Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ers 2018, mae'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu argymhellion ar gyfer model cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Cyhoeddwyd adroddiad terfynol y Bwrdd, sef Mae'n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru: Sicrhau model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru, ar 16 Medi.  Hoffwn ddiolch unwaith eto i aelodau'r Bwrdd, y Pwyllgor Pobl Ifanc, y Grwpiau Partneriaeth Strategol a phawb arall a fu'n ymwneud â llywio'r adroddiad terfynol. Rwy'n ddiolchgar am ddull cyfranogol y Bwrdd o ymgysylltu â phobl ifanc a rhanddeiliaid ym mhob rhan o'r sector. Drwy hyn, mae'r Bwrdd wedi gallu dod i ddeall y materion yn well a chydweithio i fynd i'r afael â nhw.

Ond mae'n bryd inni roi heibio geiriau a mynd ati i droi ein hawydd i weithredu yn gamau gweithredu go iawn. Rhaid inni wneud hynny ar garlam a heb oedi. Felly mae'n bleser mawr gennyf gyhoeddi y bydd y gwaith o recriwtio Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid yn dechrau ym mis Ionawr. Rwy'n ddiolchgar i'r Bwrdd presennol am estyn ei amserlen ei hun wrth inni recriwtio'r Bwrdd Gweithredu. Bydd hyn yn sicrhau parhad, sy'n bwysig, ac yn cadw momentwm. O adeiladu ar sail y parhad hwnnw, mae'n hollbwysig bod llais pobl ifanc yn parhau'n rhan allweddol o'n gwaith er mwyn sicrhau ein bod yn datblygu gwasanaethau gwaith ieuenctid effeithiol sy'n diwallu anghenion pob person ifanc. Rwy'n falch, felly, y bydd y Pwyllgor Pobl Ifanc yn cefnogi gwaith y Bwrdd Gweithredu.

Mae argymhellion y Bwrdd yn uchelgeisiol, gyda nifer ohonynt yn estyn ymhell y tu hwnt i faes gwaith ieuenctid, sy'n dangos mai gwasanaeth strategol pwysig yw gwaith ieuenctid, sy'n effeithio ar nifer o feysydd. Mae'n glir o'n hystyriaethau cynnar fod angen inni weithio mewn modd trawslywodraethol er mwyn nodi cwmpas cyfan y meysydd hyn. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i'r argymhellion yn ymwneud â'r cynllun hawliau pobl ifanc, y gwasanaeth cyfnewid gwybodaeth i bobl ifanc a'r gwaith o greu gweledigaeth ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo mewn rhai o'r meysydd y mae'r argymhellion yn eu trafod, a bydd y dull trawslywodraethol hwn yn ein helpu i ddeall yn well yr hyn sydd eisoes ar y gweill, a'r hyn y gellir ei ddatblygu.

Mae'n bleser gennyf gadarnhau bod cyllid penodol gwerth £11.4m, dros 3 blynedd, wedi'i ddyrannu yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o roi argymhellion y Bwrdd ar waith.

Drwy ystyried ymhellach y canlyniadau polisi a fwriedir gan yr argymhellion, bydd modd llunio'r camau y bydd angen eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â nhw. Bydd y gwaith ymchwilio hwn, yn ogystal â'r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw, yn ein helpu i ddatblygu'r gwaith hwn. Bydd y materion hyn yn allweddol i waith y Bwrdd Gweithredu, gan ei gwneud yn bosibl iddo ddatblygu cynllun gwaith ar gyfer y tair blynedd nesaf, a fydd yn blaenoriaethu'r hyn y byddwn yn ei gyflawni, a phryd y byddwn yn ei gyflawni.  Caiff Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru, a gyhoeddwyd gyntaf yn 2019, ei ddiweddaru i adlewyrchu hyn.

Ceir ymateb cychwynnol i bob argymhelliad yn yr atodiad isod. Byddaf yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am yr argymhellion yn y flwyddyn newydd wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen.

Rhoddir blaenoriaeth i'r gwaith o sefydlu'r Bwrdd Gweithredu. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i weithio gyda'r Bwrdd presennol, Grwpiau Partneriaeth Strategol, y sector gwaith ieuenctid ehangach a'r Pwyllgor Pobl Ifanc i adeiladu ar y cynnydd rydym eisoes wedi ei wneud. 

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad, mewn ymateb i'r Gyllideb Ddrafft, er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny. 

Atodiad

Argymhelliad

Cam gweithredu

Argymhelliad 1: Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu strwythur llywodraethu a gaiff ei arwain gan bobl ifanc ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru er mwyn sicrhau ei bod yn gwrando ar bobl ifanc ac yn ystyried eu barn wrth iddi ddatblygu gwasanaethau iddynt.

Mae'n hanfodol sicrhau bod pobl ifanc yn ymwneud yn llawn â'r gwaith rydym yn ei wneud i gryfhau gwaith ieuenctid. Rydym wedi estyn oes y Pwyllgor Pobl Ifanc ac yn disgwyl y bydd yn parhau i weithio gyda'r Bwrdd presennol, yn ogystal â helpu i ddatblygu'r Bwrdd Gweithredu newydd (gweler Argymhelliad 5) er mwyn llywio'r gwaith hwn.

