Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr wythnos ddiwethaf, bûm yn ymweld â Brwsel a Helsinki.

Ym Mrwsel, siaradais mewn seminar a drefnwyd ar y cyd gan y Ganolfan Polisïau Ewropeaidd a Chanolfan Llywodraethiant Cymru ar safbwynt Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar Brexit. Y siaradwyr eraill oedd Mike Russell, Gweinidog Llywodraeth yr Alban dros Drafodaethau’r DU ar Sefyllfa yr Alban yn Ewrop a Cathy Gormley-Heenan, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Ulster. Yn y seminar, roedd ymhell dros gant o gyfranogwyr o'r Sefydliadau Ewropeaidd, Llysgenadaethau a swyddfeydd rhanbarthol a sefydliadau ymchwil, yn ogystal ag aelodau o Bwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol y Cynulliad.

Cynhaliais hefyd gyfres o gyfarfodydd ag unigolion blaenllaw yn Senedd Ewrop er mwyn cael dealltwriaeth well o safbwynt y Senedd ar y cynnydd yn y trafodaethau ac i egluro meddylfryd Llywodraeth Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys cyfarfodydd â Guy Verhofstadt ASE, arweinydd Cynghrair y Rhyddfrydwyr a'r Democratiaid a negodwr Senedd Ewrop ar gyfer Brexit; Elmar Brok, ASE, arweinydd Brexit o fewn Plaid Ewropeaidd y Bobl, y grŵp mwyaf yn Senedd Ewrop; Charles Tannok, ASE; Derek Vaughan ASE a Kay Swinburne ASE.

Yn olaf, achubais ar y cyfle i gyfarfod â Lowri Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol DG GROW yn y Comisiwn Ewropeaidd a'r prif Was Sifil Ewropeaidd o Gymru ac i gael diweddariad ar y trafodaethau gan staff yng Nghynrychiolaeth Barhaol y DU.
Yn y Ffindir, bûm yn bresennol yn 45ed Cynulliad Cyffredinol Cyngor y Rhanbarthau Morol Ymylol (CPMR) lle cefais fy ngwahodd i roi'r brif araith ynghylch Brexit. Roedd tua 250 o gynrychiolwyr yn bresennol yn y Gynhadledd o bob rhan o Ewrop. Cytunodd y Cynulliad Cyffredinol ar Ddatganiad Caerdydd (wedi'i atodi) a fydd yn sail i gynhadledd CPMR i'w chynnal yma yng Nghaerdydd ganol mis Tachwedd ar Gydweithio Ewropeaidd wedi Brexit.

Achubais hefyd ar y cyfle i gynnal trafodaethau dwyochrog â nifer o gynrychiolwyr o ranbarthau ledled Ewrop a fydd yn mynychu’r gynhadledd yng Nghaerdydd; roedd y rhain yn cynnwys Cees Loggen, Gweinidog Rhanbarthol Noord-Holland (yr Iseldiroedd); Annika Annerby Jansson, Is-arlywydd Rhanbarth Skane; Antje Grother, Aelod o Senedd Gwladwriaeth Bremen a Forough Salami Dadaki, Is-arlywydd Cyngor Rhanbarthol Llydaw.

Yn olaf, cefais gyfarfod â Dirprwy Bennaeth Cenhadaeth Llysgenhadaeth Prydain yn Helsinki a oedd yn gyfle defnyddiol i drafod safbwynt y Ffindir ar Brexit a'r posibilrwydd o sicrhau cysylltiadau economaidd yn y dyfodol rhwng y Ffindir a Chymru.

http://cpmr.org/wpdm-package/cardiff-declaration-on-brexit/