Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Datganiad hwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf ar yr M4 ym Mhort Talbot ac yn benodol y treialon i gau y ffordd ymuno i’r gorllewin ar gyffordd 41.

Fel rhan o’n hadolygiad parhaus, cefais gyfarfod â David Rees AC, Stephen Kinnock AS ac aelod o’r cyhoedd o Bort Talbot yr wythnos ddiwethaf, i gael eu barn ar yr effaith y caiff y posibilrwydd o gau y ffyrdd ymuno er mwyn deall y pryderon sy’n cael eu codi gan y trigolion a’r busnesau lleol yn well.

Wedi ystyried y mater yn llawn, gan gynnwys goblygiadau yr ansicrwydd sy’n gysylltiedig â TATA Steel ac effaith penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, rwyf wedi penderfynu peidio â mynd ymlaen i ystyried mwy ar gau y ffyrdd ymuno ym Mhort Talbot ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, rwy’n cydnabod bod gwella llif y traffig yn bwysig iawn i lwyddiant economaidd De Cymru.  Felly, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion gysylltu â Dinas-ranbarth Bae Abertawe i’w cael yn rhan o astudiaeth ehangach o goridor yr M4 o amgylch Abertawe sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

Bydd yr astudiaeth hon yn cynnwys y data gwerthfawr a gafwyd yn ystod y treialon i gau’r ffordd ymuno, ac yn ceisio datblygu’r opsiynau i  wella’r M4 fydd yn cynnwys twf calonogol Dinas-ranbarth Bae Abertawe.