Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 9 Chwefror, gosodais yn y Cynulliad Cenedlaethol gopi o’r adroddiad ar yr ymchwiliad a gynhaliwyd i’r cyllid cyhoeddus a dderbyniodd AWEMA. Paratowyd yr adroddiad gan Archwilwyr Mewnol Llywodraeth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, WEFO a’r Gronfa Loteri Fawr. Rhoddais wybod i Aelodau’r Cynulliad bod Llywodraeth Cymru a WEFO yn rhoi’r gorau i gyllido AWEMA. Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn rhoi gwybod i’r Aelodau am y datblygiadau sydd wedi digwydd ers hynny.

Mae Llywodraeth Cymru am gyflawni dau brif amcan mewn perthynas ag AWEMA. Yn gyntaf, rydym yn gweithio i ddiogelu cymaint â phosibl o’r cyllid cyhoeddus sy’n parhau yng nghyfrifon AWEMA. Yn ail, rydym am geisio amddiffyn y bobl sy’n rhan o Brosiectau Cydgyfeirio ESF AWEMA.

Mewn cyfarfod ar 16 Chwefror, penderfynodd Bwrdd Ymddiriedolwyr AWEMA:

  • Y dylid diswyddo’r Prif Swyddog Gweithredol, Mr Naz Malik, a’r Cyfarwyddwr Cyllid, Mr Saquib Zia, ar fyrder ac y dylent fynd o’u swyddi ar unwaith;
  • Y dylid rhoi awdurdod i’r Cadeirydd Dr Rita Austin benodi ymarferydd ansolfedd yn weinyddwr i’r cwmni, i gymryd yr awenau oddi wrth y cyfarwyddwyr o ran rheoli busnes ac asedau AWEMA, er mwyn cyflawni un o ddibenion statudol ei waith gweinyddu.

O dan yr amgylchiadau, mae Llywodraeth Cymru o’r farn mai’r canlyniad hwn fyddai’r mwyaf priodol a bydd y penderfyniadau a wnaed yn helpu i ddiogelu'r cyllid cyhoeddus sy’n parhau yng nghyfrifon AWEMA.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau mewn cysylltiad agos â’r Comisiwn Elusennau, sy’n cynnal Ymchwiliad Statudol i’r hyn sy’n digwydd wrth i AWEMA ddod i ben fel mudiad. Mae swyddogion hefyd yn parhau mewn cysylltiad agos â Heddlu De Cymru ac maent yn rhoi gwybodaeth iddynt i’w helpu â’u hymchwiliadau.

Mae WEFO yn parhau i weithio gyda’r cydnoddwyr i roi trefniadau eraill ar waith er mwyn sicrhau bod gweithgareddau prosiectau yn parhau yn awr ac yn y dyfodol. Mae’r holl gydnoddwyr wedi mynegi ymrwymiad i ddiogelu sefyllfa’r bobl sy’n cael cymorth ar hyn o bryd trwy’r prosiectau a arweinir gan AWEMA, a bydd WEFO yn cynnal rhagor o drafodaethau manwl â’r cydnoddwyr maes o law. O dan unrhyw drefniadau newydd, bydd yn rhaid wrth ddiwydrwydd dyladwy er mwyn sicrhau bod cyllid cyhoeddus yn cael ei ddiogelu.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi dechrau cynnal adolygiad, a bydd yn rhoi adroddiad i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi dweud y bydd ei hadolygiad yn ystyried a yw Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, wedi rheoli ei pherthynas ag AWEMA yn briodol o ran diogelu cyllid cyhoeddus a gwneud defnydd effeithiol ohono.