Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ymwelodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol â Copenhagen, y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg â Dulyn a finne â Brwsel yn ddiweddar. Roedd cyfres o ddigwyddiadau wedi’u trefnu yn y dinasoedd hyn i ni hyrwyddo Cymru a dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda’n partneriaid rhyngwladol.

Treuliodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddeuddydd yn Copenhagen yn dilyn gwahoddiad i gymryd rhan mewn Fforwm Lefel Uwch a drefnwyd gan Ranbarth Ewrop o Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). Y pwnc oedd Iechyd yn yr Economi Lesiant. Estynnwyd y gwahoddiad oherwydd y cydweithredu sydd wedi bod rhwng Cymru a’r WHO yn dilyn llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Rhanbarth Ewrop y WHO yn 2020.

Yn y Fforwm, cododd y Gweinidog broffil Cymru trwy drafod gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru wrth-hiliol, gwneud Cymru y wlad fwyaf cyfeillgar i bobl LGBTQ+ yn Ewrop a rhannu gwaith unigryw Cymru i wneud iechyd yn rhan greiddiol o bob polisi. Cynhwysai hynny hyrwyddo ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol arloesol a’r Rheoliadau Asesu Effeithiau Iechyd.

Yn ystod y digwyddiad, cyfarfu’r Gweinidog â Phrif Weinidog Gwlad yr Iâ i drafod yr heriau cyffredin sy’n wynebu Cymru a Gwlad yr Iâ wrth ddod allan o COVID-19 ynghyd â meysydd cydweithredu posibl yn y dyfodol.  Cyfarfu hefyd â Dr Hans-Kluge, Cyfarwyddwr Rhanbarth Ewrop y WHO i drafod hynt y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a chyfleoedd i gydweithio yn y dyfodol.

Gan i’r ymweliad gyd-fynd â Dydd Gŵyl Dewi, cynhaliodd y Gweinidog dderbyniad ar y cyd â Llysgennad y DU yn Nenmarc i hyrwyddo Cymru dramor a chryfhau’r cysylltiadau â’r Cymry alltud sy’n byw ac yn gweithio yn Nenmarc. 

Ymwelodd y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg â Dulyn am ddeuddydd gan gyd-fynd â Thaith Fasnach Llywodraeth Cymru i farchnad lafur amlsector Iwerddon.  Teithiodd naw allforiwr o amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys gweithgynhyrchu, technoleg, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol a’r gwyddorau bywyd i Iwerddon i hybu’r fasnach rhwng Cymru ac Iwerddon.  Er mwyn annog mwy o gydweithio, cynhaliodd y Gweinidog dderbyniad rhwydweithio i fusnesau o Gymru, darpar brynwyr o Iwerddon a phobl eraill yn y maes.

Yn ystod ei ymweliad, aeth y Gweinidog i nifer o ddigwyddiadau, rhai ohonynt yn dilyn canlyniadau ail fforwm gweinidogion Cymru ac Iwerddon, gan gryfhau ein perthynas yn unol â’r Cyd-ddatganiad a’r Cynllun Gweithredu ar y cyd rhwng Iwerddon a Chymru. Addysg ac Ymchwil yw un o’r chwe maes blaenoriaeth ar gyfer cydweithredu.

Cyfarfu’r Gweinidog â Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Ymchwil, Arloesedd a Gwyddoniaeth Iwerddon, Simon Harris TD.  Cyfarfu hefyd ag arweinwyr sefydliadau addysg bellach ac uwch, gan gynnwys Coleg Prifysgol Dulyn (UCD) i drafod cysylltiadau rhwng y Coleg a phrifysgolion Cymru.  Ymwelodd y Gweinidog â’r Adapt Centre yn Trinity College, Dulyn i ddysgu am Gynllun Digidol newydd Llywodraeth Iwerddon ar gyfer y Wyddeleg gafodd ei lansio ym mis Rhagfyr 2022 a’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Trinity College Dulyn i roi’r cynllun ar waith.  Bu’r ymweliad yn gyfle hefyd i egluro’r gwaith sy’n cael ei wneud gan brifysgolion Cymru i ddatblygu technoleg iaith.  Cynhaliwyd cyfarfod hefyd â’r Royal Irish Academy i drafod cyfleoedd yn y dyfodol i gydweithio â Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

Aeth y Gweinidog i’r ysgol Wyddeleg, Gaelscoil Thaobh na Coille, i gwrdd â disgyblion oedd yn cymryd rhan yng ngweithdy ‘Chwarae yn Gymraeg’ yr Urdd.  Mae gan yr Urdd gytundeb cydweithio tair blynedd â’r mudiad Gwyddeleg, Coláiste Lurgan, i rannu arferion dysgu a gorau mewn technoleg ddigidol. Y gweithdy yw’r cyntaf o’i fath yn Ewrop ac roedd yn gyfle i feithrin perthynas weithio glos yn Iwerddon trwy’r Gymraeg.

