Neidio i'r prif gynnwy

Dafydd Elis-Thomas AS, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith sy'n mynd rhagddo i ymchwilio i'r potensial i Gymru sefydlu oriel gelf gyfoes, amgueddfa bêl-droed genedlaethol ac archif genedlaethol.

Comisiynwyd cyfres o astudiaethau dichonoldeb fel rhan o'r cytundeb cyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Y llynedd, cyhoeddais ganlyniad yr astudiaethau ar yr oriel gelf gyfoes a'r amgueddfa bêl-droed a gynigiodd fodel ar wasgar o amgueddfeydd ac orielau sydd eisoes yn bodoli i sicrhau mynediad cenedlaethol i'r casgliad cenedlaethol o gelf gyfoes, a datblygu Amgueddfa Wrecsam fel llwyfan i'n treftadaeth bêl-droed. Rydym wedi parhau i ddatblygu'r ddwy fenter hyn, er bod y pandemig wedi cael effaith anochel yn hynny o beth.

Oriel Gelf Gyfoes

Yn dilyn casgliadau’r astudiaeth ddichonoldeb wreiddiol ar gyfer yr oriel gelf gyfoes ym mis Gorffennaf 2018, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, comisiynwyd y Swyddfa Wledig ar gyfer Pensaernïaeth (ROA) i gyflawni asesiad effaith lefel uchel cychwynnol ac asesiad risg ar gyfer pob lleoliad a nodwyd ar y rhestr ddethol. Mae ROA bellach yn gwneud mwy o waith manwl a dylai’r adroddiad terfynol fod yn barod ym mis Chwefror.

Mae'r grŵp llywio wedi parhau i weithio drwy'r pandemig ac wedi cefnogi nifer o brosiectau digidol i ddiddanu ac addysgu. Datblygwyd y rhain o dan faner Celf ar y Cyd ac maent yn cynnwys:

  • Art 100 Celf – Gan ddefnyddio llwyfan digidol rhyngweithiol deinamig, gall pobl ddyfeisio a churadu arddangosfa o weithiau yng nghasgliad celf Amgueddfa Cymru. Ar hyn o bryd mae'r platfform yn cynnwys cymysgedd o wahanol gynnwys cyfryngau, gweithiau celf gyda gwybodaeth gysylltiedig, storïau, fideos a chyfweliadau. Mae pob un o hunaniaethau graffig yr artistiaid ar gyfer Celf ar y Cyd yn cynnwys proffiliau o'r artistiaid unigol. Mae'r prosiect i'w weld ar Instagram, gwefan Amgueddfa Cymru a Phlatfform AM.
  • Celf mewn Ysbytai - Mae Amgueddfa Cymru yn gweithio gyda phum bwrdd iechyd i ddewis eitemau o'r casgliad celf ar gyfer yr ysbytai maes. Mae'r staff wedi bod yn dewis y gwaith celf ac mae rheolaeth guradurol wedi'i throsglwyddo i bob bwrdd iechyd. Bydd y delweddau yn cael eu rhoi yn ystafelloedd lles staff a bwriedir iddynt gysuro, tawelu a chodi calon y sawl sy’n edrych arnynt.
  • Artistiaid yn ymateb i’r presennol – Amlygodd yr astudiaeth ddichonoldeb wreiddiol yr angen am gelf gyfoes newydd. Mae cyfres o gomisiynau creadigol yn cael eu datblygu dros gyfnod o 12 mis gan ddarparu cyfleoedd cyffrous ar gyfer profi cynnwys creadigol a dulliau newydd o ymgysylltu â chynulleidfaoedd.
  • Y casgliad fel sbardun (Cynfas) – Mae'r prosiect hwn yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o leisiau mewn sgwrs ledled Cymru am y casgliad cenedlaethol, gan estyn allan at gymunedau newydd ac mae'n darparu cyfoeth mawr o ddeunydd y gellir ei lunio mewn straeon diddorol a rhyngweithiol. Ar fformat cylchgrawn, mae’n cynnwys straeon a luniwyd gan amrywiaeth eang o bobl. Bydd awduron a chyfranwyr yn cynnwys artistiaid ac awduron, aelodau a chleientiaid sefydliadau partner fel y Wallich, Llamau ac Achub y Plant. Mae dau rifyn wedi'u cyhoeddi hyd yn hyn: https://museum.wales/Cynfas/

Amgueddfa Bel-droed Genedlaethol

Mae grŵp llywio wedi'i sefydlu i fwrw ymlaen a'r gwaith i ddatblygu amgueddfa bêl-droed genedlaethol. Cyngor Wrecsam sy'n arwain y prosiect, a fydd yn ailddatblygu Amgueddfa Wrecsam. Bydd yr amgueddfa'n gweithio ochr yn ochr â chymunedau i annog cyfranogiad ymwelwyr o bob cefndir a’u hysbrydoli. Bydd y prosiect yn ategu datblygiadau eraill yn Wrecsam gan gynnwys Canolfan Hyfforddi Genedlaethol Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym Mharc Collier, Canolfan Hyfforddiant Proffesiynol Clwb Pêl-droed Wrecsam yn y Groves, ac ailddatblygiad Porth Wrecsam ar faes y Cae Ras.

Penodwyd yr ymgynghorwyr Fourth Street yn yr haf i lunio cynllun busnes manwl ac achos dros fuddsoddi. Mae'r gwaith hwn bellach wedi dod i ben ac mae'r argymhellion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd gan y grŵp llywio. Prif ffocws y gwaith yw gwneud y defnydd gorau o'r lle sydd ar gael yn adeilad yr amgueddfa ac adleoli casgliadau wrth gefn.  Mae tendr dylunio yn cael ei hysbysebu ar gyfer cam nesaf y gwaith ac mae'r cyngor yn chwilio am ddau aelod newydd o staff i gefnogi'r prosiect.

Argymhellodd astudiaeth ddichonoldeb 2018 hefyd y dylid sefydlu panel arbenigol ar gyfer treftadaeth chwaraeon yng Nghymru. Rwyf wedi gofyn i Sporting Heritage, cwmni elusennol arbenigol, arwain y gwaith hwn ac mae 16 o sefydliadau chwaraeon a threftadaeth yn cael eu cynrychioli ar y panel ar hyn o bryd sydd wedi cynnal cyfarfod rhithwir i ddatblygu fframwaith gweithredu.

Archif Cenedlaethol

Mae'r adroddiad dichonoldeb yr wyf yn ei gyhoeddi'n awr wedi nodi a gwerthuso amrywiaeth o fodelau posibl ar gyfer cyflawni swyddogaeth archif genedlaethol i Gymru, yn seiliedig ar adolygiad cynhwysfawr o systemau a deddfwriaeth cofnodion cyhoeddus cyfredol, dadansoddiad o fodelau archifau cenedlaethol, proffilio'r ddarpariaeth archifol bresennol yng Nghymru, trafodaethau gyda rhanddeiliaid allweddol cenedlaethol ac o fewn sectorau a chymaryddion rhyngwladol: https://llyw.cymru/archif-genedlaethol-i-gymru-astudiaeth-ddichonoldeb

Mae gwaith pellach wedi'i ohirio oherwydd y pandemig. Mater i Lywodraeth nesaf Cymru yn awr fydd penderfynu sut y caiff y prosiect hwn ei ddatblygu.