Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Teithiais i Japan ar gyfer rhaglen o ddigwyddiadau a oedd yn dathlu'r berthynas barhaol rhwng ein dwy wlad. Roedd yr ymweliad hwn yn rhan o Flwyddyn Cymru a Japan. Roedd y rhaglen yn cynnwys elfennau a gynlluniwyd i ddatblygu a gwella cysylltiadau economaidd, diwylliannol a thwristiaeth a daeth i ben gyda Diwrnod Cymru yn Expo Osaka 2025, lle cynhaliais dderbyniad ym Mhafiliwn y DU.
Dechreuodd fy rhaglen gyda chyfarfod â Llysgennad Ei Mawrhydi i Japan, Julia Longbottom, sydd wedi cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru yn Japan ers amser. Bu imi gyfarfod hefyd ag aelodau eraill o dîm y Llysgenhadaeth i drafod eu gwaith i hyrwyddo Cymru yn Japan ac i gael gwybodaeth am yr economi ar lawr gwlad.
Roedd yr ail ddiwrnod yn canolbwyntio ar arddangos pam fod Cymru yn lle gwych i wneud busnes. Cefais gyfarfod â buddsoddwyr presennol, gan gynnwys Sony a Winfield, i drafod sut mae Cymru yn diwallu anghenion eu busnesau ac i edrych ar eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Cefais gyfarfod hefyd â chwmnïau sy'n ystyried Cymru fel lleoliad posibl ar gyfer buddsoddi. Cynhaliais Arddangosfa Fuddsoddi yn Tokyo lle clywodd mwy na 150 o gynrychiolwyr am yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig, ac am sut y bu Cymru yn gartref i gwmnïau o Japan ers dros 50 mlynedd. Roedd ffocws penodol ar y trawsnewidiad gwyrdd ac agendâu digidol, a chryfderau Cymru yn y sectorau hyn. Roedd hyn yn cynnwys sgwrs gan Uwch Gynghorydd Grŵp Sony am fanteision buddsoddi yng Nghymru. Roedd cydnabyddiaeth gref hefyd o bwysigrwydd perthnasoedd economaidd dibynadwy hirsefydlog mewn cyfnod o ansicrwydd.
O Tokyo, teithiais i Kitakyushu, sef lleoliad gwersyll hyfforddi tîm rygbi Cymru yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd 2019. Cyfarfûm ag uwch swyddogion y ddinas a gweld rhai o'r prosiectau sydd wedi cael eu datblygu yn Kitakyushu i gofio am gyfnod Cymru a thîm rygbi Cymru yn y ddinas dros chwe mlynedd yn ôl. Mae'n anodd gorbwysleisio'r hoffter sydd tuag at Gymru yn Kitakyushu. Fel y dywedodd y Maer Kazuhisa Takeuchi, "Erbyn hyn rydyn ni'n deulu mwy neu lai." Clywais am y cynlluniau i groesawu tîm Cymru a'r cefnogwyr yn ôl ar gyfer gêm Japan v Cymru ym mis Gorffennaf.
Ar ddiwrnod 4, teithiais i Oita i ymgymryd â rhaglen sy'n cyd-fynd â meysydd allweddol y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) a lofnodwyd gan Gymru gyda Llywyddiaeth Oita yn 2022. Yma siaradais yn Amgueddfa Gelf Llywyddiaeth Oita (OPAM) fel rhan o'r dathliadau i nodi ei phen-blwydd yn 10 oed, yn ogystal ag ymweld ag arddangosfa ynni thermol, i edrych sut y mae'r adnodd wedi'i ddefnyddio ar gyfer mentrau ynni a busnes. Roeddwn yn falch iawn o gwrdd â chyn-lywodraethwr Oita, Mr Katsusada Hirose, a chwaraeodd ran canolog wrth ddatblygu'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ac sydd â dylanwad sylweddol yn Llywyddiaeth Oita o hyd. Ym mis Mawrth 2024, dyfarnwyd MBE er anrhydedd i Mr Hirose am ei ymdrechion i feithrin cysylltiadau rhwng y DU a Japan, ac yn arbennig ei waith gyda Chymru.
Yna teithiais ymlaen i Ddinas Himeji lle cynhaliais fwrdd crwn gyda busnesau lleol ar draws sectorau gan gynnwys ynni a dur i archwilio cyfleoedd i gydweithredu ar ddatgarboneiddio, yn ogystal â chymryd rhan mewn seremoni adnewyddu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Castell Himeji a Chastell Conwy.
Treuliwyd fy niwrnod olaf yn Japan yn Expo 2025 Osaka i arwain arddangosfa Dathlu Diwrnod Cymru ym Mhafiliwn y DU. Gwahoddodd Dathlu Cymru bobl oedd ar wyliau cyhoeddus yn Japan, i brofi golygfeydd, synau a blasau Cymru gyda pherfformiadau o gerddoriaeth a dawns, samplau o fwyd a diod Cymreig a rali stampiau Eki arbennig. Euthum hefyd ar ymweliad â phafiliynau UDA, yr Emiradau Arabaidd Unedig ac Iwerddon – pob gwlad y mae Cymru yn rhannu perthynas ystyrlon â hwy – yn ogystal â chynnal derbyniad i wahoddedigion o'r cymunedau busnes, chwaraeon, diplomyddol a diwylliannol i ddathlu Diwrnod Cymru.
Roedd fy ymweliad yn caniatáu i mi ymgysylltu â sefydliadau busnes a diwylliannol ac adeiladu perthnasoedd a chysylltiadau ystyrlon rhwng Cymru a Japan at y dyfodol. Fel a welir gan y rhaglenni parhaus sy'n cael eu cynnal yn Kitakyushu ac Oita, a ddechreuodd yn 2019, mae ymrwymiad i ddatblygu partneriaethau hir a chynaliadwy a fydd yn parhau i ffynnu yn y blynyddoedd i ddod, fel y dangosir gan fwy na hanner canrif o fuddsoddiad yng Nghymru gan fusnesau o Japan.