Dathlwyd y Gymraeg a’r Wyddeleg mewn digwyddiad ar gyfer y byd ffilm a theledu yn Windmill Lane lle traddodwyd araith gan y Gweinidog.

Cynhaliodd y Gweinidog dderbyniad i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi lle trafodwyd pwysigrwydd iaith, diwylliant a hunaniaeth.  Daeth dros 140 o westeion ynghyd ar gyfer y derbyniad o bob rhan o lywodraeth, diwydiant, addysg a diwylliant yn ogystal â’r gymuned Cymry alltud.  Roedd y derbyniad yn gyfle i atgyfnerthu blaenoriaethau rhyngwladol Llywodraeth Cymru a’n hymrwymiadau yn y Cyd-Ddatganiad a’r Cynllun Gweithredu ar y cyd rhwng Iwerddon a Chymru.

Ar 1 Mawrth, teithiais i Frwsel i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Roedd yn gyfle i ddangos ymrwymiad Cymru fel gwlad Ewropeaidd a’n hymwneud di-dor â’n partneriaid yn Ewrop.  Dyma oedd fy mhumed Dydd Gŵyl Dewi ym Mrwsel yn y chwe blynedd diwethaf.

Cynhaliwyd fy nigwyddiad cyntaf yn y Ganolfan Bolisi Ewropeaidd lle siaradais am ddeddf arloesol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Esboniais sut mae Cymru’n parhau i ymwneud ag Ewrop, a’i ffocws ar fod yn wlad sydd â chyfrifoldebau byd-eang. Cefais fy holi gan y gynulleidfa oedd yn aelodau o gymuned llunio polisïau’r UE.  Trafodwyd pynciau fel ‘Taith’, incwm sylfaenol, yr argyfwng hinsawdd ac ymrwymiadau Cymru i genedlaethau’r dyfodol.

Cefais gyfarfodydd positif hefyd â’r Senedd Ewropeaidd i drafod sut ydym yn cydweithio â’n partneriaid yn Ewrop ar faterion polisi cyffredin, yn ogystal â chyfarfodydd gyda chynrychiolwyr gwleidyddol.  Yn eu plith yr oedd Llysgennad y DU yn yr UE, lle trafodwyd y berthynas rhwng y DU a’r UE, yn enwedig y datblygiadau diweddar ynghylch Fframwaith Windsor, Cynrychiolydd Parhaol Iwerddon yn yr UE i drafod y Cyd-ddatganiad rhwng Iwerddon a Chymru ac â Gweinidog-Lywydd Fflandrys i siarad am y gwaith sy’n cael ei wneud i ddatblygu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cymru a Fflandrys.

Ar noson 1 Mawrth, cynhaliais dderbyniad i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ym Mhreswylfa Llysgennad y DU ym Mrwsel. Gwahoddwyd dros 250 o westeion, ac ymhlith y bobl flaenllaw a ymunodd â ni oedd Llysgenhadon a Chynrychiolwyr Parhaol Norwy, Iwerddon, Gweriniaeth Tsiec, Slofenia a Seland Newydd yn yr UE yn ogystal â nifer o ASEau.  Roedd yn bleser arbennig i mi gael croesawu cynrychiolwyr o’n partneriaid yn llywodraethau rhanbarthol Llydaw, Québec a Gwlad y Basg.

Yn ogystal â theithiau tramor gan Weinidogion Cymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, cynhaliwyd digwyddiadau yn UDA, Canada, Tsieina, India, y Dwyrain Canol ac Ewrop gan swyddfeydd ein rhwydwaith tramor.  Gwnaethon ni gefnogi Wythnos Cymru yn Llundain trwy gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ac ymgyrch farchnata ryngwladol gyda ffocws ar ein gwerthoedd ac sy’n aildargedu cynulleidfaoedd a gafodd eu cyflwyno i Gymru trwy ymgyrchoedd yn y gorffennol fel cwpanau Pêl-droed a Hoci’r Byd.  Roeddwn yn falch gweld bod ein partneriaid tramor hefyd yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Cynhaliodd Llysgennad UDA yn y DU dderbyniad gyda’r Gweinidog Cyllid. Cynhaliodd Llysgenhadaeth Ffrainc dderbyniad fel rhan o Gymru yn Ffrainc 2023 a dathlodd Llysgennad y Swistir Ddydd Gŵyl Dewi gyda derbyniad yn rhoi sylw ar iaith.  Cefnogwyd y ddau gan Lywodraeth Cymru.