Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bum ar ymweliad i Qatar heddiw fel rhan o ymdrechion ehangach gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu cysylltiadau agosach â’r wlad.  

Bum hefyd yn annerch mewn digwyddiad yn Doha wedi’i drefnu gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â Maes Awyr Caerdydd a Qatar Airways gyda chefnogaeth Llysgenhadaeth Prydain.  Roedd hyn wedi’i amseru i gyd-fynd â Gŵyl Prydain yn Qatar, gan roi platfform i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ar gyfer buddsoddi yn ogystal â thynnu sylw at y cyfleoedd sy’n codi o’r teithiau dyddiol rhwng Doha a Chaerdydd sydd i ddechrau ar 1 Mai 2018.  

Mae Cymru eisoes wedi manteisio ar fuddsoddiad o Qatar.  Mae’r derfynell LNG yn Aberdaugleddau, o dan berchnogaeth Qatar Petroleum, yn un o’r prif gyfranwyr at yr economi yng ngorllewin Cymru.  Cyfarfyddais â nifer o fusnesau lleol i drafod y posibiliadau o fuddsoddi ymhellach.    

Cefais gyfarfod hefyd ag uwch-gynrychiolwyr Qatar Airways ac roeddwn yn awyddus i ddeall sut y gallwn fanteisio ar y teithiau newydd i farchnata Cymru fel cyrchfan dwristiaeth a busnes yn Qatar ac yn ehangach ar draws Asia a’r Môr Tawel.  Hefyd, trafodais y cyfleoedd i gryfhau’r cysylltiadau masnach trwy gludo rhagor o nwyddau gyda’r gwasanaeth dyddiol.    Gallai hyn fod o fudd i gwmnïau o Gymru sydd eisoes yn allforio, neu yn ystyried gwerthu eu nwyddau a’u gwasanaethau, i’r farchnad lewyrchus hon.  

Bydd gan y teithiau rhwng Doha a Chaerdydd, yn ogystal â’r rhai i Birmingam a Manceinion,  y posibilrwydd o hybu’r economi yng Nghymru gyfan, ac mae angen inni weithio’n galed i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn.    

Rwy’n ddiolchgar i Lysgennad Prydain a’i staff am eu cymorth yn ystod fy ymweliad, ac rwy’n edrych ymlaen at gael eu cymorth parhaus wrth inni baratoi i agor swyddfa newydd Llywodraeth Cymru yn Qatar y flwyddyn nesaf.