Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn 2022, fe wnaethom greu panel arbenigol ar ddarlledu a chyfathrebu, mewn ymateb i ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Cyhoeddodd y panel ei adroddiad 'Dyfodol newydd ar gyfer darlledu a chyfathrebu yng Nghymru' ym mis Awst 2023, yn dilyn gwaith ymchwil ac ymgysylltu helaeth.

Rydym wedi ystyried adroddiad a chanfyddiadau'r panel yn ofalus, a hoffwn ddiolch i'r panel unwaith eto am ei waith. Rydym wedi ymrwymo i fynd ar drywydd datganoli pwerau dros gyfathrebu a darlledu i Gymru ond rydym yn cydnabod y bydd angen cefnogaeth ddeddfwriaethol ac ariannol Llywodraeth y DU. 

Mae ystyriaethau ymarferol sylweddol yn deillio o argymhelliad canolog y panel i sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol, yn enwedig mewn perthynas â’i  bwerau a’i gyllid yn y tymor hwy. Fodd bynnag, mae corff cynyddol o dystiolaeth yn bodoli bellach, sy'n dangos bod y sefyllfa bresennol yng Nghymru yn anghynaladwy. Mae'r rhain yn cynnwys adroddiadau'r Sefydliad Materion Cymreig ar Ddarlledu yng Nghymru ac adroddiad diweddar y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Nodwn yn benodol argymhelliad y comisiwn y dylai “gwaith cadarn barhau ar lwybrau posibl at ddatganoli”. 

Yn unol â barn y panel arbenigol, a’r corff cynyddol o dystiolaeth annibynnol, credwn fod angen gweithredu i ddiogelu darlledu cyhoeddus ac i wella amgylchedd y cyfryngau yn gyffredinol yng Nghymru. Rhaid inni sicrhau bod gan Gymru lais cryfach ac nad yw'n cael ei gadael ar ôl wrth i ddarlledu a sector ehangach y cyfryngau fynd trwy newid cyflym. 

Rydym felly wedi cytuno i sefydlu Corff Cynghori ar Ddarlledu a Chyfathrebu i ddarparu arweiniad ar ddarlledu a chyfathrebu, i lywio polisi yng Nghymru yn ogystal â llywio'r newidiadau niferus sydd ar y gorwel.

Bydd y corff yn anelu at gynnwys cynrychiolwyr o gyrff rhanddeiliaid allweddol, gan sicrhau bod cyngor rheolaidd a dibynadwy ar gael i Lywodraeth Cymru mewn sector sy'n datblygu'n gyflym, darparu cyngor ar ymdrechion i gryfhau'r cyfryngau yng Nghymru a gwneud argymhellion ynghylch sut y gellid dod â'r ymdrechion hynny ynghyd. 

Bydd y dull hwn, sy'n cyd-fynd â'r dyheadau a nodir yn y Cytundeb Cydweithio, yn helpu i gryfhau cysylltiadau â chyrff rhanddeiliaid allweddol ac yn darparu her a goruchwyliaeth annibynnol i roi llais cryfach i bobl Cymru. 

Bydd y corff yn cynghori ar ddatblygu dulliau wedi'u targedu a gwella atebolrwydd, yn anelu at gryfhau'r berthynas ag Ofcom ymhellach ar lefel Cymru a'r DU a bydd yn ceisio ystyried sut y gallai ei rôl reoleiddio gyfrannu at gryfhau democratiaeth Cymru.  Bydd yn archwilio sut byddai strwythur llywodraethu effeithiol ar gyfer S4C yn y dyfodol yn gweithio, a sut y gellid ei greu, yn ogystal ag awgrymu cyfleoedd tebyg yng Nghymru i ddarlledwyr eraill, ac yn cynghori Llywodraeth Cymru yn unol â hynny.  

Yn olaf, bydd yn ceisio archwilio cynlluniau ar gyfer fframwaith darlledu a chyfathrebu amgen pe bai darlledu yn cael ei ddatganoli a bydd yn parhau i adolygu'r achos dros sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu i Gymru yn y dyfodol. 

Trwy'r Cytundeb Cydweithio, rwy'n parhau i drafod ynghylch trefniadau manwl ar gyfer y corff newydd, gan gynnwys ei aelodaeth, a byddaf yn darparu diweddariad pellach i'r Aelodau yn y dyfodol agos.