Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r pandemig Covid-19 a’r ymateb iddo wedi cael effaith ar iechyd a llesiant pobl yng Nghymru. Yn aml, aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas, gan gynnwys pobl sy’n  byw gyda dementia a’u teuluoedd, yw’r rhai  sydd wedi’u heffeithio waethaf.  Mae’r pandemig wedi effeithio ar fynediad at wasanaethau ac ar y ffordd y maent yn cael eu darparu, yn ogystal â'r cyswllt dynol ag anwyliaid, sydd mor bwysig i bobl a theuluoedd sy'n byw gyda dementia. Rwy'n benderfynol ein bod am barhau i weithio i sicrhau’r newid trawsnewidiol mewn cymorth dementia y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr iddo. 

Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gydag aelodau'r Grŵp Goruchwylio Gweithrediad ac Effaith ym maes Dementia i ystyried effaith y pandemig a chytuno ar flaenoriaethau i sbarduno adferiad. Diolch i aelodau’r Grŵp am y gwaith hwn, sydd wedi arwain at Cynllun Gweithredu Dementia: Cryfhau'r Ddarpariaeth mewn ymateb i COVID-19  a gyhoeddwyd ar 21 Medi 2021. Dogfen gydymaith i’r  Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia yw hon - nid yw'n ei ddisodli nac yn creu camau gweithredu newydd, ond bydd yn cryfhau'r blaenoriaethau presennol yn y meysydd lle mae'r pandemig wedi cael effaith benodol. I gefnogi’r gwaith o roi’r cynllun gweithredu ar waith, mae  £9m ar gael i’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei hintegreiddio ar draws gwasanaethau ac yn canolbwyntio ar anghenion lleol.

Mae diagnosis a chofnodi  amserol a chywir ar gyfer dementia yn hanfodol i ddarparu'r gofal a'r cymorth cywir. Mae'r canllawiau ar y codau Read, sy'n helpu i gofnodi gwahanol is-fathau o ddementia, wedi'u hailgyhoeddi a bydd hyn yn hwyluso'r gwaith o ddarparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan ymateb i anghenion unigol. Yn ogystal â'r £9m y cyfeirir ato uchod, mae buddsoddiad cylchol pellach o £3m wedi’i ddyrannu bellach i’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gefnogi pobl yn ystod y broses asesu. Bydd hyn yn mynd i'r afael â heriau'r pandemig a wynebir gan y byrddau iechyd, gan gynnwys darparu gwasanaethau asesu’r cof, lle’r ydym wedi gweld amseroedd aros am ddiagnosis hirach na 12 wythnos mewn rhai byrddau iechyd.  Mae swyddogion yn gweithio gyda’r byrddau iechyd i sicrhau eu bod yn defnyddio'r adnoddau ychwanegol hyn yn effeithiol, ac i fonitro eu heffaith.

Mae'n hanfodol bod modd darparu gwasanaethau asesu’r cof drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Iaith: y Ganolfan Cynllunio Ieithyddol ynghyd â Phrifysgol Bangor i wneud gwaith ymchwil ar fersiynau Cymraeg o’r graddfeydd asesu gwybyddol sy’n cael eu dbefnyddio’n gyffredin yng Nghymru, fel y gellir dehongli asesiadau mewn cyd-destun clinigol yn hyderus. Bydd hyn yn sicrhau bod dau berson sydd â'r un graddau o nam gwybyddol yn cael yr un canlyniad yn y prawf, waeth pa iaith a ddefnyddir i'w hasesu. 

Mae galwadau diweddar am Arsyllfa Ddata Genedlaethol ar gyfer Dementia yn cyd-fynd yn llwyr â'n bwriad polisi presennol. Fodd bynnag, credwn y gallwn gyflawni'r un canlyniadau drwy ddatblygu safonau data a chryfhau ein cysylltiadau â'r byd academaidd. Bydd y data a sefydlwn ynghylch asesu a chymorth dementia yn cael eu hadrodd yn genedlaethol a byddant yn agored i'r un lefel o graffu â data ansawdd a pherfformiad eraill y GIG. Gan weithio gyda'n Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, bydd y data gweithredol hyn hefyd yn cael eu hategu gan waith monitro parhaus ar ymchwil a thystiolaeth gyhoeddedig. Rydym hefyd yn parhau i ymgysylltu'n rheolaidd â'n Colegau Brenhinol a'n clinigwyr sy'n chwarae rhan allweddol o ran hyrwyddo'r dystiolaeth ddiweddaraf i lywio polisi. 

