Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bûm ar ymweliad â Llydaw yr wythnos ddiwethaf i adnewyddu ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Llywydd y Cyngor Rhanbarthol, Loïg Chesnais Girard. Mae perthynas Cymru â Llydaw yn seiliedig ar gysylltiadau diwylliannol, ieithyddol a masnachu dros gyfnod maith a llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Llydaw am y tro cyntaf yn 2004 gan y cyn Brif Weinidog. Mae'r cyd-destun gwleidyddol cyfnewidiol sydd ohoni yng Nghymru oherwydd bod y DU ar fin ymadael â'r UE yn golygu mai dyma'r amser delfrydol i ailymrwymo i'n perthynas â Llydaw.

Mae'r Memorandwm a'r Cynllun Gweithredu yn amlinellu nifer o themâu sydd o fudd cyffredin i Gymru a Llydaw. Mae'r rhain yn cynnwys cysylltiadau busnes, cydweithredu ar addysg, ynni'r môr, yr amgylchedd, diwylliant ac iaith. Yn ddiweddarach eleni er enghraifft, byddwn yn croesawu grŵp o arweinwyr addysg bellach ac uwch o Lydaw i gyfarfod â'r staff cyfatebol yng Nghymru gyda'r bwriad o ddatblygu rhaglen gyfnewid i staff a myfyrwyr.

Mae ein perthynas yn seiliedig ar wreiddiau hanesyddol, ond mae'n datblygu mewn ffordd sy'n gwbl gyfoes, gyda seiberddiogelwch yn un o'r meysydd a nodwyd ar gyfer y posibilrwydd o gydweithio. Yn Roazhon (Rennes), ymwelais â'r Ganolfan Ragoriaeth Seiber - menter ar y cyd rhwng Llywodraeth Ffrainc a'r Cyngor Rhanbarthol sy'n cydlynu cynnig ymchwil, amddiffyn, busnes a hyfforddiant Ffrainc. Trafodwyd sut y gallai'r sector yng Nghymru, sef clwstwr seiber mwyaf y DU, gydweithio â'r Ganolfan Ragoriaeth a bydd swyddogion yn mynd i'r afael â hyn.

Bûm mewn cynhadledd yn Llydaw a oedd yn trafod dyfodol Ewrop yn sgil Brexit, gan amlinellu'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddiogelu buddion Cymru. Pwysleisiais er bod y DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ein bod ni wedi ymrwymo i gynnal a chryfhau ein perthynas â'n rhanbarthau a'n gwledydd partner yn Ewrop, yn ogystal â'n haelodaeth o rwydweithiau Ewropeaidd a rhyngwladol.

Cefais hefyd y cyfle i sicrhau ein ffrindiau yn Llydaw na ddylai Brexit effeithio ar y cydweithio cryf sydd wedi datblygu rhyngom dros y blynyddoedd, a bod Llywodraeth Cymru yn pwyso am i'r DU barhau i fod yn rhan o raglenni Ewropeaidd megis Erasmus+, sydd fel arfer yn cefnogi ein cydweithrediad.

Roedd adnewyddu'r Memorandwm yn gam pwysig gan mai Cymru fydd y wlad anrhydeddus eleni yng  Ngŵyl Ryng-Geltaidd Lorient sy'n denu dros 700,000 o bobl. Yn ystod fy ymweliad, dathlwyd ein cysylltiad diwylliannol gyda chyngerdd yng nghanolfan newydd y Gyngres yn Roazhon lle'r oedd cerddorfa symffonig Llydaw – gyda’r Cymro, Grant Llewellyn, fel cyfarwyddwr cerddorol – yn perfformio ochr yn ochr â Chorws Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, sy’n bartneriaeth y mae'r cerddorfeydd yn awyddus i'w datblygu ymhellach.