Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw cyhoeddais y 4ydd Adroddiad Blynyddol ar Strategaeth yr Hawl i fod yn Ddiogel gan Lywodraeth Cymru. 

Lansiwyd Strategaeth yr Hawl i fod yn Ddiogel ym mis Mawrth 2010 gyda’r nod o fynd i’r afael â phob math o drais yn erbyn menywod a cham-drin domestig. Roedd y Strategaeth yn nodi pedwar maes blaenoriaeth allweddol yr oedd angen rhoi sylw iddynt: 

  • Atal a chodi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod a cham-drin domestig;
  • Darparu cymorth i ddioddefwyr a phlant;
  • Gwella ymateb yr asiantaethau cyfiawnder troseddol; a
  • Gwella ymateb y gwasanaethau iechyd ac asiantaethau eraill. 
Roedd y Strategaeth chwe blynedd hon yn cael ei hategu gan gynllun gweithredu tair blynedd an oedd yn cynnwys 89 o gamau i’w cyflawni. Gwnaed gwaith ar bob un o’r camau yn y cynllun gweithredu, a chwblhawyd 81 o’r camau hynny. Bydd yr wyth cam arall yn cael eu datblygu ymhellach fel a ganlyn:

  1. Camau 1.1, 1.2, 1.13, 4.3 a 4.8 drwy’r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol;
  2. Cam 3.3 drwy Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru Gyfan;
  3. Cam 4.7 drwy’r Prosiect 10,000 o Fywydau Diogelach; a
  4. Bydd Cam 5.19 yn cael ei ddatblygu fel rhan o’r ymateb i’r adroddiad ar yr Adolygiad o Wasanaethau, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2014.

Rwy’n ddiolchgar i’r holl randdeiliaid, yn y gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi’u datganoli a heb eu datganoli a’r rhai yn y Trydydd Sector, sydd wedi cyfrannu at gyflawni’r camau gweithredu hyn yn ystod y pedair blynedd diwethaf.

Mae’r dirwedd wedi newid yn sylweddol ers 2010 pan gyhoeddwyd y Strategaeth gyntaf. Yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth y byddaf yn ei chyflwyno y mis hwn, sy’n ceisio dod â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ben, credaf mai nawr yw’r amser iawn i bwyso a mesur.

Gyda’r mwyafrif helaeth o’r camau wedi’u cwblhau a’r ychydig sy’n weddill yn cael eu datblygu fel yr amlinellais, hwn fydd yr Adroddiad Blynyddol olaf ar Strategaeth yr Hawl i fod yn Ddiogel.

Byddwn nawr yn ystyried sut orau i fwrw ymlaen â strategaeth Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, yn erbyn cefndir y Bil arfaethedig. Yn y cyfamser, byddaf yn cymeradwyo rhaglen waith benodol a fydd yn sicrhau bod y gwaith gwerthfawr a gychwynnwyd gan Strategaeth yr Hawl i fod yn Ddiogel yn parhau.  

Mae’r adroddiad ar gael ar lein.