Cyhoeddwyd Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru  gan Gwelliant Cymru yn 2021, ar ôl ymgysylltu'n helaeth ag unigolion sy'n byw gyda dementia, gofalwyr, mudiadau gwirfoddol a gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol. Mae'r llwybr a gydgynhyrchwyd yn hyrwyddo dull gofal integredig ar gyfer systemau cyfan, gyda bwrdd dementia pob rhanbarth yn defnyddio’r safonau fel agenda graidd ar gyfer hyrwyddo gofal dementia yn lleol. Rydym wedi pwysleisio y bydd angen i bob prosiect sy'n derbyn cyllid y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia o dan y Gronfa Gofal Integredig sicrhau bod eu gwaith yn cyd-fynd â'r safonau newydd. Mae’r gwaith o baratoi a gweithredu’r safonau yn cael ei gefnogi'n genedlaethol ac yn rhanbarthol gan Grŵp Llywio Cenedlaethol Dementia a phum ffrwd waith, sef: Ymgysylltu â'r Gymuned, Gwasanaethau Asesu’r Cof, Cysylltydd Dementia, Siarter Ysbytai a'r Gweithlu / Mesur.

Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn dull gweithredu cenedlaethol a chydweithredol o ran cynnig sganio FDG-PET, gyda'r nod o gynyddu diagnosis effeithiol ac amserol o ddementia.  Mae FDG-PET yn ddull delweddu defnyddiol iawn ar gyfer diagnosis o anhwylderau niwroddirywiol sylfaenol sy’n ansicr neu'n anodd o ran diagnosis.

Ym mis Medi 2021, cyhoeddodd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion astudiaeth achos o ddenhddio sganio FDG-PET i gynorthwyo â diagnosis dementia. Roedd yr astudiaeth achos hon yn manylu ar brosiect peilot a sefydlwyd ddiwedd 2019 gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gyda chefnogaeth y Coleg Brenhinol a Chanolfan Ymchwil a Diagnosteg Delweddu PET Cymru. Nod y prosiect oedd bod o fudd i gleifion yn ardal Gwent, gan gynyddu diagnosis cynharach a chyfraddau diagnosis ar gyfer dementia, sicrhau diagnosis mwy dibynadwy o is-deip dementia, gan alluogi triniaeth gynharach sy'n benodol i glefydau, a mynediad at gymorth seicogymdeithasol a lleihau baich gofalwyr. Mae'r gwaith hwn bellach yn cael ei wneud ar raddfa fwy ac mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn comisiynu sganiau FDG-PET ar gyfer dementia yn genedlaethol.

Mae gan ymchwil a datblygu rôl allweddol i'w chwarae o ran gwella gofal dementia. Mae Prifysgol Caerdydd yn un o chwe phrifysgol sy'n arwain ymchwil fel rhan o Sefydliad Dementia'r DU, ac mae'n arwain menter fawr a lansiwyd ym mis Ebrill y llynedd sy'n ceisio helpu ymchwilwyr ledled y byd i archwilio'r ffactorau risg sy'n cyfrannu at Glefyd Alzheimer. Mae'n hanfodol bod ymchwil yng Nghymru yn cyfrannu at ymdrechion ehangach i fynd i'r afael â heriau byd-eang, ac mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn rhaglenni’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) ledled y DU i gefnogi cyfleoedd ariannu ar lefel prosiectau.

