Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Rwyf i newydd ddod yn ôl o ymweliad cynhyrchiol â Chynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Ddatblygu Cynaliadwy yn Rio de Janeiro (Rio+20) fel aelod o ddirprwyaeth swyddogol y Deyrnas Unedig. Roedd yno gynrychiolwyr o dros 100 o genhedloedd yn ogystal â Chyrff Anllywodraethol a busnesau o bedwar ban byd, oll wedi dod ynghyd i drafod sut mae mynd i’r afael â phroblemau amgylcheddol y byd sy’n mynd o ddrwg i waeth.
Mae’n bwysig bod arweinwyr gwladwriaethau’r byd wedi pleidleisio o blaid nodi cyfraniad y llywodraethau rhanbarthol yn eu datganiad terfynol ar ddiwedd yr Uwch-gynhadledd. Mae’r testun hefyd yn cynnwys cydnabyddiaeth gref mai rhanbarthau a llywodraethau is-genedlaethol fydd yn arwain llawer o’r gwaith wrth daclo problemau’r amgylchedd.
Cefais innau gynrychioli Cymru fel gwlad sydd ar flaen y gad ym maes datblygu cynaliadwy a bûm yn hyrwyddo’r rhan bwysig y gallwn ei chwarae mewn trafodaethau byd-eang. Braf hefyd oedd cael dysgu a rhannu gwybodaeth werthfawr gyda gwledydd eraill y byd. Roedd Peter Davies, y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy, yn bresennol hefyd a chafodd rwydweithio gyda nifer o bobl allweddol a hyrwyddo’r gwaith da a wneir yng Nghymru.
Wrth annerch nifer o gyfarfodydd a digwyddiadau yn ystod yr Uwch-gynhadledd cefais gyfle i hyrwyddo’r modd y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud datblygu cynaliadwy yn rhan greiddiol o’i holl waith; codi ymwybyddiaeth o gyfraniad pwysig llywodraethau rhanbarthol i gynaliadwyedd yn rhyngwladol a holi barn eraill am gynlluniau Cymru i gyflwyno Bil Datblygu Cynaliadwy.
Wrth annerch Uwch-gynhadledd Gwladwriaethau a Rhanbarthau Ffederal y Byd, dan lywyddiaeth Llywodraethwr Talaith Rio, cefais ddysgu llawer am wahanol ddulliau o ddelio â datblygu cynaliadwy. Bydd hyn yn gymorth i sicrhau bod ein deddfwriaeth ni mor gryf ac effeithiol ag y bo modd. Disgrifiais ein rhaglen Cymru dros Affrica a phenderfyniad bwriadol y llywodraeth a phobl Cymru i fod yn genedl sydd â’u hwyneb i’r byd.
Anerchais hefyd gyfarfodydd y Grŵp Hinsawdd a rhwydwaith y llywodraethau rhanbarthol dros ddatblygu Cynaliadwy – dau rwydwaith rhyngwladol y mae Cymru yn chwarae rhan flaenllaw ynddynt. Cefais fy nghalonogi gan y gefnogaeth i’n cynigion arloesol ni ar gyfer deddfwriaeth Datblygu Cynaliadwy ac i fesurau eraill megis Arbed, ein rhaglen fuddsoddi strategol ar gyfer gwella perfformiad ynni. Mae Arbed wedi buddsoddi £66 miliwn yn yr economi werdd eisoes, gan wella effeithlonrwydd ynni 7,500 o gartrefi. Lansiwyd ail gam y rhaglen yn ddiweddar, a fydd yn buddsoddi £45 miliwn o arian Llywodraeth Cymru er mwyn lleihau biliau tanwydd 4,800 o gartrefi yn ardaloedd difreintiedig Cymru.  Dyma’r sylfeini ar gyfer creu Cymru mwy cynaliadwy.
Cynhaliais ddigwyddiad i glywed barn Cyrff Anllywodraethol a’r gymdeithas sifil am ein Bil Datblygu Cynaliadwy.  Roedd y digwyddiad yn llwyddiant gydag amrywiaeth o gyrff wedi anfon eu cynrychiolwyr iddo.  Byddaf yn trafod yr hyn y gallwn ei ddysgu o’r cyfraniadau gyda swyddogion er mwyn inni allu ei ddefnyddio i gaboli’n syniadau ar gyfer y bil.  Bydd y bil yn rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus datganoledig i ymgorffori egwyddorion datblygu cynaliadwy yn eu penderfyniadau strategol a sefydlu corff annibynnol i roi cyngor a chymorth arbenigol.
Un o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu yw sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon a rhaglenni eraill Llywodraeth Cymru yn gyson â phroses Rio+20.  Rhaid inni bennu ein hamcanion Datblygu Cynaliadwy yng nghyd-destun blaenoriaethau byd eang yn ogystal â sicrhau eu bod yn adlewyrchu ein hanghenion cenedlaethol a bod fframwaith llywodraethu tymor hir ar gyfer datblygu cynaliadwy yn rhan o’r Bil.
Arwyddais ddau ddatganiad yn yr uwch-gynhadledd.  Roedd y cyntaf yn ein hymrwymo  i ‘Chwyldro Glân a’r Economi Werdd’ y Grŵp Hinsawdd a’r ail yn ein hymrwymo i ‘Batrwm Newydd ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dileu Tlodi’ – a gyflwynwyd yng Nghynulliad Cyffredinol Cynghrair y Gwladwriaethau a Rhanbarthau.  Mae’r ddau ddatganiad yn dangos rôl bwysig llywodraethau rhanbarthol ac edrychaf ymlaen at ddangos sut y gall Cymru chwarae ei rhan wrth roi’r ddau ymrwymiad ar waith.Roedd proses Rio+20 yn tystio sut mae llywodraethau cenedlaethol gwledydd datblygedig, datblygol a newydd, mewn trafodaethau rhyngwladol, yn gallu bod yn llai uchelgeisiol na chenhedloedd a rhanbarthau datganoledig llai  a dinasoedd a busnesau.  Mae’n amlwg y gall gwledydd bach fel Cymru ddangos arweiniad a gosod esiampl o ran creu lleoedd ac arferion cynaliadwy. Yng Nghymru, mae gennym gyfle nawr i ddangos hyn trwy greu ein deddfwriaeth arloesol ein hunan ym maes Datblygu Cynaliadwy.