydain a gynhaliodd dderbyniad ym mhreswylfa'r Uchel Gomisiwn. Diben y derbyniad oedd codi proffil Cymru ym mhrifddinas India, ac roedd cynrychiolwyr o'r meysydd iechyd, busnes ac addysg yn bresennol. Cwrddais â nifer o fewnfuddsoddwyr hefyd.

Yn Chennai, cwrddais unwaith eto â'r Tîm Recriwtio MTI. Bûm hefyd yn agor uned trawsblannu bôn-gelloedd yn ysbyty SIMS yn Chennai. Bydd yr uned hon yn darparu triniaeth a allai achub bywydau cleifion sy’n dioddef o ganser ac anhwylderau'r gwaed. Yn ogystal â hynny, roeddwn yn bresennol wrth i dri memoranda cyd-ddealltwriaeth arall ar ofal iechyd gael eu llofnodi, gyda'r sefydliadau canlynol:

  • Prifysgol BIHER Chennai
  • Sefydliad Meddygol KI Chengeluput, Tamil Nadu
  • Sefydliad Gwyddorau Meddygol Sriram yn Chennai

Cynhaliais hefyd gyfarfod anffurfiol gyda Dr C Vijaya Baskar, Gweinidog dros Iechyd a Lles Teuluol, Llywodraeth Tamil Nadu. Mae cyfleoedd clir ar gael i Gymru ac India gydweithio, sy'n mynd y tu hwnt i recriwtio a hyfforddi staff.

Roedd swyddfa Uchel Gomisiwn Prydain yn Chennai yn barod iawn i helpu, ac yn hollol broffesiynol. Mae'n amlwg eu bod yn credu bod cyfleoedd pellach i Gymru fuddsoddi a chwarae rhan yn y maes gofal iechyd, TG a chyfnewid gwybodaeth am fusnes.

Drwy gydol fy ymweliadau, roedd yn galonogol gweld cymaint o feddygon Indiaidd a oedd yn falch o'u profiadau o weithio yn ein system GIG. Dangosodd hyn fod gan GIG Cymru enw da ar lefel fyd-eang am ragoriaeth ac ansawdd.

Mae'r adborth gan gynrychiolwyr o Gymru am yr effaith y mae'r ymweliad wedi'i chael wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae'n amlwg bod cyfranogiad gweinidogol yn ffactor pwysig wrth feithrin a chynnal cydberthnasau yn India.

Ers i mi ddychwelyd, rydw i wedi trafod fy ymweliad gyda'r Prif Weinidog, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Os ydym am ystyried pa gyfleoedd sydd ar gael ar draws y maes gofal iechyd, TG a'r economi, yna bydd angen trefnu rhagor o waith ymgysylltu gan Weinidogion a swyddogion.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.