Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol i mi fod yn Washington yr wythnos ddiwethaf yn cyfarfod â busnesau sy'n ystyried ehangu eu gweithrediadau yng Nghymru a mewnfuddsoddwyr posib.

Hefyd cefais gyfarfod uwch gynrychiolwyr Cyngor Busnes UDA / DU Siambr Fasnach yr Unol Daleithiau sy'n cynrychioli cwmnïau mawr o America sy'n buddsoddi yn y DU.

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad am dariffau ar ddur, cefais gyfarfod gydag uwch swyddogion yn Llysgenhadaeth Prydain i drafod effaith bosib y tariffau ar ddiwydiant dur Cymru.

Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle unigryw i godi proffil Cymru yn uwch ym mhrifddinas yr Unol Daleithiau drwy gynnal derbyniad yn Llysgenhadaeth Prydain gydag Undeb Rygbi Cymru cyn y gêm ryngwladol rhwng Cymru a De Affrica.

Mae  hyn unwaith eto yn dangos y camau cadarnhaol a rhagweithiol rydyn ni'n eu cymryd i gynyddu ein presenoldeb mewn marchnadoedd byd-eang pwysig, ac i adeiladu ar y lefelau uwch nag erioed yn ddiweddar o fuddsoddiad uniongyrchol o dramor i gynyddu masnach a mewnfuddsoddiad.