Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bûm yn ymweld â Qatar rhwng 28 a 30 Tachwedd i gefnogi tîm pêl-droed dynion Cymru yn ei gêm grŵp Cwpan y Byd yn erbyn Lloegr. Cymerais ran hefyd mewn rhaglen ehangach o weithgarwch i hyrwyddo gwerthoedd a chyfleoedd masnach a buddsoddi Cymru gyda phartneriaid byd-eang yn unol â Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru.

Yn ystod fy ymweliad, bûm yn cyfarfod â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a chael y cyfle i ddymuno'n dda i'r tîm a chyfleu ein balchder ar y cyd yn eu llwyddiannau hanesyddol fel grŵp.

Fel rhan o fy rhaglen, gwelais waith artistiaid a sefydliadau diwylliannol Cymreig oedd yn cael eu dangos ledled Qatar.  Bum yn ymweld â gosodiadau ac arddangosfeydd Cymreig i'w gweld ym Mhentref Diwylliannol Katara, yr het fwced ar y Corniche ac elfen Gymreig i 'Ardd Prydain Fawr' Llywodraeth y DU. Wrth ymweld â gosodiad yr het fwced, cefais gyfle i gyfarfod cefnogwyr Cymru a oedd wedi teithio o Gymru a mannau eraill i gefnogi'r tîm ac i glywed eu profiadau o ymweld â Qatar yn ystod Cwpan y Byd. Fe wnes i hefyd gwrdd â llysgenhadon Lleisiau Cymru Llywodraeth Cymru cyn ac yn ystod fy amser yn Qatar.

Bum yn trafod yn helaeth â'r cyfryngau yn ystod yr ymweliad gyda'r cyfryngau print a darlledu o Qatar ynghyd â sefydliadau cyfryngau cenedlaethol a rhyngwladol. Rhoddodd y cyfweliadau lwyfan ardderchog i hyrwyddo Cymru a'n gwerthoedd ar lwyfan byd-eang yn ogystal â phwysleisio ein hymrwymiad i hawliau cymunedau LHDTQ+ a hawliau gweithwyr ym mhobman.  Roedd cyfle imi hefyd herio’n gyhoeddus y penderfyniadau a wnaed gan FIFA i osgoi datganiadau o undod ar y cae. 

Ar 30 Tachwedd, cymerais ran mewn trafodaeth ford gron ar werthoedd, a gynhaliwyd gan Lysgennad EF i Qatar. Daeth hyn â Gweinidogion a Llysgenhadon o'r DU, Ewrop, Gogledd America ac Awstralia ynghyd a chanolbwyntio ar y digwyddiadau a oedd wedi eu gweld yn Qatar, megis cael gwared ar eitemau o ddillad yn arddangos lliwiau'r enfys, a sut, ar y cyd, gall ein gwledydd ymgysylltu'n adeiladol ar sut i ymdrin â hawliau dynol, hawliau LHDTQ+, hawliau llafur, hawliau menywod a rhyddid gwleidyddol a chrefyddol.

Yn dilyn trafod â'r TUC Rhyngwladol cyn y twrnamaint, cwrddais hefyd â'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol i dderbyn briff ar eu gwaith ynghylch y cynnydd a'r heriau sy'n gysylltiedig â diwygiadau i'r gyfraith lafur yn Qatar.

Fe gwrddais â Chymdeithas Menywod Busnes Qatar (QBWA) i drafod cyfleoedd Cymru o fewn cynlluniau buddsoddi y DU. Roedd y cyfarfod hefyd yn caniatáu i mi drafod y rôl a chwaraewyd gan fenywod yn economi Qatari.

Dros gyfnod o ddeuddydd, cwrddais â Gweinidog Cyllid llywodraeth Qatar, yn ogystal ag Awdurdod Buddsoddi Qatar. Roedd y cyfarfodydd hyn yn gyfle i drafod y Bartneriaeth Buddsoddi Strategol (SIP) sydd ar waith rhwng Qatar a'r DU.  Yn fy nhrafodaethau, gwnaethom ganolbwyntio ar sut y gallai cynlluniau SIP ar gyfer y DU gefnogi prosiectau buddsoddi cyfalaf yng Nghymru yn benodol.

South Hook LNG yn Sir Benfro yw'r unig gwmni sydd â'i bencadlys yn Qatar sy'n gweithredu yng Nghymru. Yn ddiweddar cyhoeddodd Exxon Mobil a Qatar Energy, sy'n berchen ar South Hook, y byddent yn cynyddu capasiti ar safle Sir Benfro ac y byddai buddsoddiad yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar yr ardal gyfagos a'r gadwyn gyflenwi leol. Ymwelais ag Exxon i ddysgu mwy am y buddsoddiad a sut y byddai Sir Benfro yn elwa.

Ynghyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Gweinidog Chwaraeon y DU, mynychais hefyd ginio a gynhaliwyd gan Lysgennad EF i Qatar. Roedd y cinio yn gyfle i fuddsoddwyr amlwg o'r Dwyrain Canol glywed am gyfleoedd i fuddsoddi yn y DU a Chymru.  Cwrddais â Llysgennad Qatar i'r DU yn y cinio hwn a manteisiais ar y cyfle i dynnu sylw at bwysigrwydd ein gwerthoedd fel cenedl unwaith yn rhagor a sut yr ydym am drafod y materion hyn yn dilyn Cwpan y Byd.