Mae'r gwasanaeth "Gofynnwch i ni am Ddementia", a gefnogir gan Gofal Cymdeithasol Cymru ac Arweinydd Ymgynghorol Dementia Cenedlaethol y Proffesiynau Perthynol i Iechyd, yn cynghori pobl ac yn eu cyfeirio at ofal dementia gan ddefnyddio teleiechyd. Gall gofalwyr drefnu apwyntiad rhithwir gydag ymarferwyr dementia profiadol sy'n darparu ystod o wybodaeth a sgiliau. Cynrychiolir ffisiotherapi, therapi iaith a lleferydd, therapi galwedigaethol, nyrsio, deieteg, fferylliaeth, a hyfforddiant dementia yn y prosiect. Mae'r cynllun peilot wedi'i gydgynhyrchu gyda phobl sy'n byw gyda dementia, darparwyr gofal, sefydliadau'r trydydd sector a chyrff statudol. Mae rhagor o safleoedd peilot ar gyfer atgyfeiriadau wedi'u hychwanegu ac ymarferwyr wedi'u recriwtio, gan gynnwys therapydd cerdd ac ail therapydd galwedigaethol.

Cynhaliodd Gofal Cymdeithasol Cymru gyfres o ddigwyddiadau dysgu byr, a oedd yn agored i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac iechyd a gofalwyr teuluol sydd ag amser cyfyngedig ar gyfer dysgu, gyda recordiadau o'r sesiynau ar gael i swyddogion datblygu'r gweithlu ledled Cymru. Maent hefyd wedi gweithio gyda Phrifysgol Abertawe a'r rhaglen Datblygu Ymarfer wedi'i Gyfoethogi gan Dystiolaeth i gynnal sesiynau dysgu byr ar gyfer cartrefi gofal i ddatblygu dulliau o ddysgu a datblygu dementia. Darparwyd sesiynau ymwybyddiaeth dementia hefyd i dros 50 o diwtoriaid ac aseswyr ledled Cymru. I'r rhai sy'n ymwneud â dysgu a datblygu ym maes dementia, ceir hefyd y Rhwydwaith Cydlynwyr Dysgu Dementia sy'n ffordd o greu cysylltiadau a rhannu syniadau ac adnoddau, gan gynnwys drwy Facebook.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn parhau i gynnal adnoddau ar eu tudalennau gwe ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia, gan gynnwys canllaw ar ddarparu hyfforddiant yn rhithwir. Mewn partneriaeth ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Cofio Dementia Training maent hefyd wedi creu dau fideo byr i helpu newydd-ddyfodiaid i’r gweithlu i ddeall egwyddorion gofal dementia da. 

Mae'r Grŵp Dysgu a Datblygu Dementia hefyd yn parhau i gwrdd ac wedi llunio cynllun   gwaith wedi’i ailstrwythuro a blaenoriaethau ar gyfer 2022. Mae'r grŵp wrthi'n datblygu pecyn cymorth i gefnogi'r defnydd o'r Fframwaith Gwaith Da mewn dulliau dysgu a datblygu ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn 2021, cyhoeddwyd adroddiad gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddementia, Colli Clyw a Byddardod oedd yn trafod y cysylltiadau rhwng dementia a cholli clyw. Mae ei 27 o argymhellion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd gan swyddogion, y Grŵp Goruchwylio Gweithrediad ac Effaith ym maes Dementia a Bwrdd Prosiect Clywed yn Dda ac maent wrthi'n cael eu hadolygu i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i’w gwireddu. Fel rhan o'r gwaith i fynd i'r afael â'r argymhellion hyn, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi sefydlu gweithgor i ddatblygu deilliannau dysgu a fframwaith ategol, sy'n cyd-fynd â'r Fframwaith Gwaith Da a Datblygu.  Disgwylir i’w adroddiad gael ei gynnal yn ystod haf 2022.

Mae Arweinydd Ymgynghorol Dementia Cenedlaethol y Proffesiynau Perthynol hefyd wedi cefnogi ‘Mentro Gyda’n Gilydd’, sef prosiect cenedlaethol sy'n helpu pobl sy'n byw gyda dementia i addasu i newidiadau yn eu hamgylchedd oherwydd mesurau diogelwch COVID-19. Crëwyd cyfres o ffilmiau byrion i helpu pobl sy'n byw gyda dementia a'r rhai sy'n gofalu amdanynt i deimlo'n fwy hyderus i ymweld â lleoliadau a gwasanaethau yng Nghymru, gyda'r nod o leihau pryder a lleihau unigrwydd.