Argymhelliad 2: Dylai Llywodraeth Cymru atgyfnerthu neu sefydlu sail ddeddfwriaethol newydd ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Mae angen gwneud gwaith pellach i bennu'r newidiadau sydd eu hangen er mwyn cryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid. Mae angen inni ymgymryd â gwaith polisi manwl i ddeall sut y gellir cyflawni'r canlyniadau a fwriedir gan yr argymhelliad hwn.  Byddwn yn gweithio drwy hyn gyda'r Bwrdd Gweithredu (gweler Argymhelliad 5) a'r sector gwaith ieuenctid ehangach. Bydd y gwaith hwn yn dechrau yn y flwyddyn newydd.

Argymhelliad 3: Dylai Llywodraeth Cymru benodi Gweinidog Plant a Phobl Ifanc yn y Cabinet a chanddo portffolio penodol ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid. Dylai'r Gweinidog arwain proses o bennu gweledigaeth ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.

Mae gwaith ieuenctid yn rhan o bortffolio Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

Mae Gweinidogion Cymru yn cytuno bod hawliau plant yn gyfrifoldeb i bawb, ac yn rhan annatod o bob portffolio.   Mae pryderon plant a phobl ifanc yn bwysig iawn i ffordd o feddwl y Cabinet a'r gwaith o lunio polisïau o ganlyniad i hyn. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ystyried sut i greu a rhannu gweledigaeth unedig i blant a phobl ifanc yng Nghymru, gan alw ar y cymorth sydd ar gael ym mhortffolios yr holl Weinidogion. Bydd y weledigaeth honno, a'r camau y byddwn yn eu cymryd i gydgysylltu a chyfathrebu ein gwaith ar ran plant a phob ifanc, yn ystyriol o waith ieuenctid.

Argymhelliad 4: Dylai Llywodraeth Cymru ofyn i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal adolygiad annibynnol o ddigonolrwydd, tryloywder, atebolrwydd ac effeithiolrwydd cyllid a gwariant ar wasanaethau gwaith ieuenctid ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru ac mewn awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol, er mwyn asesu i ba raddau y mae canlyniadau yn cael eu cyflawni a'r effaith ar bobl ifanc.

Mae'n hanfodol sicrhau bod cyllid digonol ar gael i waith ieuenctid er mwyn cyflawni yn erbyn yr argymhellion. Byddwn yn cynnal adolygiad o'r cyllid sydd ar gael a'r ffordd y mae'n cael ei ddefnyddio er mwyn helpu i lywio gwaith y Bwrdd Gweithredu.

Fodd bynnag, nid ydym yn derbyn bod angen i swyddfa'r Archwilydd Cyffredinol ymgymryd â'r gwaith hwn o ganlyniad i'r posibilrwydd o fuddiannau'n gwrthdaro.

Argymhelliad 5: Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu corff cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Bydd y gwaith o recriwtio Cadeirydd ar gyfer Bwrdd Gweithredu newydd yn dechrau ym mis Ionawr 2022. Caiff y Bwrdd newydd y dasg o weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu'r argymhellion a wnaed gan y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro presennol, lle y bo'n briodol.

Fel rhan o'r gwaith hwn, gofynnir i'r Bwrdd Gweithredu ystyried cylch gwaith Corff newydd, yn ogystal â'r swyddogaethau, y cyllid a'r pwerau y bydd angen iddo eu cael o bosibl. Gwneir y gwaith hwn ar y cyd â'r materion sy'n sail i Argymhelliad 2.

Argymhelliad 6: Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu partneriaethau cyflawni rhanbarthol i gefnogi gwaith cyflawni'n lleol.

Rydym yn edrych ar gyfleoedd i sefydlu gwaith ieuenctid ym model presennol y consortia addysg rhanbarthol.

Argymhelliad 7: Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu fframwaith i gefnogi arloesi mewn gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru er mwyn gwella safonau yn y sector.

 

Rhaid inni sicrhau bod y gweithlu yn gadarn ac yn cael ei lywio gan safonau o ansawdd uchel. Mae'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn cryfhau o hyd. Byddwn hefyd yn gweithio gydag eraill, gan gynnwys Estyn, i sicrhau ein bod yn datblygu ffyrdd o asesu ansawdd ein holl wasanaethau gwaith ieuenctid yn briodol, mewn modd cefnogol a fydd yn helpu i ysgogi gwelliant ac arloesi.

Argymhelliad 8: Dylai Llywodraeth Cymru atgyfnerthu deddfwriaeth bresennol Cyngor y Gweithlu Addysg er mwyn cau'r bylchau mewn meini prawf cofrestru.

Mae cofrestru gweithwyr ieuenctid yn bwysig er mwyn helpu i sicrhau llesiant a diogelwch pobl ifanc. Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i fynd i'r afael â bylchau o ran cofrestru fel rhan o waith ehangach a gynhelir ar gofrestru gweithwyr addysg proffesiynol. Bwriedir cynnal ymgynghoriad ffurfiol yng ngwanwyn 2022, gan roi unrhyw newidiadau ar waith yn ystod 2023.

