Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru 

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 15 Tachwedd, ynghyd â Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, roeddwn yn bresennol yn yr unfed Uwch-gyfarfod ar hugain o'r Cyngor Prydeinig Gwyddelig (y BIC) yn Jersey. Cadeirydd yr Uwch-gyfarfod oedd Prif Weinidog Jersey, y Seneddwr Ian Gorst.  Roedd Gweinidogion arweiniol o Aelod-weinyddiaethau eraill y BIC yn bresennol yn yr Uwch-gyfarfod, gan gynnwys:

  • An Taoiseach, Mr. Enda Kenny TD, o Lywodraeth Iwerddon
  • Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, y Gwir Anrh Theresa Villiers AS o Lywodraeth y DU,
  • Prif Weinidog Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, y Gwir Anrh Peter Robinson MLA, a'r Dirprwy Brif Weinidog, Mr Martin McGuinness MLA,
  • Ysgrifennydd y Cabinet ar Gyllid a Thwf Cynaliadwy, John Swinney MSO o Lywodraeth yr Alban,
  • Prif Weinidog, y Dirprwy Peter Harwood, o Lywodraeth Guernsey,
  • Prif Weinidog, yr Anrh Allan Bell MHK o Lywodraeth Ynys Manaw.

Mae'r Cyngor Prydeinig Gwyddelig yn dal i chwarae rhan arwyddocaol yn hyrwyddo, hybu a datblygu cysylltiadau rhwng ei Aelod-weinyddiaethau ac yn darparu fforwm ar gyfer ymgynghori a chydweithredu. Ar yr achlysur hwn, fe wnaeth yr Uwch-gynhadledd roi cyfle i Aelod-weinyddiaethau drafod yr economi, gan ganolbwyntio'n benodol ar waith i bobl ifanc; a chreu sector gwaith Diwydiannau Creadigol BIC newydd.

O ran yr economi, pwysleisiais fod incymau'n dal i gael eu gwasgu ac amgylchiadau economaidd yn dal yn anodd i ormod o'n pobl, a hynny er bod arwyddion eisoes fod pethau'n gwella ar draws y DU. Erbyn hyn mae diweithdra'n gostwng a chyflogaeth yn cynyddu, ond mae'r gwelliant yn digwydd o sylfaen sy'n eithriadol o wan. Mae gweithgynhyrchu'n gwella yng Nghymru, a'r diwydiant dur yn ffynnu, ac mae buddsoddi gan gwmnïau mawr fel Aerospace yn bwysig iawn. Pwysleisiais hefyd fod aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn dyngedfennol i Gymru ac y byddai unrhyw beth sy'n amharu ar ein mynediad i'r farchnad Ewropeaidd yn andwyol iawn i economi Cymru. Yn ein profiad ni mae bod yn rhan o'r UE yn ysgogiad hefyd i fuddsoddiad o rannau eraill o’r byd.

O ran gwaith i bobl ifanc, tynnodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg sylw at lwyddiant cynllun arloesol Llywodraeth Cymru, Twf Swyddi Cymru. Fel y mae ym mis Hydref 2013, mae'r rhaglen wedi creu bron 9000 o gyfleoedd ac wedi sicrhau 7000 o swyddi i bobl ifanc. Mae'r ffigurau cynnar ar y cynnydd  yn addawol iawn: mae tua 80% o'r bobl ifanc sy'n cwblhau'r cyfle 6 mis yn symud ymlaen at waith cynaliadwy, prentisiaeth neu addysg uwch. Mae ein Cyllideb Ddrafft yn darparu ar gyfer cynyddu'r cyllid i alluogi 4,000 o swyddi pellach, ar ben y 12,000 a gynlluniwyd yn wreiddiol, i sicrhau gwaith i 16,000 o bobl ifanc erbyn 2016. Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog hefyd wybodaeth am ein rhaglen Hyfforddeiaeth, gyda 63% yn gwneud dilyniant positif i gyflogaeth neu addysg bellach, a'n cynllun Prentisiaeth, sydd wedi gweld cyfradd lwyddiant o 85%. Soniodd hefyd am ein cynllun gweithredu a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, gyda golwg ar ei weithredu'n llawn o fewn 2 flynedd.

O ran y diwydiannau creadigol, disgrifiais gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r ffrwd waith BIC newydd hon gan mai hwn yw un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Cynhaliwyd WOMEX yng Nghaerdydd ychydig wythnosau yn ôl, ac yma mae cartref Dr Who, Torchwood a Da Vinci's Demons. Rydym yn blaenoriaethu'r gefnogaeth i'r busnesau hynny sy'n ecsbloetio deunydd creadigol yn ddigidol ac i'r rheini all ymateb i gyfleoedd yr economi creadigol digidol byd-eang. Bydd band-eang ffeibr cyflym iawn ar gael i 96% o'r wlad erbyn 2016, gan wella'r seilwaith i fusnes digidol. Disgrifiais lwyddiant ein Cronfa Datblygu Digidol, a estynnwyd tan 2016, yn ogystal â gwasanaeth lleoliadau Comisiwn Sgrin Cymru sydd wedi annog nifer o gynyrchiadau ffilm a theledu rhyngwladol i wneud defnydd o'r tirweddau naturiol, adeiladau treftadaeth a lleoliadau yn ein dinasoedd. Yn olaf, rwy'n nodi sut y gall gwledydd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ddefnyddio'r ffrwd waith i gydweithio a chynnig pecynnau fel bod y broses lawn o wneud ffilmiau yn digwydd o fewn ein gwledydd ni.
Cyhoeddwyd prif bwyntiau trafod yr unfed Uwch-gynhadledd ar hugain yn y Cyd-hysbysiad, sy'n atodedig.  

http://www.britishirishcouncil.org/news/21st-british-irish-council-summit-held-jersey (Saesneg yn unig)