Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ddiwedd mis Mawrth, cefais y cyfle i ymweld â Gwlad y Basg am ddeuddydd er mwyn atgyfnerthu cysylltiadau, trafod meysydd ar gyfer cydweithio, a thrafod adnewyddu’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth presennol gyda Gwlad y Basg. Gwlad y Basg yw un o gysylltiadau rhanbarthol pwysicaf Cymru. Mae gennym gysylltiadau sy’n seiliedig ar ein treftadaeth ddiwydiannol ac ieithyddol gyffredin, yn ogystal â’n cysylltiadau helaeth ar lefel lywodraethol a sefydliadol sydd wedi’u sefydlu ers tro.

Roedd fy ymweliad yn cynnwys cyfarfodydd gyda’r Lehendakari ac ystod o Weinidogion Llywodraeth Gwlad y Basg sy’n gyfrifol am bortffolios megis Datblygu Economaidd, Diwylliant, Iaith ac Addysg. Cefais y cyfle i fynd i ddigwyddiad am genedlaethau’r dyfodol a siarad ynddo yn ogystal â chyfarfod â buddsoddwyr mewnol blaenllaw. Cefais hefyd y cyfle i gyfarfod â myfyrwyr o Brifysgol Gwlad y Basg.

Dechreuodd fy rhaglen yn Vitoria-Gasteiz a hynny gyda chyfarfod â’r Lehendakari, Iñigo Urkullu. Trafodwyd meysydd yn ymwneud â chydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Gwlad y Basg ar hyn o bryd gan gynnwys o fewn sectorau yr economi, diwylliant ac arloesi. Trafodwyd hefyd y gwaith o adnewyddu’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sydd ar waith ar hyn o bryd yn ogystal â’r meysydd newydd posibl i ganolbwyntio arnynt ar gyfer cytundeb rhwng y ddwy Lywodraeth yn y dyfodol.

Cefais y cyfle i gyfarfod â Gweinidog Datblygu’r Economi, Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd ac uwch arweinwyr o ddau fuddsoddwr mewnol sef CAF a Gestamp i gael clywed rhagor am eu gweithrediadau yng Nghymru. Yn dilyn hyn, cafwyd cyfarfod gyda’r Gweinidog Diwylliant a Pholisi Ieithyddol ynglŷn â pholisi iaith a chyfleodd i gydweithio a dysgu ar y cyd.

Drannoeth, rhoddais y brif araith yn seminar Metropolis y Dyfodol yn Bilbao. O flaen cynulleidfa ryngwladol, achubais ar y cyfle i hyrwyddo’r ffaith bod Cymru yn canolbwyntio ar genedlaethau ein dyfodol yn ogystal â heneiddio’n iach. Wedi hyn, cynhaliwyd ymweliad ag ardal brofi ynni morol sy’n cael ei chynnal gan Biscay Marine Energy Platform er mwyn gweld sut y mae ynni morol yn cael ei ddefnyddio. Roedd hyn yn gyfle i rannu sut y mae’r sector ynni morol yn cael ei ddatblygu yng Nghymru a thrafod meysydd ar gyfer cydweithio.

Canolbwyntiodd fy ymweliadau olaf ar addysg. Cefais gyfarfod gyda Gweinidog Addysg Gwlad y Basg er mwyn trafod cyfleoedd i gydweithio o fewn y sector addysg. Wedi hynny, cefais y cyfle i fynd gyda’r Gweinidog i Brifysgol Gwlad y Basg a chymryd rhan mewn digwyddiad gyda myfyrwyr o’r brifysgol. Yn ystod y digwyddiad hwn, siaradais am y rhaglen Taith yn ogystal ag ateb cwestiynau am y cyfleoedd y gall myfyrwyr fanteisio arnynt drwy’r rhaglen.

Roedd yr ymweliad hwn yn un cynhwysfawr a chadarnhawyd eto ymrwymiad y ddwy wlad i gydweithio a’r cyfleoedd a all godi yn sgil ein perthynas agos. Byddwn yn parhau i weithio ar ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd gyda’r nod i’w lofnodi yn fuan  flwyddyn nesaf gan feithrin ein perthynas hyd yn oed ymhellach.