Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Fe fydd Croeso Cymru yn sicrhau y bydd diwydiant twristiaeth Cymru yn elwa i’r eithaf o’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 sy’n cael eu cynnal yr haf hwn.

Mae Croeso Cymru wedi cydweithio’n agos â Visit Britain er mwyn sicrhau’r budd mwyaf posibl i Gymru, ac wedi cyfrannu’n helaeth at yr Ymgyrch “Great Britain – You’re Invited”. Trwy wneud hyn bydd y bobl sy’n clywed am yr ymgyrch hwn ac sy’n ystyried ymweld â Phrydain yn llwyr ymwybodol o’r hyn y gall Cymru ei gynnig. Y nod yw hybu Cymru fel dewis arall deniadol i ymwelwyr, o’r DU a thramor, a allai ddymuno treulio amser mewn rhan arall o’r DU yn ystod y Gemau a all gynnig llawer o brofiadau penigamp iddynt.

Mae gwaith Croeso Cymru wedi cynnwys:

  • Creu storïau, delweddau a deunyddiau fideo addas i’w cynnwys yn ymgyrch “You’re Invited” Visit Britain
  • Mynd ati i sicrhau bod delweddau o Gymru yn cael eu hystyried ar gyfer seremonïau agor a chloi’r Gemau Olympaidd
  • Darparu gwybodaeth ategol ar gyfer pecynnau’r wasg Visit Britain sy’n cael eu dosbarthu i gyfryngau’r byd
  • Sicrhau presenoldeb effeithiol i Gymru yn y ganolfan gyfryngau a gaiff ei rhedeg gan Visit Britain yng nghanol Llundain cyn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ac yn ystod y Gemau
  • Creu a chynnal cysylltiadau â darlledwyr tramor swyddogol sy’n mynychu’r Gemau, gan sicrhau y gallant weld ffilmiau a grëwyd gan Groeso Cymru

Bwriedir canolbwyntio’n benodol ar dynnu sylw ychwanegol at ddau brosiect pwysig ym maes twristiaeth y dyfodol yng Nghymru - sef Llwybr Arfordir Cymru a lansiwyd yn ddiweddar gan Groeso Cymru a’i bartneriaid, a’r dathliadau sydd ar droed i nodi 100 mlynedd ers geni Dylan Thomas. Caiff newyddiadurwyr sy’n dod i’r DU yr haf hwn eu hannog i ymweld â Chymru er mwyn dysgu rhagor am y ddwy raglen, a hefyd darganfod digwyddiad sy’n gwbl unigryw i Gymru - Gemau Amgen y Byd 2012 a gaiff eu cynnal yn Llanwrtyd.

Bwriedir mynd ati ar y cyd â phartneriaid priodol i hybu’r ffaith mai Caerdydd fydd dinas Olympaidd Cymru mewn deunyddiau cyhoeddusrwydd priodol ac yn ystod ymweliadau’r wasg.

Bydd yr holl waith yma yn rhan o ddarpariaeth hybu a chyhoeddusrwydd gwbl gynhwysfawr gan Groeso Cymru. Mae taith y fflam Olympaidd o amgylch Cymru yr wythnos hon wedi tynnu sylw cynulleidfaoedd o bob ban byd at leoliadau allweddol o fewn Cymru a’r mis nesaf bydd Croeso Cymru yn anfon e-byst at 100,000 o gwsmeriaid er mwyn hybu lleoliadau ar hyd taith y fflam a rhestru gwahanol lefydd i ymweld â hwy ymhob ardal.

Wrth gyfathrebu â phobl ddylanwadol ym myd masnach o fewn y DU a thramor yn ystod y cyfnod hwn byddwn yn hybu rôl Cymru wrth helpu i gynnal, nodi a dathlu’r Gemau. Bwriadwn gyfeirio’n benodol at gyfraniad Cymru i’r Olympiad Diwylliannol a llwyddiant Cymru wrth ddenu timau i gynnal eu gwersylloedd hyfforddi cyn y Gemau yn rhai o brif leoliadau chwaraeon Cymru. Bydd taith yn cael ei chynnal ym mis Awst a fydd yn hebrwng hyd at 20 o Brif Weithredwyr cwmnïau teithio blaenllaw o amgylch Cymru.