Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’r ffaith fy mod wedi cyrraedd nôl yn ddiweddar o ymweliad ag India. Pwrpas yr ymweliad oedd adeiladu ar berthynas ragorol Cymru ag India a gwella cyfleoedd busnes. Drwy gydol yr ymweliad cefais gymorth Is-gennad Anrhydeddus India i Gymru, yn ogystal â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, UKTI a Llysgenhadaeth Prydain.

Yn Delhi, cyfarfûm â Ffederasiwn Siambr Fasnach a Diwydiant India (FICCI) i drafod masnach a buddsoddi. Roedd proffil ac enw da Cymru yn India i’w weld yn amlwg ym mharodrwydd ac awydd FICCI i archwilio amrywiaeth o gyfleoedd busnes, diwylliannol a thwristiaeth.

Gwnes gysylltiad â’r llywodraeth sydd newydd ei hethol yn India drwy gyfarfod â’r Gweinidog Cyllid, Amddiffyn a Materion Corfforaethol, Shri Arun Jaitley. Roedd ein cyfarfod yn un positif ac adeiladol ac yn cydnabod y cysylltiadau cryf sy’n bodoli rhwng y ddwy wlad. Disgrifiodd Mr Jaitley ei ymweliad yn ddiweddar gan ddweud ei fod wrth ei fodd â’r derbyniad a gafodd.

Ym Mwmbai cefais gyfarfod â Dirprwy Gadeirydd Tata Steel. Pwysleisiodd yntau ymrwymiad Tata i Gymru er gwaethaf yr heriau niferus sy’n wynebu’r diwydiant dur ar hyn o bryd. Nododd fod costau ynni uchel y DU yn parhau i beri anhawster o ran prisiau cystadleuol ac fe wnes i ei sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn dal i bwyso ar Lywodraeth y DU ar y mater hwn.

Cyfarfûm hefyd â Wockhardt, cwmni fferyllol mawr, a Firstsource Solutions, y ddau ohonynt yn cyflogi cannoedd o bobl yng Nghymru. Cefais fy nghalonogi wrth glywed am eu cynlluniau ar gyfer eu gwaith yng Nghymru ac fe wnes i eu sicrhau o’r berthynas gefnogol sy’n parhau rhyngddynt â Llywodraeth Cymru.

Roeddwn yn bresennol mewn derbyniad i fusnesau ym Mwmbai a gynhaliwyd i groesawu buddsoddwyr presennol a buddsoddwyr potensial i Gymru. Roedd y derbyniad hwn yn gyfle gwych i hyrwyddo cysylltiadau busnes a diwylliannol.

Roeddwn wrth fy modd o gael bod yn bresennol mewn digwyddiad gan y Cyngor Prydeinig i hyrwyddo’r diwydiannau creadigol ac i ddathlu gwaith Dylan Thomas, R.S. Thomas a Hedd Wyn. Roeddwn yn falch hefyd o gyfarfod â Rhian Edwards ac Eurig Salisbury, dau fardd Cymreig sy’n cydweithio â dau fardd Indiaidd, Sampurna Chattarji a Ranjit Hoskote, ac i glywed drosof fy hunan am y gwaith y maen nhw wedi bod yn ei gweithio arno.

Fe wnes i hefyd annerch agoriad Gŵyl Lenyddol Mumbai. Roedd hwn yn gyfle i ddathlu cysylltiadau gan gynnwys cerddoriaeth, iaith a barddoniaeth drwy ddathlu’r DT100.

Cynhaliais ginio busnes yn Mumbai ar gyfer cwmnïau sydd â diddordeb mewn buddsoddi yng Nghymru.  Roedd y cinio yn gyfle i amlygu’r buddiannau o fuddsoddi yng Nghymru a’r gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.

Tra yn Mumbai fe ges i’r cyfle i gymryd rhan mewn gwasanaeth coffa i’r bobl a gollodd eu bywydau yng ngwesty’r Taj Mahal Palace & Tower ar y 26ain o Dachwedd 2008.

Ers fy ymweliad diwethaf ag India yn 2012 mae Cymru wedi datblygu cysylltiadau cryf ag India. Byddwn yn adeiladu ar y cysylltiadau hyn yn y blynyddoedd i ddod. Credaf fod cyfleoedd arwyddocaol i Gymru yn India, ac i India yng Nghymru.