Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Flwyddyn yn ôl, gwnaethon ni gyhoeddi adroddiad annibynnol y Panel Adolygu Ffyrdd a'n hymateb iddo. Mae'n ffordd newydd o ddelio â'r pwnc sydd wedi ennyn diddordeb o bob cwr o'r byd. 

Gwnaeth ein datganiad ar bolisi ffyrdd ei gwneud yn glir y byddem yn dal i fuddsoddi mewn ffyrdd sy'n:

  • Lleihau allyriadau carbon ac yn cefnogi'r newid o blaid trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio.
  • Gwneud ffyrdd yn fwy diogel drwy newidiadau bach.
  • Ein helpu i addasu i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.
  • Cysylltu pobl â swyddi ac ardaloedd o weithgarwch economaidd, ond gan wneud y defnydd gorau posibl o drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio.

Mae'r profion hyn yn 'codi'r bar' ar gyfer y ffyrdd newydd y byddwn yn eu hadeiladu yng Nghymru. Wrth eu rhoi ar waith, gwnaethom ymrwymo i fwrw ymlaen â nifer o gynlluniau sydd wedi'u nodi yn y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth. 

Mae'r cynllun hwnnw wedi ymgorffori sawl prosiect a oedd eisoes ar y gweill ac yn ategu ein ffordd newydd o wneud pethau, gan gynnwys y Bont Ddyfi newydd ym Machynlleth, lle mae'r gymuned leol wedi gorfod delio am flynyddoedd â'r A487 yn cau'n fyr rybudd oherwydd llifogydd. Problem fydd yn gwaethygu wrth i'n hinsawdd newid o'n cwmpas.

Mae'r ffordd strategol allweddol hon sy'n cysylltu'r gogledd a'r de yn cysylltu pobl â gofal iechyd, addysg, gwaith a hamdden. Rydym yn dal am fuddsoddi mewn cynlluniau fel hwn ar y rhwydwaith ffyrdd strategol sy'n 'clirio'r bar' bwriadol uchel rydym wedi gosod i ni'n hunain. 

Roeddwn yn arbennig o falch o fod yn aelod o'r grŵp cyntaf o bobl ar feiciau i fanteisio ar y llwybr beicio a cherdded newydd sydd wedi'i ymgorffori yn y bont newydd, fel rhan o rwydwaith teithio llesol ehangach sy'n cael ei ddatblygu ym Machynlleth a'r cyffiniau. Mae hyn yn dangos sut y gallwn hwyluso pethau i gerddwyr a beicwyr yng nghefn gwlad Cymru, yn ogystal ag yn ein trefi a'n dinasoedd.

Er bod y Bont Ddyfi newydd yn symbol gweladwy iawn o'r newidiadau yr ydym yn eu gwneud er lles y dyfodol, yr un mor bwysig yw'r newidiadau yr ydym yn eu gwneud o’r golwg, a thu ôl i'r llenni rydym yn mabwysiadu dull newydd o flaenoriaethu cynnal a chadw ffyrdd. 

Y llynedd, gwnaethon ni ymateb i'r adolygiad annibynnol dan arweiniad Matthew Lugg OBE, a'n heriodd ni i feddwl sut rydym am gynnal ac adnewyddu ein rhwydwaith ffyrdd mewn ffordd wahanol er mwyn cydymffurfio â dyletswyddau statudol a'n hymateb i'r argyfwng hinsawdd.

Yn dilyn yr adolygiad hwnnw, rydym bellach wedi mabwysiadu fframwaith blaenoriaethu sy'n ystyried diogelwch, newid yn yr hinsawdd a newid dulliau teithio. Bydd hyn yn sicrhau bod ein cyllideb cynnal a chadw ffyrdd yn cefnogi ein strategaeth drafnidiaeth ehangach. 

Mae hyn yn berthnasol i lywodraeth ganolog a lleol, a'r mis diwethaf cwrddais â'r Cyng Andrew Morgan, yn ei rôl fel Arweinydd Trafnidiaeth CLlLC, i drafod sut y gallai cynghorau ddilyn trywydd tebyg ar ffyrdd lleol yng Nghymru.

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi hefyd fframwaith Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) newydd. Bydd y canllawiau newydd hyn yn helpu cynllunwyr trafnidiaeth yng Nghymru i ddatblygu ac arfarnu cynigion ar gyfer pob dull teithio yn unol â'n hymrwymiadau polisi yn Llwybr Newydd, Strategaeth Trafnidiaeth Cymru. 

