Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae tyfu economi Cymru, cefnogi cyflogaeth o ansawdd uchel, a sicrhau bod ein cymunedau wedi'u cysylltu'n dda yn parhau i fod yn flaenoriaethau craidd i Lywodraeth Cymru.

Mae Porth y Gorllewin, Wrecsam yn safle strategol bwysig gyda'r potensial i ddatgloi cyfleoedd busnes, arloesi a chyflogaeth newydd i Ogledd Cymru. Er mwyn cefnogi'r potensial hwn, rydym wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Trafnidiaeth Cymru, Uchelgais Gogledd Cymru a rhanddeiliaid allweddol i fynd i'r afael â chyfyngiadau seilwaith hirsefydlog —yn enwedig mewn perthynas â chapasiti rhwydwaith lleol, mynediad at drafnidiaeth gynaliadwy, a phwysau gweithredol ar Gyffordd 4 yr A483.

Ar ôl ystyried argymhellion astudiaeth WelTAG a'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad yn fanwl, gallaf gadarnhau heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £1.5 miliwn yn ystod y 18 mis nesaf i fwrw ymlaen â phecyn o fesurau trafnidiaeth a ffefrir a fydd yn galluogi datblygu safle Porth y Gorllewin.

Mae'r mesurau hyn yn cynnwys:

 Gwelliannau i Gyffordd 4 yr A483

  • Byddwn yn dechrau ar unwaith â'r gwaith dylunio, datblygu ac asesu amgylcheddol ar gyfer cyffordd newydd aml lefel i'r de o Gyffordd 4 bresennol yr A483, gyda'r bwriad o gyhoeddi Gorchmynion drafft yn ystod gwanwyn 2027.
  • Bydd astudiaeth dechnegol ar y cyd hefyd yn asesu cyfleoedd i wella effeithlonrwydd y signalau traffig wrth gylchfannau Cyffordd 5 er mwyn gwella llif traffig a diogelwch ar y gyffordd allweddol hon i Wrecsam.

Gwella Mynediad i Gerddwyr, Beicwyr a Mynediad at Reilffyrdd

  • Bydd Cyngor Wrecsam yn ymgymryd â gwaith dichonoldeb a dylunio ar gyfer llwybr beicio blaenoriaeth newydd sy'n cysylltu Gorsaf reilffordd Wrecsam Cyffredinol â Phorth y Gorllewin yn ystod 2026/27, yn amodol ar benderfyniadau cyllido blynyddol.
  • Bydd Cyngor Wrecsam a Trafnidiaeth Cymru yn archwilio argymhellion y gwasanaethau bysiau a nodwyd drwy'r broses WelTAG fel rhan o'r rhaglen ehangach o ddiwygio bysiau cenedlaethol.
  • Bydd opsiynau ar gyfer gweithredu a chyllido gwell darpariaeth bysiau i Borth y Gorllewin yn y dyfodol yn cael eu harchwilio i gefnogi newid dulliau teithio a sicrhau mynediad dibynadwy i weithwyr a busnesau.

Gwella Gwasanaethau Bysiau

Gyda'i gilydd, bydd y mesurau hyn yn arwain at fuddion sylweddol:

  • Bydd cyffordd newydd wedi'i moderneiddio yn gwella diogelwch, yn gwella llif traffig, ac yn datgloi potensial datblygu llawn Porth y Gorllewin.
  • Bydd llwybrau cerdded a beicio newydd yn cefnogi dewisiadau teithio iachach, mwy cynaliadwy.
  • Bydd gwell cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus yn ehangu mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ac yn cefnogi newid mewn dulliau teithio.

Byddwn yn ymgysylltu a'r cyhoedd ar yr opsiynau a ffefrir yn ystod 2026 i sicrhau bod cymunedau a busnesau yn parhau i gael gwybod am y camau nesaf. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio â Chyngor Wrecsam, Trafnidiaeth Cymru, Uchelgais Gogledd Cymru a chyrff statudol i sicrhau'r caniatâd sydd ei angen ar gyfer cyflawni'r datblygiad.

Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i fwrw ymlaen â'r pecyn hwn yn gyflym a sicrhau bod y seilwaith trafnidiaeth sy'n cefnogi Porth y Gorllewin, Wrecsam yn cael ei gyflawni cyn gynted â phosibl — gan osod Wrecsam a rhanbarth ehangach Gogledd Cymru mewn lle cadarn ar gyfer twf economaidd parhaus.