Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n ysgrifennu i ddiweddaru Aelodau'r Senedd yn dilyn y newyddion annisgwyl a siomedig parthed penderfyniad 2 Sisters Poultry Limited i ddechrau ymgynghoriad staff mewn perthynas â chau eu ffatri yn Llangefni, a allai arwain at golli tua 740 o swyddi ym Môn. 

Ddoe fe wnes i a’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru gwrdd ag Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn. Hefyd, fe wnaeth y Prif Weinidog gwrdd â'r Arweinydd fore heddiw cyn i mi gwrdd ag Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn a 2 Sisters brynhawn heddiw. Rydym ar y cyd yn cyhoeddi sefydlu tasglu ar unwaith i gynnig ein cefnogaeth lawn i'r gweithwyr sydd wedi cael eu heffeithio, a'r gymuned.  

Yn ogystal â'r awdurdod lleol, Llywodraeth Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Busnes Cymru a chynrychiolwyr Undebau Llafur, bydd y Tasglu'n cynnwys partneriaid eraill a fydd yn gallu cynghori a llywio camau gweithredu mewn perthynas ag effeithiau economaidd a chymdeithasol ehangach y cyhoeddiad hwn. Bydd y Tasglu'n cyfarfod ddydd Gwener y 3ydd o Chwefror i drafod ffordd ymlaen a bydd yn parhau i weithio i ddeall y goblygiadau ac i gynnig unrhyw gefnogaeth i'r gweithlu sydd wedi’i effeithio gan y cyhoeddiad hwn.  

Mae hon wrth gwrs yn sefyllfa bryderus sy'n wynebu nid yn unig y gweithwyr, ond y gymuned ehangach.  Rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu a chymryd pob un cam sydd ar gael i ni er mwyn cynnig cefnogaeth i’r bobl y mae'r datblygiadau diweddar hyn yn effeithio arnynt. Rwy'n benderfynol o sicrhau bod pob plaid yn cydweithio yn ein hymdrechion i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r economi leol. 

Mae hon yn esiampl arall o Brexit, chwyddiant a'r argyfwng ynni i gyd yn cael effaith niweidiol ar ein heconomi ni, gan effeithio ar bobl real yn ein cymunedau ni. Byddwn yn annog Llywodraeth y DU unwaith eto i weithredu'n gyflym i gefnogi busnesau Cymru. Yn hyn o beth, byddwn yn pwysleisio y bydd y Tasglu'n edrych ar bob opsiwn, gan gynnwys y potensial i barhau â gweithgarwch ar y safle a diogelu'r swyddi hyn os yw hynny’n bosib. 

Bydd aelodaeth a chylch gwaith y Tasglu’n cael eu pennu’n derfynol yn fuan iawn.  Byddaf yn rhoi diweddariad pellach maes o law.