Eluned Morgan AS, Prif Weinidog
Y llynedd, cyhoeddais y Cynllun Cyflawni Rhyngwladol a oedd yn nodi cynllun uchelgeisiol ar gyfer cyflawni. Roedd y cynllun yn ymrwymo i ymgysylltu ag Ewrop a manteisio ar gyfleoedd i gryfhau cysylltiadau presennol a chreu rhai newydd. Y mis hwn, bum yn ymweld â Sbaen am dridiau ddatblygu’r ymrwymiad hwnnw drwy gyfarfodydd ffurfiol ac ymweliadau yng Nghatalwnia a Gwlad y Basg, pan lofnododd Llywodraeth Cymru Femoranda o Ddealltwriaeth. Mae'r rhain yn gysylltiadau hirsefydlog sy'n seiliedig ar hanes cyffredin a gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Maent yn cynnig cyfleoedd i wella canlyniadau yng Nghymru.
Yn ystod fy ymweliad â Barcelona, cynhelais gyfarfodydd gyda Jaume Duch, Gweinidog yr Undeb Ewropeaidd a Gweithredu Tramor, a Francesc Xavier Vila, Gweinidog Polisi Ieithyddol, i atgyfnerthu cysylltiadau sefydliadol a hyrwyddo cydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Catalwnia - yn enwedig ym maes polisi ieithoedd lleiafrifol, gan dynnu ar strategaeth Cymraeg 2050 a fframweithiau ieithyddol Catalwnia.
Cynhaliais hefyd gyfarfodydd ar wahân gyda Jaume Baró, Ysgrifennydd Busnes a Chystadleurwydd a Phrif Swyddog Gweithredol ACCIÓ, yn ogystal â Foment del Treball. Roedd y cyfarfodydd hyn yn canolbwyntio ar gyfleoedd masnach a buddsoddi. Roeddent yn dilyn ein Huwchgynhadledd Buddsoddi Cymru, a’r potensial ar gyfer cydweithio gyda Catalwnia ym maes gwyddorau bywyd - a gweithgynhyrchu uwch.
Yn ogystal, ymwelais â Chanolfan Uwchgyfrifiannu Barcelona. Roedd y trafodaethau yn y Ganolfan yn canolbwyntio ar gydweithio ar ymchwil mewn cyfrifiadura perfformiad uchel, lled-ddargludyddion cyfansawdd ac AI. Bu hefyd drafodaethau ar gydweithrediad rhwng Cymru a Chatalwnia ar brosiect technoleg iaith AINA.
Yn Barcelona, cyfarfûm â'r Arlywydd Salvador Illa, a llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd a chynllun gweithredu ar y cyd. Mae’r cytundeb hwn yn sefydlu fframwaith strwythuredig ar gyfer cydweithredu ar draws blaenoriaethau a rennir gan gynnwys cynnydd cymdeithasol, iaith a diwylliant, twristiaeth gynaliadwy, datblygu economaidd ac ynni adnewyddadwy.
Yn Vitoria-Gasteiz oedd y cyfarfod yng Ngwlad y Basg, ble y cefais gwrdd â'r Lehendakari, Imanol Pradales, i lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi'i adnewyddu rhwng Cymru a Gwlad y Basg a chynllun gweithredu ar y cyd. Mae'r cytundeb yn cydgrynhoi cydweithrediad ar ynni adnewyddadwy a hinsawdd, symudedd cynaliadwy, technoleg ac arloesi, bwyd-amaeth, addysg, polisi cyllidol, iechyd, diwylliant ac iaith.
Yna canolbwyntiodd y rhaglen ar arloesi a'r economi werdd. Yn San Sebastián, ymwelais â Basque Quantum a chynnal trafodaethau cyfleoedd ar dechnolegau cwantwm a phartneriaethau ymchwil. Roedd y trafodaethau hyn yn edrych ar gyfleoedd sy'n ategu arbenigedd Cymru mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd a gweithgynhyrchu uwch.
Ym Mhorthladd Bilbao, cyfarfûm â Haizea Wind. Roedd y cyfarfod yn pennu'r cyfleoedd y mae Cymru yn ei chynnig mewn perthynas ag ynni gwynt ar y môr gan gyfeirio at alluoedd porthladdoedd Cymru a’r cyfraniad y gall y sector ei wneud i uchelgeisiau sero net.
Mae cysylltiadau diwylliannol a chysylltiadau rhwng pobl yn ganolog i'r berthynas â Gwlad y Basg. Yn Bilbao, bum yn trafod gyda’r Clwb Athletau i bwysleisio’r cysylltiadau hanesyddol rhwng Bilbao a Chasnewydd gan ddangos sut mae chwaraeon, treftadaeth a chysylltiadau cymunedol yn parhau i gryfhau ein partneriaeth fodern.
Mae'r ymweliad hwn yn ailddatgan Cymru fel cenedl Ewropeaidd falch ag iddi fydolwg rhyngwladol. Mae’r cytundebau a gafwyd ar yr ymweliad hwn yn gosod seiliau clir ar gyfer cydweithredu pellach sy’n cefnogi arloesedd, yn cryfhau ein huchelgeisiau buddsoddi ac allforio, tra'n cyfoethogi ein bywyd diwylliannol. Mae’r partneriaethau hyn wedi’u creu er mwyn darparu manteision diriaethol i gymunedau a busnesau ledled Cymru.
