Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Aelodau'n ymwybodol fy mod wedi ymweld â Norwy yr wythnos ddiwethaf.

Er nad yw'n aelod o'r UE a'i bod y tu allan i Undeb Tollau'r UE, mae gan Norwy fynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl ar gyfer y rhan fwyaf o'i nwyddau a'i gwasanaethau drwy fod yn aelod o'r Gymdeithas Masnach Rydd Ewropeaidd (EFTA) a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA).

Diben fy ymweliad oedd cael gwell dealltwriaeth o'r ffordd y mae'r berthynas hon yn gweithio, a dysgu mwy am fanteision ac anfanteision y model.

Ar drothwy'r trafodaethau Brexit, mae'n bwysig i ni adeiladu perthynas gyda gwledydd ar draws Ewrop a'r byd ehangach, a chael gwell dealltwriaeth o'r ffordd y maent yn masnachu'n llwyddiannus a gweithredu'n rhyngwladol.

Yn ystod fy ymweliad cefais gyfarfodydd gyda busnesau Norwyaidd a'r Gweinidogion sy'n gyfrifol am fasnach a pherthynas gyda'r UE o'r ddwy blaid sy'n llywodraethu fel clymblaid. Yn eu plith roedd Gweinidogion â chyfrifoldebau ym meysydd Addysg ac Ymchwil, Pysgodfeydd, Materion Ewropeaidd, Llywodraeth Leol, a Llafur a Materion Cymdeithasol.  Hefyd cefais gyfarfod cynrychiolwyr y brif wrthblaid Lafur a Chymdeithas Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol Norwy, y corff sy'n cynrychioli llywodraeth leol.  

Cefais gyfle i glywed am bolisïau Norwy mewn meysydd perthnasol fel datblygu economaidd rhanbarthol, cydlyniant cymdeithasol, diwygio llywodraeth leol, ac addysg a hyfforddiant.  Yng nghyd-destun yr olaf, ymwelais â choleg chweched dosbarth sy'n llwyddiannus iawn yn dysgu pobl ifanc 16-19 oed er mwyn dysgu mwy am ddull Norwy o ddysgu'r cwricwlwm ac, yn arbennig, integreiddio ffrydiau galwedigaethol ac academaidd. Mae Norwy'n buddsoddi cryn dipyn mewn addysg ac yn perfformio'n dda iawn yn rhyngwladol, yn arbennig yn y profion PISA, ac wedi sgorio dros gyfartaledd OECD ym mhob pwnc.

Mae Norwy'n wlad fach o ran ei phoblogaeth, sydd y tu allan i'r UE ond â'r cysylltiad agosaf ati. Mae'n llwyddo i gyflawni'n well na'r disgwyl, gan ystyried ei maint, yn economaidd ac yn wleidyddol.  Mae gennym lawer i'w ddysgu o'i phrofiadau.