Gan ddefnyddio'r canllawiau diwygiedig hyn, rydym am ddatblygu'r prosiectau ffyrdd yn y Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol mewn ffordd ranbarthol a chydweithredol gyda'r tîm Rhwydwaith Ffyrdd Strategol, timau rhanbarthol TrC a llywodraeth leol yn ein helpu i'w cyd-ddylunio.

Bydd hyn yn hwb i ni ar gyfer taro'r targedau heriol yn Strategaeth Trafnidiaeth Cymru i gael pobl i newid eu dulliau teithio a dyma'r ffordd orau o reoli'r cyfyngiadau cyllidebol eithriadol gaeth sy'n ein hwynebu. 

Mae rôl bwysig i gyngor arbenigwyr annibynnol i'n helpu ar hyd y daith hon. Byddwn felly yn sefydlu Grŵp Adolygu WelTAG cenedlaethol newydd i roi cyngor a sicrwydd technegol arbenigol i Weinidogion a swyddogion ynghylch a yw astudiaethau penodol WelTAG yn cyd-fynd â Llwybr Newydd a phedwar prawf ein hymateb i'r Adolygiad Ffyrdd. 

Yn fwy uniongyrchol, mae'r Adolygiad Ffyrdd yn newid yn sylfaenol y ffordd y mae Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol yn mynd i'r afael â phroblemau trafnidiaeth. 

Pan gyhoeddwyd canfyddiadau'r Panel Adolygu Ffyrdd, gofynnais i'r Cyng Anthony Hunt, arweinydd Cyngor Tor-faen, a'r Cyng Llinos Medi, arweinydd Cyngor Ynys Môn, edrych ar gynlluniau ffyrdd sydd â'r nod o ddatblygu'r economi ac rwy'n falch bod y grŵp hwn yn bwrw ymlaen yn dda â'i waith. 

Yn y cyfamser yn Llanharan, lle daeth y panel Adolygu Ffyrdd i'r casgliad na ddylai'r ffordd osgoi arfaethedig fynd yn ei blaen, rydym wrthi'n cael trafodaethau manwl am brosiect amgen, i'w ddatblygu gan Rhondda Cynon Taf mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru. 

Gallai hyn weld adeiladu ffordd newydd, ond wahanol o ran cymeriad i'r un yr edrychodd y panel Adolygu Ffyrdd arno. Mae'r cynnig newydd yn rhoi blaenoriaeth i wasanaethau bysiau newydd a llwybrau teithio llesol, terfyn cyflymder is gyda ffocws ar leihau carbon ymgorfforedig a diogelu ardaloedd o goetir hynafol a fyddai fel arall wedi'i ddinistrio. 

Mae cynlluniau fel hyn yn dangos sut y bydd buddsoddi mewn ffyrdd yn parhau cyn belled â bod cynlluniau'n cyd-fynd â'n polisi trafnidiaeth a chynllunio ac yn cydnabod na allwn barhau ar y llwybr yr oeddem arno, ond bod yn rhaid dilyn llwybr newydd sy'n delio â bygythiad yr argyfyngau hinsawdd a natur yr ydym wedi'u datgan.

Rydym wedi dweud wrth Gyngor Gwynedd ein bod yn awyddus i weithio gyda nhw ar ddewis arall yn lle ffordd osgoi pentref Llanbedr a gafodd ei gwrthod gan y panel Adolygu Ffyrdd. Hyd yma mae'r cynnydd wedi bod yn araf, ac rydym wedi gofyn i TrC rannu'r ffordd y mae Rhondda Cynon Taf wedi bod yn cymhwyso egwyddorion yr Adolygiad Ffyrdd ar lawr gwlad. 

Mae ein datganiad polisi ffyrdd a gyhoeddwyd y llynedd yn ei gwneud yn glir ein bod am barhau i fuddsoddi mewn ffyrdd hen a newydd, ond i gael cyllid yn y dyfodol rhaid canolbwyntio ar leihau allyriadau carbon, nid cynyddu capasiti, a heb gynyddu allyriadau trwy ganiatáu i gerbydau deithio'n gyflymach, a heb effeithio'n andwyol ar safleoedd ecolegol gwerthfawr. 

Rydym wedi datgan ei bod yn Argyfwng Hinsawdd a Natur, wedi deddfu i ddiogelu Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac wedi'i gwneud yn ofyn cyfreithiol i gyrraedd Sero Net erbyn 2050. Mae'n rhaid i ni fod yn barod i ddal ati i fynd â'r maen hwn i'r wal.