Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bûm ar ymweliad â Japan yr wythnos diwethaf i gydnabod pwysigrwydd hirdymor y berthynas fasnachol rhwng y ddwy wlad. Mae cwmnïau o Japan wedi bod yn buddsoddi yng Nghymru ers dros 40 mlynedd, ac mae marchnad fasnachu fywiog a chynyddol yn parhau i ddatblygu i’r ddau ben. Roedd yr ymweliad yn gyfle i mi hyrwyddo Cymru fel lle rhagorol i fuddsoddi a dangos i’n cyfeillion hirsefydlog, a chymuned fusnes Japan yn ehangach, fod Cymru yn sicr ar agor i fusnes o hyd a bod Llywodraeth Cymru yn parhau i werthfawrogi ein perthynas â Japan yn fawr iawn.

Yn ystod fy ymweliad, cefais y pleser o ymweld â Sony, Toyota, Panasonic a Hitachi, sydd oll yn fuddsoddwyr mawr yng Nghymru. Yn ystod fy ymweliad, roeddwn i’n arbennig o falch o gael cyhoeddi buddsoddiad o £1.1m  gan Lywodraeth Cymru (drwy gyllid ad-daladwy) mewn technoleg newydd i helpu Sony ym Mhencoed i sicrhau’r prosiect i ddatblygu adran newydd Rheoli Cynnwys Cyfryngau Digidol, a fydd yn creu 30 o swyddi newydd.    

Cefais gyfarfodydd â nifer o gwmnïau i drafod strategaeth fusnes hirdymor. Ym mhob achos, mae’n amlwg iawn pam bod cwmnïau o Japan yn parhau i ffafrio Cymru fel lleoliad busnes. Yn gyntaf, maent yn cydnabod rhagoriaeth gweithlu Cymru, ac mae eu hymroddiad a’u harbenigedd i’w weld dros y degawdau – ac mae newyddion da yn lledaenu. Yn ail, dywedodd y cwmnïau wrthyf fod y dulliau cyfathrebu uniongyrchol sydd ganddynt â llywodraeth, awdurdodau lleol a sefydliadau addysgol ledled Cymru yn rhoi mantais gystadleuol i ni. Maen nhw’n gwybod y byddwn ni’n ymateb os bydd ganddynt broblem. Rydym wedi magu’r enw da hwn dros nifer o flynyddoedd ac rwy’n benderfynol ein bod yn parhau i adeiladu arno.

Cynhaliais dderbyniad yn Llysgenhadaeth Prydain i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru. Mae marchnad gynyddol yn Japan ac mae enw da cynnyrch o Gymru yn tyfu. Roeddwn i’n falch iawn o gael gweld y byrbrydau cyntaf i’w cynhyrchu gan Calbee, y buddsoddwr diweddaraf o Japan yng Nghymru, a agorodd yng Nglannau Dyfrdwy yn gynharach eleni. Ymysg y cynhyrchwyr eraill o Gymru sydd wedi taro cytundebau dosbarthu yn Japan mae Caws Cenarth, Caws Eryri, Cwrw Celt a Chwisgi Penderyn. Roedd SA Brains, Halen Môn, Wrexham Lager, Tŷ Nant, Hufenfa Bodnant, Rachel’s Organic, Bragdy Monty’s, Bragdy Mŵs Piws a Tan y Castell Welshcakes ymysg y cynhyrchion oedd ar gael yn y derbyniad. Mae gwaith dadansoddi yn dangos bo cynnyrch arbenigol a rhanbarthol yn dod yn fwyfwy poblogaidd yn Japan ac rwy’n gobeithio y bydd cwmnïau eraill yn dechrau allforio hefyd.  

Yn achos twristiaid o Japan, mae Cymru yn bell i ffwrdd yn amlwg, ac mae’n rhaid i ni gystadlu mewn marchnad heriol yn erbyn llawer o atyniadau Ewropeaidd eraill. Rydym wedi gwneud peth cynnydd yn hyn o beth drwy weithio gyda Visit Britain a diwydiant twristiaeth Japan. Yn fy nghyfarfod gyda Chymdeithas Asiantwyr Teithio Japan, roedd yn bleser gennyf nodi fod cais Conwy i fod ar ei rhestr o’r ’30 o bentrefi mwyaf prydferth yn Ewrop’ wedi bod yn llwyddiannus – yr unig leoliad yn y DU sydd ar y rhestr.  

Cefais drafodaethau yn Tokyo gyda chynrychiolwyr Llywodraeth Japan. Roedd hyn yn gyfle defnyddiol i danlinellu cryfder y berthynas sydd rhyngom a’r ymrwymiad rydym yn ei rannu i ddyfodol agos a chydfuddiannol. Ar drothwy Cwpan Rygbi’r Byd mae’n briodol gweld rygbi fel dolen bwysig a hirsefydlog rhwng y ddwy wlad, ac wrth gwrs, cynhelir Cwpan Rygbi’r Byd 2019 yn Japan. I’r perwyl hwn, cwrddais â Mr Yoshiro Mori, cyn Brif Weinidog Japan sydd bellach yn gyfrifol am baratoadau Japan ar gyfer Cwpan y Byd. Mae Cwpan y Byd 2019, a’r cyfnod yn arwain ato, yn gyfle rhagorol i adeiladu ymhellach ar y cysylltiadau sydd gennym â Japan.    

Drwy gydol fy amser yn fy rôl, rwyf wedi pwysleisio’r angen i fynd i bedwar ban byd a gwerthu Cymru fel gwlad i fuddsoddi, i fasnachu, i astudio ac i ymweld â hi. Mae’r farchnad fyd-eang yn brysur ac yn mynd yn fwy cystadleuol bob blwyddyn. Yn ddiweddar, gwelsom ein ffigurau buddsoddi gorau ers degawdau ac rwy’n benderfynol y dylem fynd ati’n gryfach fyth i barhau i fod yn gystadleuol. Japan yw un o’n partneriaid allweddol o hyd a’r buddsoddiad parhaus gan oddeutu 45 o gwmnïau o Japan yng Nghymru – sy’n cyfrif am oddeutu 6,000 o swyddi a miliynau o bunnoedd yn ein cynnyrch domestig gros – yw’r arwydd cryfaf posibl o’u hyder yng Nghymru a’n gweithlu.