Mae Siarter Ysbytai sy’n Deall Dementia Cymru yn rhan o’r elfen ddementia yng nghynllun gwaith Gwelliant Cymru ac mae'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau adfer o ran gwella gofal mewn ysbytai. Nod y siarter yw cefnogi a sbarduno gwelliant mewn ansawdd ar draws ein hysbytai i gefnogi gwell gofal a phrofiad i bobl sy'n byw gyda dementia a'u partneriaid sy'n gofalu amdanynt. Fel rhan o'r gwaith o weithredu'r safonau gofal dementia, rydym wedi bod yn mireinio'r siarter ac yn cefnogi adnoddau gyda'r rhanbarthau cyn lansio'r Siarter Ysbytai sy’n Deall Dementia yn derfynol ym mis Ebrill 2022.

Mae adsefydlu yn elfen graidd ac annatod o ofal. Mae byrddau iechyd, awdurdodau lleol a phartneriaid yn y trydydd sector yn defnyddio Fframwaith Adsefydlu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru i gynllunio'r gwasanaethau adsefydlu i ymateb i anghenion eu poblogaethau, gan gynnwys pobl â dementia. Mae adnodd ailalluogi dementia wedi'i ddatblygu ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda thîm ailalluogi a'r rhai sy'n darparu gofal yng nghartref rhywun ar ôl ailalluogi, yn enwedig gweithwyr gofal cartref neu weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd mewn rolau cymorth.  Disgwylir i'r adnodd digidol ar y cyd rhwng Addysg a Gwella Iechyd Cymrua Gofal Cymdeithasol Cymru fod ar gael erbyn mis Mehefin 2022 a bydd rhagor o wybodaeth am yr adnodd a sut i gael gafael arno yn cael ei gyhoeddi ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Er bod llawer o wersi cadarnhaol wedi’u dysgu o'r ffordd y mae gwasanaethau wedi gweithio gyda'i gilydd yn ystod y pandemig, mae'n bwysig cydnabod nad yw bywyd i bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal, gan gynnwys unigolion â dementia, wedi dychwelyd i’r hyn ydoedd cyn y pandemig. Ers 6 Awst 2021 mae canllawiau ymweld Llywodraeth Cymru wedi galluogi pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal i barhau i gael ymweliadau dan do gan ymwelydd hanfodol yn ystod achosion o'r clefyd. Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi cynllun tymor hwy Cymru i fyw'n ddiogel gyda coronafeirws, 'Gyda’n Gilydd tuag at Ddyfodol Mwy Diogel’. Mae'r ddogfen hon yn nodi sut y bydd Cymru'n symud y tu hwnt i'r cyfnod ymateb brys, ac yn dechrau rheoli Covid-19 ochr yn ochr â heintiau anadlol eraill a chlefydau y gellir eu hatal drwy frechu. Cyhoeddwyd dogfen ar wahân sy'n benodol i'r trefniadau pontio ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol ym mis Mawrth.  

Mae'r gwerthusiad o'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia yn parhau i asesu ei effaith ar ofal a chymorth dementia yng Nghymru.  Mae'r pandemig wedi cael effaith ar waith maes y gwerthusiad ond mae hyn bellach wedi ailddechrau. Bwriedir cyhoeddi'r adroddiad ar gam cyntaf y gwerthusiad yn ystod hydref 2022. Bydd yr ail gam yn parhau drwy 2022 a 2023, a bwriedir cyhoeddi'r adroddiad terfynol yn ystod gaeaf 2023.

Bydd y gwerthusiad yn llywio'r trefniadau a fydd yn olynu’r Cynllun Gweithredu presennol ar gyfer Dementia. Er bod gwasanaethau'n parhau i weithio i fynd i'r afael â heriau'r pandemig, mae'n amlwg bod angen ymgorffori blaenoriaethau allweddol y cynllun presennol ymhellach. Bydd y ddogfen gydymaith yn gweithredu fel cynllun pontio tra nodir y blaenoriaethau ar gyfer y trefniadau olynu.

Wrth i ni barhau i fyw gyda'r Coronafeirws ac ymaddasu iddo, rwy'n ddiolchgar iawn am ymdrechion y meysydd iechyd a gofal cymdeithasol a'r trydydd sector i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.