Siân Gwenllian AS, Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
Ym mis Ionawr 2024, cyhoeddodd Fenella Morris KC adroddiad beirniadol iawn yn dilyn blwyddyn o ymchwiliad i ddiwylliant a dull rheoli Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Daeth i'r amlwg bod diwylliant eang o fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu, ffafriaeth mewn trefniadau dyrchafiadau, a bod y tîm rheoli yn methu â delio â'r problemau hyn neu'n gyndyn o wneud hynny.
Y mis canlynol, penderfynodd Llywodraeth Cymru ymyrryd. Ar ôl i'r Gwasanaeth fethu rhoi sicrwydd digonol y gallai fynd i'r afael â'r problemau hyn ei hun, ac y byddai'n gwneud hynny, penododd y Dirprwy Weinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol ar y pryd bedwar Comisiynydd i oruchwylio'r Gwasanaeth drwy ysgwyddo holl swyddogaethau Awdurdod Tân ac Achub De Cymru.
Mae'r Comisiynwyr wedi gwneud gwaith da ers hynny. Mae'r uwch dîm rheoli cwbl newydd yn ei le, ac mae'r rhai oedd yno adeg y methiannau gwreiddiol wedi mynd. Mae polisïau a gweithdrefnau mewnol yn cael eu hailwampio a'u gwneud yn decach ac yn gadarnach. Hefyd, mae canlyniadau arolwg staff yn dangos bod y diwylliant yn y gweithle yn gwella, er bod hynny yn welliant o fan cychwyn isel iawn.
Nod ymyrraeth yw sicrhau bod camau yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd ac, yn hanfodol, bod y newidiadau hyn yn cael eu cynnal. Mae hyn ar y sail bod pob cam o'r fath yn ddewis olaf: ni ddylai llywodraeth ganolog atal rheolaeth leol o wasanaethau lleol oni bai bod hynny'n hollol angenrheidiol, a dim ond cyhyd ag y bo angen. Felly, mae'n bwysig ein bod yn ystyried pryd i ddod ag ymyrraeth i ben yn ofalus ar sail tystiolaeth a barn y rhai sy'n cael eu heffeithio.
Er bod cynnydd sylweddol wedi bod, nid yw'r Comisiynwyr yn credu bod eu tasg wedi'i chwblhau. Yn benodol, maent wedi dod i'r casgliad nad yw'r newid wedi'i ymgorffori'n ddigonol i oroesi dychwelyd i reolaeth leol. Mae'r farn honno yn cael ei hategu mewn adroddiad gan academyddion blaenllaw yn y maes sydd wedi bwrw amheuaeth sylweddol am gynaliadwyedd yr adferiad pe bai'r Comisiynwyr yn gadael yn y dyfodol agos.
Ar ôl ystyried y sefyllfa hon yn ofalus, rwy'n cytuno â'r angen i gynnal yr ymyrraeth. Mae dod â'n ymyrraeth i ben nawr yn peryglu cynaliadwyedd y newidiadau ac mae'n hanfodol i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan yr hyn a ddigwyddodd o'r blaen na chaniateir i'r problemau ddychwelyd. Byddai hefyd yn peryglu ansawdd y gwasanaethau y mae pobl De Cymru yn dibynnu arnynt i'w cadw'n ddiogel. Mae'r rhain yn risgiau nad wyf yn barod i'w cymryd.
Rwyf felly wedi penderfynu y bydd y Comisiynwyr yn aros yn eu lle tan ar ôl etholiadau lleol y flwyddyn nesaf. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rwy'n disgwyl iddynt gwblhau eu cylch gwaith gwreiddiol a chymryd camau i sicrhau bod modd trosglwyddo'r awenau'n drefnus yn ôl i reolaeth leol, mewn ffordd gynaliadwy. Rwyf hefyd wedi trafod â CLlLC am y ffordd orau o symud ymlaen. Er mwyn cynorthwyo'r Comisiynwyr i sicrhau bod yr awenau yn trosglwyddo'n llyfn yn ôl i reolaeth leol, bydd Llywodraeth Cymru a'r Comisiynwyr yn cydweithio â CLlLC, y deg awdurdod lleol yn Ne Cymru ac aelodau'r Cabinet y mae'r awdurdodau hynny wedi'u penodi i fod yn aelodau o'r Awdurdod.
Yn olaf, bydd un o'n Comisiynwyr, Carl Foulkes, yn gadael y swydd am resymau personol cyn bo hir. Mae Carl wedi dod â thipyn o wybodaeth ac arweinyddiaeth gadarn i rôl y Comisiynydd, gan ddefnyddio ei brofiad fel Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru. Hoffwn ddiolch iddo am ei wasanaeth a dymunaf yn dda iddo i'r dyfodol. Byddaf yn penodi Comisiynydd newydd maes o law.
