Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ddiweddar, aeth Gweinidog yr Economi a minnau ar ymweliadau tramor. Teithiodd Gweinidog yr Economi i’r Emiraethau Arabaidd Unedig, ar gyfer Expo'r Byd yn Dubai, a theithiais i i Frwsel. Buom mwn cyfres o ddigwyddiadau i hyrwyddo Cymru ac i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Ar 1 Mawrth, bûm yn cyfarfod â phartneriaid tramor a rhyngwladol. Yn y bore, roeddwn yn falch o gael cymryd rhan yn y rhith-ddigwyddiad i lofnodi’n Memorandwm

Cyd-ddealltwriaeth gyda Rhaglawiaeth Oita yn Japan. Mae'r Memorandwm

Cyd-ddealltwriaeth yn benllanw tair blynedd o weithgarwch ar ôl Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan yn 2019 i ffurfioli'r cysylltiadau rhwng Cymru ac Oita ym maes chwaraeon, y celfyddydau a diwylliant, y byd academaidd, twristiaeth a'r sector bwyd a diod.

Y prynhawn hwnnw, teithiais i Lundain ar gyfer cinio i nodi Dydd Gŵyl Dewi, a gynhaliwyd gan Uchel Gomisiynydd Canada yn Nhŷ Canada. Roedd y digwyddiad yn rhan o flwyddyn o weithgareddau sy’n cael eu cynnal gan ein dwy wlad drwy’n rhaglen Cymru yng Nghanada 2022 a menter Uchel Gomisiwn Canada, Canada Goes Cymru. Cafodd Cymru yng Nghanada 2022 ei lansio’n ffurfiol yng Nghanada mewn digwyddiad cyfatebol ym Mhreswylfa Uwch Gomisiynydd y DU yn Ottawa ar Ddydd Gŵyl Dewi, dan arweiniad Swyddfa Llywodraeth Cymru ym Montréal.

Ar 2 Mawrth, roeddwn ym Mrwsel ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau gydag uwch Aelodau o Senedd Ewrop i gadarnhau ymrwymiad Cymru i Ewrop, i drafod y berthynas rhwng Cymru a’r UE, ac i rannu pryderon am y sefyllfa sy'n datblygu yn Wcráin. Cyfarfûm â Llysgennad y DU i'r UE er mwyn rhannu syniadau am sut y gall Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU ym Mrwsel, a chynhaliais ddigwyddiad ar gyfer rhanddeiliaid er mwyn cyflwyno agenda Cymru ar gyfer ymgysylltu ag Ewrop, ac er mwyn trafod y sefyllfa yn Wcráin. Mae barn gadarnhaol yn eu plith am awydd Cymru i barhau i gynnal ein cysylltiadau â'n cymdogion Ewropeaidd, ac mae yno hefyd ymdeimlad o werthoedd a safbwyntiau cyffredin. Mae cryn ddiddordeb hefyd ymhlith partneriaid Ewropeaidd am raglen gyfnewid ryngwladol newydd Cymru ar gyfer dysgu, Taith, a chydnabyddiaeth bod hon yn fenter sy'n dangos ymrwymiad Cymru i bartneriaethau rhyngwladol.

Roedd gan Weinidog yr Economi raglen dri diwrnod yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig rhwng 28 Chwefror a 2 Mawrth – yr un pryd â thaith fasnach gan Lywodraeth Cymru i'r Emiraethau Arabaidd Unedig er mwyn hoelio sylw ar y diwydiant technoleg.

Canolbwyntiwyd yn ystod y diwrnod cyntaf ar gysylltiadau masnach a buddsoddi rhwng Cymru a'r Emiraethau Arabaidd Unedig, ac ymhlith y digwyddiadau yr oedd cyfarfod a Chennad Llywodraeth Cymru i'r Emiraethau Arabaidd Unedig, cyfarfod bwrdd crwn gyda chwmnïau o Gymru sydd â chanolfan yn Dubai, cyfarfod gyda Gweinidog Gwladol yr Emiraethau Arabaidd Unedig dros Fasnach Dramor, a thrafodaeth gyda Llysgennad y DU i'r Emiraethau Arabaidd Unedig ar gysylltiadau dwyochrog rhwng yr Emiraethau Arabaidd Unedig a’r DU. Cafwyd cyfle hefyd i fynd o amgylch Pafiliwn y DU yn Expo'r Byd cyn cynnal cinio i arddangos allforion bwyd a diod o Gymru.

Ar yr ail ddiwrnod, bu'r Gweinidog yn cyfarfod â Chomisiynydd Masnach y DU ar gyfer y Dwyrain Canol a phrif negodwr y DU ar gyfer y negodiadau arfaethedig ar Gytundeb Masnach Rydd gyda Chyngor Cydweithredu'r Gwlff. Ar ôl y cyfarfod, buont yn ymweld gyda’i gilydd â Phafiliwn Wcráin i fynegi’u cefnogaeth ac i adael negeseuon unigol o gefnogaeth oddi wrth y ddwy wlad ar y 'wal gefnogaeth' yn y pafiliwn.

Roedd noson 1 Mawrth yn gyfle i'r Gweinidog draddodi araith yn dathlu’r ffaith bod Cymru yn genedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, ac i gynnal derbyniad Dydd Gŵyl Dewi ar gyfer rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cynhyrchwyr bwyd o Gymru.

Ar ddiwrnod olaf y rhaglen, manteisiodd y Gweinidog ar y cyfle i ymuno â chwmnïau technegol ariannol o Gymru wrth iddynt ymweld â FinTech Hive Dubai yn rhan o’u taith fasnach. Cafodd gyfarfod wedyn yn Abu Dhabi gyda'r gronfa cyfoeth sofran sy’n arwain y Bartneriaeth Buddsoddi Sofran rhwng yr Emiraethau Arabaidd Unedig a’r DU i drafod meysydd sydd o ddiddordeb i'r ddwy ochr. Roedd yr ymweliad ag Abu Dhabi yn gyfle hefyd i gyfarfod â datblygwr mwyaf blaenllaw'r Emiraethau Arabaidd Unedig ym maes ynni adnewyddadwy a datblygu trefol cynaliadwy. Mae'r Gweinidog yn edrych ymlaen at gynnal ymweliadau cyfatebol â Chymru eleni ar gyfer y bobl y bu’n cyfarfod â nhw yn Abu Dhabi er mwyn cael dangos cwmnïau o Gymru iddyn nhw.

Daeth ei ymweliad i ben â digwyddiad ar gyfer y Cymry ar wasgar (Rhwydwaith Menywod o Gymru mewn Busnes yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig), partneriaid a rhanddeiliaid i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.        

Roedd y ddau ymweliad tramor hyn yn rhan o raglen fyd-eang lawer ehangach o ddigwyddiadau gan Llywodraeth Cymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.