Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd yr Aelodau’n gwybod mod i wedi dychwelyd yn ddiweddar ar ôl ymweld â Thwrci am ddau ddiwrnod. Es yno ar wahoddiad y Gweinidog Caglayan, Gweinidog Twrci dros yr Economi, er mwyn edrych am gyfleoedd i fusnesau Cymru ac i agor drysau.

Mae gan Dwrci economi sy’n ehangu. Gyda phoblogaeth o 74 miliwn, hon yw’r wlad sydd â’r 16eg economi fwyaf yn fyd-eang, ac yn 2011, yn Nhwrci ‘roedd y 3edd o’r economïau oedd yn tyfu gyflymaf yn y byd. Ar hyn o bryd Twrci yw’r 7fed economi fwyaf yn Ewrop a rhagwelir mai hi fydd y 4edd economi fwyaf erbyn 2050. Yn wahanol i Ewrop, lle mae’r boblogaeth yn heneiddio, mae hanner poblogaeth Twrci dan 29 oed. Gwnaed cynnydd aruthrol i leihau tlodi. Dylai busnesau yng Nghymru gydnabod potensial Twrci fel pwerdy economaidd deinamig sy’n datblygu’n gyflym.

Yn ystod yr ymweliad bûm yn cyfarfod ag amrywiaeth o gysylltiadau arwyddocaol. Mae’r Gweinidog Caglayan yn awyddus i gynyddu’r cysylltiadau economaidd rhwng Cymru a Thwrci ac rwyf wedi ymrwymo i hwyluso taith fasnach yno gan fusnesau o Gymru yn y dyfodol. Cyfarfûm hefyd â Mr Ibrahim Kapaklikaya, Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol Rhanbarth Dinesig Istanbwl a thrafodwyd cyfleoedd cydweithio ym maes ynni adnewyddadwy. Awgrymais y dylem hefyd ddatblygu cysylltiadau rhwng Sefydliad Ymchwil Carbon Isel Cymru a sefydliad tebyg yn Nhwrci. Mae Istanbwl yn gwneud cais i gynnal Gemau Olympaidd 2024 ac yn awyddus i ddatblygu arbenigedd ym maes rheoli stadia. Soniais fod Stadiwm y Mileniwm yn meddu ar arbenigedd perthnasol sylweddol yn y maes hwn a dylai hyn fod yn faes defnyddiol ar gyfer cydweithredu.

Cyfarfûm ag uwch-swyddogion o HDM Steel, cwmni Twrcaidd sy’n gweithgynhyrchu pibau dur ac wedi sefydlu cyfleuster yng Nghaerdydd yn ddiweddar ac wedi creu 38 o swyddi. Nod HDM Steel yw cychwyn ar y gwaith cynhyrchu ym mis Ebrill ac roedd yn bositif iawn am y cymorth a gafodd gan Lywodraeth Cymru ac ansawdd y gweithlu yng Nghaerdydd; maent eisoes yn ystyried cynlluniau i ehangu.

Cyfarfûm â Siambr Fasnach Prydain, sy’n weithgar yn Nhwrci, gan ofyn am eu barn am y cymorth sydd ar gael i gwmnïau o Gymru sy’n edrych am ddatblygu busnes. Mae’r Siambr yn awyddus iawn i gynnig arbenigedd a chymorth ymarferol.

Roeddwn yn falch iawn, hefyd, i roi’r anerchiad agoriadol yng Nghynhadledd Partneriaeth Gwybodaeth y DU-Twrci. Menter rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Twrci yw’r Bartneriaeth Gwybodaeth, a’i nod yw hybu cyfleoedd newydd am fusnes, sefydliadau ymchwil a llywodraethau er lles ei gilydd. Roeddwn i’n gallu hybu arbenigedd y DU a Chymru mewn gweithgynhyrchu carbon isel, cynaliadwy.

Mae cyfle i Gymru ddatblygu’r sector Bancio Islamaidd. Cefais gyfarfod â Phrif Weithredwyr Bancio Islamaidd, gan drafod eu gweithrediadau cyfredol sy’n canolbwyntio ar Lundain. Mynegodd y banciau ddiddordeb yn sylfaen sgiliau Cyllid a Phroffesiynol Caerdydd sy’n ehangu, ac maent o’r farn y gall fod sgôp i ddatblygu gwasanaethau Bancio Islamaidd yng Nghymru, yn arbennig gwasanaethau yswiriant. Byddaf yn gofyn i’r Gweinidog dros Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth weithio gyda’i swyddogion i ddatblygu hyn.

Drwy gydol yr ymweliad cefais gefnogaeth wych gan Lysgenhadaeth Prydain, Swyddfa’r Prif Gonswl ac UKTI, a bwriadaf barhau i weithio gyda nhw wrth inni ddatblygu cyfleoedd yn y dyfodol. Mae economi Twrci yn datblygu’n gyflym ac rwy’n ei hargymell i fusnesau Cymru, ac mae’n wlad rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu cysylltiadau agosach â hi yn ystod y blynyddoedd i ddod.