Argymhelliad 9: Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r sector i gomisiynu gwasanaeth cyfnewid gwybodaeth i Gymru, fel rhan o gynnig digidol i bobl ifanc sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid.

Mae'r argymhellion hyn yn estyn ymhell y tu hwnt i faes gwaith ieuenctid, ac mae angen arfer dull trawslywodraethol er mwyn ein helpu i ddeall yn well yr hyn sydd eisoes ar y gweill, a'r hyn y gellir ei ddatblygu. Bydd gwaith ar hyn yn parhau yn y flwyddyn newydd.

Argymhelliad 10: Dylai Llywodraeth Cymru lansio Cynllun Hawliau Pobl Ifanc i bob person ifanc rhwng 11 a 25 oed yng Nghymru.

Mae'r argymhellion hyn yn estyn ymhell y tu hwnt i faes gwaith ieuenctid, ac mae angen arfer dull trawslywodraethol er mwyn ein helpu i ddeall yn well yr hyn sydd eisoes ar y gweill, a'r hyn y gellir ei ddatblygu. Bydd gwaith ar hyn yn parhau yn y flwyddyn newydd.

Argymhelliad 11: Dylai Llywodraeth Cymru a'r sector gwaith ieuenctid gydweithio i hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth, o ran mynediad at wasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru, ac mewn perthynas â'r rôl y gall gwasanaethau gwaith ieuenctid ei chwarae o ran mynd ati i herio agweddau ac ymddygiadau gwahaniaethol mewn cymdeithas.

Dylai'r gwaith o sicrhau cynnig teg a chynhwysol ar gyfer gwaith ieuenctid fod yn sail i bopeth rydym yn ei wneud wrth inni ddatblygu'r agenda hon. Rydym eisoes wedi cymryd nifer o gamau pwysig tuag at gyflawni hyn drwy newid ein grantiau a lansio'r Grant Strategol ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol, sy'n canolbwyntio'n benodol ar gydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth.

Bydd Llywodraeth Cymru a'r Bwrdd Gweithredu yn gwneud rhagor o waith ar y pwynt hwn, gan weithio gyda'r Pwyllgor Pobl Ifanc i ddatblygu'r gwaith hwn ymhellach ac ystyried y camau nesaf.

Argymhelliad 12: Dylai Llywodraeth Cymru gynyddu nifer y gwasanaethau gwaith ieuenctid sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Dylai hefyd sicrhau mai un o flaenoriaethau allweddol y Corff Cenedlaethol fydd hyrwyddo gwasanaethau gwaith ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym yn parhau'n awyddus iawn i sicrhau bod pobl ifanc yn cael mwy o gyfleoedd i ymwneud â gwaith ieuenctid gan ddefnyddio eu dewis iaith. Byddwn yn dysgu o'r cynlluniau peilot iaith Gymraeg sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2022, er mwyn sicrhau bod mwy o wasanaethau yn cael eu darparu yn Gymraeg, a gwneud yn siŵr bod adnoddau'n cael eu creu i estyn yr arfer hon ledled Cymru.

Argymhelliad 13: Mae angen i Lywodraeth Cymru adeiladu ar ei hymrwymiad i gefnogi a datblygu'r proffesiwn gwaith ieuenctid gyda strwythur gyrfaoedd sy'n cynnig cyfleoedd i gamu ymlaen.

Mae'r ymarfer mapio gweithlu a gynhaliwyd yn ddiweddar yn cynnig dechreubwynt o ran ein helpu i ddeall yn well pwy sy'n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid. Rhaid inni sicrhau bod y gweithlu yn ddigon amrywiol i adlewyrchu anghenion a chefndiroedd ein pobl ifanc, a bod gweithwyr yn cael eu cefnogi o ran eu datblygiad proffesiynol eu hunain. Byddwn yn gweithio tuag at ddatblygu strwythur gyrfa clir i weithwyr ieuenctid, gyda chyfleoedd i ddatblygu ar bob lefel. Bydd y Bwrdd Gweithredu a'i strwythurau ategol yn datblygu'r gwaith hwn.

Argymhelliad 14: Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu gwasanaethau gwaith ieuenctid dan frand Cymru ac adnodd i gydgysylltu a hyrwyddo cyfathrebu o fewn y sector a rhwng y sector a'i bartneriaid.

Byddwn yn cyllido rolau ym maes Marchnata a Chyfathrebu yn y sector yn ystod 2022-23 er mwyn codi proffil gwaith ieuenctid a helpu pobl eraill i ddeall effaith y gwaith hwn ar eu sectorau. Bydd deiliaid y rolau hyn yn gweithio gyda'r Bwrdd Gweithredu i nodi blaenoriaethau, ar sail gwybodaeth a geir gan archwiliad brand o'r sector gwaith ieuenctid, a fydd yn dechrau yn y flwyddyn newydd.