Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ddiweddar, aeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip a minnau ar ymweliadau tramor i India, Iwerddon a Gwlad Belg yn y drefn honno. Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau i hyrwyddo Cymru fel cenedl flaengar a dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda'n partneriaid rhyngwladol. 

Ymwelodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ag India. Fel rhan o'i rhaglen, lansiodd y Gweinidog flwyddyn Cymru yn India 2024 yn y derbyniad Dydd Gŵyl Dewi ym Mumbai, a mynychodd gyfarfodydd a digwyddiadau ar draws sawl sector, gan gynnwys gofal iechyd a chyfrifoldeb byd-eang. Cynhaliodd y Gweinidog drafodaethau gyda Tata Steel i fynegi ein cefnogaeth i'r diwydiant dur yng Nghymru. Cynhaliodd y Gweinidog hefyd gyfarfod bord gron gyda chwmnïau technoleg feddygol.

Ffocws allweddol i ymweliad y Gweinidog oedd polisïau blaengar ar hawliau LHDTC+ a brwydro yn erbyn trais ar sail rhywedd. Dechreuodd yr wythnos drwy gyfarfod ag aelodau cymuned LHDTC+, gan gynnwys trefnwyr Pride, diplomyddion, ymgyrchwyr priodas gyfartal a thywysog cyntaf India i fod yn agored hoyw, Ei Uchelder Manvendra Singh Gohil.

Ymwelodd y Gweinidog â thalaith Kerala hefyd, gan arwyddo cytundeb ochr yn ochr â Phrif Weinidog Kerala i gryfhau'r berthynas rhwng Cymru a Llywodraeth Kerala.  Bydd hyn galluogi 250 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol o India ddod i weithio yn GIG Cymru. 

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip wedi ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r Cyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru yn ystod taith i Ddulyn i nodi Dydd Gŵyl Dewi. Cyfarfu'r Gweinidog â Gweinidog Gwladol Llywodraeth Iwerddon, yn yr Adran Datblygu Gwledig a Chymunedol, ynghyd â swyddogion o'r Adran Amddiffyn Cymdeithasol, i drafod sut y bydd cysylltiadau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon yn parhau i gryfhau.

Yn ystod yr ymweliad deuddydd â Dulyn, mynychodd y Gweinidog sawl digwyddiad diwylliannol a busnes. Roedd hyn yn cynnwys derbyniad Dydd Gŵyl Dewi gyda phartneriaid o bob rhan o lywodraeth, diwydiant, addysg a diwylliant Iwerddon, yn ogystal â chymuned y Cymry ar wasgar.  

Cyfarfu'r Gweinidog â Chyngor Ieuenctid Cenedlaethol Iwerddon a dau o'u Cynrychiolwyr Ieuenctid ar Hinsawdd, sy'n ceisio meithrin perthynas â Chomisiwn Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru. Cyfarfu hefyd ag uwch-swyddogion gweithredol o'r sefydliad ymchwil glinigol blaenllaw ICON, sydd wedi bod yn buddsoddi yng Nghymru ac yn ehangu ei weithlu.  

Cyfarfu'r Gweinidog hefyd â'r Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol sydd â chyfrifoldeb am y Celfyddydau a Diwylliant, a phrif ymchwilydd ar gynllun peilot Incwm Sylfaenol i'r Celfyddydau Llywodraeth Iwerddon, i drafod cryfderau a heriau cynlluniau o'r fath.  

Ar 28 Chwefror, roeddwn ym Mrwsel yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Roedd hwn yn gyfle i bwysleisio Cymru fel cenedl Ewropeaidd flaengar a'n hymgysylltiad parhaus â'n partneriaid Ewropeaidd. 

Cefais gyfle i drafod pwysigrwydd safle Cymru yn Ewrop ac ymgysylltu rhyngwladol mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Fforwm Ewrop. Cyfarfûm â Gweinidog-Lywydd Fflandrys i drafod cynnydd ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Fflandrys a Chymru.

Cynhaliwyd trafodaeth bord gron bwysig gan WindEurope, gyda datblygwyr a gweithgynhyrchwyr ynni gwynt Ewropeaidd. Roedd hyn yn cynnwys cynrychiolwyr o Renewable UK Cymru a'r Porthladd Rhydd Celtaidd. Roedd yn gyfle i ni ailddatgan ein hymrwymiad i'n targedau ynni adnewyddadwy, codi proffil cyfleoedd yng Nghymru ac ymgysylltu'n uniongyrchol â chwmnïau ynni gwynt mawr yn Ewrop. 

Er mwyn hyrwyddo cydweithio mewn ymchwil ac arloesi, a'n hymrwymiad i hynny, mynychais ddigwyddiad a gynhaliwyd gan Brifysgolion Cymru. Cynrychiolwyd pob prifysgol yng Nghymru ac roedd yn amser perffaith i gadarnhau ein hymrwymiad i'r rhaglen Horizon a hyrwyddo cydweithredu â rhanbarthau eraill yr UE.

Gyda'r hwyr, cynhaliais dderbyniad yng Nghartref Llysgennad y DU ym Mrwsel i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Gwahoddwyd mwy na 250 o westeion, ac ymysg y mynychwyr nodedig oedd Llysgenhadon a Chynrychiolwyr Parhaol i'r UE. Cefais gyfle yn ystod y noson i bwysleisio pwysigrwydd partneriaid Ewropeaidd Cymru, nid yn unig o ran masnach a chydweithio, ond hefyd y gwerthoedd a rennir gennym.

Wedi imi ddychwelyd i'r DU, cynhaliais ddigwyddiad Dydd Gŵyl Dewi i lansio Cymru yn India ar y cyd gyda'r Uchel Gomisiynydd yn Uchel Gomisiwn India yn Llundain.  Mynychwyd y digwyddiad gan gynrychiolwyr busnesau, addysg, ymchwil, diwylliant a chymunedau lleol, gan roi cyfle iddynt glywed am ein rhaglen Cymru yn India, a deall a thrafod y cysylltiadau llwyddiannus sydd eisoes yn bodoli rhwng y ddwy wlad.

Yn ogystal â theithiau tramor gan Weinidogion Cymru, cynhaliwyd digwyddiadau i nodi Dydd Gŵyl Dewi yn yr UDA, yng Nghanada, yn Tsieina, yn Japan, yn y Dwyrain Canol ac yn Ewrop, dan arweiniad swyddfeydd ein rhwydwaith tramor. Cafwyd cyfle ychwanegol i nodi Dydd Gŵyl Dewi yn ystod cenhadaeth fasnach i Awstralia. Fe wnaethom gefnogi dathliad Wythnos Cymru yn Llundain drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau a chyflwyno ymgyrch farchnata ryngwladol gyda ffocws ar ein gwerthoedd a dathliad o Gymru. Cynhaliodd Llysgennad yr Unol Daleithiau i'r DU dderbyniad a fynychwyd gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru. Cynhaliodd llysgenhadaeth y Swistir a Hwngari hefyd dderbyniadau fel rhan o ddathliad Wythnos Cymru, fel y gwnaeth Uchel Gomisiwn Canada.