Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 13 Tachwedd, yn rhinwedd fy rôl fel cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Fforwm Gweinidogion y DU ar y Negodiadau Ewropeaidd, ymwelais â sesiwn cyfarfod llawn Senedd Ewrop yn Strasbwrg. Diben yr ymweliad oedd trafod ag Aelodau Senedd Ewrop ac eraill materion fel y rhagolygon ar gyfer canlyniad llwyddiannus i'r negodiadau rhwng y DU â 27 yr UE ar y Cytundeb Ymadael a'r Datganiad Gwleidyddol cysylltiedig; y broses ar gyfer sicrhau cymeradwyaeth Senedd Ewrop ar gyfer y Cytundeb; a'r posibilrwydd, pe na fyddai cytundeb neu pe byddai'n cael ei wrthod drwy bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin, o ymestyn proses Erthygl 50 a mesurau i liniaru'r effeithiau posibl gwaethaf oll pe na fyddai cytundeb.  

Yn ystod yr ymweliad, cefais gyfarfod yn unigol â thri o’r chwe aelod o Grŵp Llywio Brexit Senedd Ewrop: Elmar Brok ASE (Grŵp Plaid Ewropeaidd y Bobl), Gabriele Zimmer ASE (Grŵp Cydffederal y Chwith Unedig Ewropeaidd/y Chwith Gwyrdd Nordig) a Philippe Lamberts ASE (Grŵp y Gwyrddion/Cynghrair Rydd Ewrop), yn ogystal â Markus Winkler, Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol Senedd Ewrop, sy'n cynorthwyo Guy Verhofstadt ASE fel Cadeirydd y Grŵp Llywio. Cefais gyfarfodydd unigol hefyd â Derek Vaughan, Jill Evans, Kay Swinburne a Nathan Gill, pedwar ASE Cymru, a chefais gyfarfod briffio gyda staff o Gynrychiolaeth Barhaol y DU yn yr UE.