Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ymwelais â Qatar rhwng 19 a 22 Tachwedd i gefnogi tîm pêl-droed Cymru yn ei gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd yn erbyn UDA. Cymerais ran hefyd mewn rhaglen ehangach o weithgarwch a gynlluniwyd i hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd a thynnu sylw at ein gwerthoedd.

Fy ymweliad cyntaf oedd wrth osod yr het fwced Gymreig, a oedd yn ganolbwynt i bresenoldeb Cymru yn Doha. Cwrddais â Llysgenhadon Cymdeithas Bêl-droed Cymru Ian Rush a Jess Fishlock, ac un o’n Llysgenhadon Lleisiau Cymru, Colin Jackson, a chyda’n gilydd fe wnaethom gymryd rhan mewn amrywiaeth o ymgysylltiadau â’r cyfryngau byd-eang. Parhaodd diddordeb y cyfryngau yng Nghymru drwy gydol yr amser a dreuliais yn Qatar, gan gyflwyno nifer o gyfleoedd i nodi’r rhesymau y tu ôl i’m penderfyniad i deithio i’r Cwpan y Byd hwn - i gynrychioli Cymru a’i gwerthoedd ar lwyfan y byd. Yna, cwrddais â Gweinidog Diwylliant Qatar i drafod cyfleoedd cydweithio rhwng Amgueddfa Gelf Islamaidd ac Amgueddfa Cymru yn ogystal â thynnu sylw at raglen ddiwylliannol Cymru sy’n digwydd yn Qatar o amgylch Cwpan y Byd. Es i hefyd gyda dirprwyaeth o Amgueddfa Cymru i’r Amgueddfa Gelf Islamaidd, i gymeradwyo eu cynlluniau ar gyfer rhaglen gyfnewid curaduron benywaidd.

Yn dilyn fy nghyfarfod â’r Gweinidog Diwylliant, cwrddais â’r Dirprwy Brif Weinidog ac ag Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i drafod cyd-ddiddordeb ynghylch datblygu cynaliadwy a chenedlaethau’r dyfodol. Cefais gyfle hefyd i deithio i wersyll hyfforddi Cymru i gyfarfod â thîm pêl-droed Cymru a mynychu’r seremoni agoriadol a gêm gyntaf y twrnamaint, gan ddathlu pob un o’r 32 tîm yn y gystadleuaeth gyda Chymru yno am y tro cyntaf ers 64 mlynedd.

Ar ail ddiwrnod llawn y rhaglen, cwrddais â Chymdeithas Dynion Busnes Qatar i drafod cyfleoedd masnach a buddsoddi, yn enwedig ynghylch arbenigedd Cymru ym maes seiberddiogelwch, technoleg ariannol, ynni adnewyddadwy a gweithgynhyrchu uwch. 

Dilynwyd hyn gan gyfarfod â Phrif Weithredwr Qatar Airways, y diweddaraf mewn cyfres o drafodaethau am ailddechrau gwasanaeth hedfan o Doha i Gaerdydd a sut y byddai'r llwybr o fudd i allforwyr Cymru. 

Cynhaliodd Llysgennad Ei Fawrhydi i Qatar dderbyniad ar thema Cymru yn Llysgenhadaeth Prydain yn Doha, a fynychais, ynghyd ag Ysgrifennydd Tramor y DU. Gydag oddeutu 200 o westeion, rhoddodd y digwyddiad lwyfan i hyrwyddo Cymru a'i gwerthoedd i gynulleidfa proffil uchel gan gynnwys uwch arweinwyr busnes yn Qatar, cynrychiolwyr o'r sectorau academaidd a diwylliannol, cyn-fyfyrwyr Prifysgolion Cymru ac arweinwyr busnes allweddol Cymru a Phrydain. Roedd hefyd  yn gyfle i gyfarfod dirprwyaeth yr UDA ac uwch-gynrychiolwyr yr UDA, gan gynnwys Llysgennad yr UDA i Qatar, i drafod perthynas Cymru â'r UDA. Roedd y derbyniad yn arddangos y goreuon o fwydydd a diodydd Cymreig ac roedd yn cynnwys perfformiadau gan artistiaid a cherddorion Cymreig.

Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, cwrddais â Llysgennad y DU i Qatar i gael trafodaeth bellach yn dilyn ein cyfarfod ym mis Gorffennaf a’n trafodaeth ar werthoedd.

Rhan olaf fy rhaglen oedd gêm Cymru yn erbyn UDA lle cwrddais am gyfnod byr ag Ysgrifennydd Gwladol Unol Daleithiau America, Anthony Blinken. Gyda channoedd o gefnogwyr Cymru yn y gêm, cefais rannu fy ymateb i’r gôl gyntaf a sgoriwyd dros Gymru mewn rownd derfynol Cwpan y Byd ers dros hanner canrif, wrth i’r tîm sicrhau gêm gyfartal yn ei gêm gyntaf yn y twrnamaint.