Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 25 a 26 Ionawr 2024, ymwelais â Dulyn i fynychu Cyfarfod Gweinidogol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar Gyffuriau ac Alcohol. 

Ffurfiwyd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig fel rhan o'r cytundeb aml-blaid a wnaed ym Melffast ar 10 Ebrill 1998. Mae ei aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Iwerddon; Llywodraeth y DU; Llywodraeth yr Alban; Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon; Llywodraeth Cymru; Llywodraeth Ynys Manaw; Llywodraeth Jersey a Llywodraeth Guernsey. Ei brif nod yw hyrwyddo cysylltiadau cadarnhaol, ymarferol ymhellach ymhlith y gwledydd sy'n cymryd rhan a darparu fforwm ar gyfer ymgynghori a chydweithredu. 

Diben y cyfarfod a fynychais oedd caniatáu i'r Gweinidogion adolygu gweithgarwch diweddar ffrwd waith y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar Gyffuriau ac Alcohol a thrafod blaengynllun gwaith newydd arfaethedig. Cefais gyfle hefyd i gynnal cyfarfod dwyochrog â'r Gweinidog Hildegarde Naughton TD o Adran y Taoiseach sydd â chyfrifoldeb arbennig fel Prif Chwip y Llywodraeth; a'r Adran Iechyd sydd â chyfrifoldeb arbennig dros Iechyd y Cyhoedd, Llesiant a'r Strategaeth Gyffuriau Genedlaethol.

Ar ôl cyrraedd Dulyn mynychais, ynghyd â Gweinidogion eraill, ddigwyddiad arddangos gyda chynrychiolwyr prosiectau a sefydliadau sy'n weithgar mewn nifer o feysydd gan gynnwys atal, trais sy'n gysylltiedig â chyffuriau a gorddos.  Roedd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth ar ‘Preparing and Responding to the emergence of Synthetic Opioids’ gyda'r Athro Eamon Keenan, yr Arweinydd Clinigol ar gyfer Caethiwed yng Ngwasanaeth Iechyd Iwerddon.

Dechreuodd yr ail ddiwrnod gyda'r cyfarfod dwyochrog â'r Gweinidog Naughton lle y llwyddais i amlinellu a thrafod profiad Llywodraeth Cymru o roi bwprenorffin i'w chwistrellu (Buvidal) ar waith yn genedlaethol fel triniaeth i ddefnyddwyr heroin yng Nghymru. 

Yna mynychais y cyfarfod Gweinidogol ochr yn ochr â Gweinidogion Iwerddon a Guernsey a fynychodd yn bersonol. Ymunodd Gweinidogion yr Alban, Jersey ac Ynys Manaw â ni yn rhithiol hefyd. Defnyddiwyd y cyfarfod i adolygu gweithgarwch diweddar Sector Gwaith Cyffuriau ac Alcohol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig gan gynnwys Marwolaethau sy'n gysylltiedig â Chyffuriau, Effaith Covid-19 ar gamddefnyddio sylweddau a gwaith mewn perthynas â Mecanweithiau Ariannol ar gyfer Alcohol. Trafodwyd hefyd Flaengynllun Gwaith newydd arfaethedig. Daeth y cyfarfod i ben gyda chyflwyniad gan Paul Reid, Cadeirydd Cynulliad Dinasyddion Iwerddon ar Gyffuriau ar Ddemocratiaeth Gydgynghorol. 

Roedd yr ymweliad â Dulyn o fudd mawr a byddwn yn parhau i ymgysylltu â'n partneriaid yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. Mae'r Cyngor yn rhoi'r gallu inni rannu'r hyn yr ydym wedi'i ddysgu ac i ystyried dulliau newydd y gellir eu defnyddio i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru ac ar draws pob gweinyddiaeth.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.