Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r datganiad ysgrifenedig hwn yn cyflwyno’r newyddion diweddaraf am fy ymweliad â Sefydliad Masnach y Byd yn Geneva ar 31ain Hydref 2017, i greu perthynas rhwng Cymru a’r sefydliad.  

Wrth i Brydain adael yr UE, mae’n hanfodol ein bod yn gallu cynrychioli buddiannau Cymru ar lefel Sefydliad Masnach y Byd.  Mae’r Sefydliad yn hynod bwysig o fewn y byd masnachu ac yn hwyluso’r berthynas rhwng gwledydd yn ogystal â chynnig cyfres o reolau masnach i wledydd eu dilyn a lle i setlo anghydfodau masnach.  Bydd angen i’r DU ail-sefydlu ei hun fel aelod annibynnol o Sefydliad Masnach y Byd, gan ein bod ar hyn o bryd yn rhan o’r UE, ac mae’n bwysig bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses hon.  

Yn ystod fy ymweliad â Geneva, byddaf yn cyfarfod â Llysgennad y Sefydliad, Julian Braithwaite, gan drafod sut y gallai gadael yr UE gael effaith ar ein cysylltiadau masnach rhyngwladol.  Roedd yn drafodaeth ddefnyddiol iawn, ac rwy’n gwybod y bydd yn sail i berthynas weithio gynhyrchiol ar gyfer y dyfodol.  Cefais drafodaethau hefyd gyda Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Masnach y Byd,  Alan Wolff, ynghylch sut y bydd y Sefydliad yn gweithredu a’r prif faterion y mae angen i Gymru fod yn barod ar eu cyfer.  

Ar hyn o bryd nid yw’n glir yn y trafodaethau rhwng yr UE/DU a yw blaenoriaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau mynediad llawn dilyffethair i Farchnad Sengl yr UE yn cyd-fynd yn llwyr ag awydd Llywodraeth Prydain am bolisi masnach annibynnol a chreu Cytundebau Masnach Rydd ledled y byd.  Roedd yn amlwg o gyfarfod ag amrywiol Gynrychiolwyr Parhaol Sefydliad Masnach y Byd, o wledydd sy’n cynnwys Canada, Awstralia, Y Swistir a De Korea, beth bynnag fydd canlyniad y trafodaethau gyda’r UE, ei bod yn hanfodol i ragolygon Cymru i gryfhau ac ychwanegu at ein cysylltiadau masnach rhyngwladol, o fewn yr UE ac ar draws gweddill y byd.  

Manteisiais hefyd ar y cyfle i gyfarfod ag amrywiol fusnesau o’r Swistir oedd yn buddsoddi yng Nghymru.  Roeddwn yn falch iawn o glywed am eu llwyddiant yn creu swyddi a thwf economaidd yng Nghymru.