Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw rwy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen yr Ardaloedd Menter yng Nghymru a'i threfniadau llywodraethu cysylltiedig. Mae hyn yn dilyn cyfnod adolygu helaeth a gafodd ei lywio gan drafodaethau gyda rhanddeiliaid allweddol ac sy'n adeiladu ar yr adolygiad cynharach a gynhaliwyd yn 2018.

Ar hyn o bryd mae wyth Ardal Fenter yng Nghymru, sef Ynys Môn, Canol Caerdydd, Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan, Glannau Dyfrdwy, Glyn Ebwy, Dyfrffordd y Ddau Gleddau, ac Eryri a ddynodwyd yn 2012/13 a Glannau Port Talbot yn 2017/18.  Heddiw, rwy'n cadarnhau y bydd yr wyth ardal, sydd wedi'u dynodi ar hyn o bryd, yn parhau i fod yn rhan o'n dull datblygu economaidd sy’n seiliedig ar leoedd.

Er bod pob Ardal yn wahanol a bod cyflymder y broses gyflawni wedi amrywio ar draws pob un, gan adlewyrchu gwahanol fannau cychwyn a'u hunaniaeth unigryw, gwnaed cynnydd cadarn ym mhob lleoliad.  Erbyn mis Mawrth 2019, roedd bron i 14,000 o swyddi wedi'u cefnogi ar draws yr Ardaloedd ac roedd buddsoddiad gwerth tua £315m yn y sector cyhoeddus wedi cefnogi amrywiaeth o fuddsoddiadau.  Mae'r buddsoddiadau hynny'n cynnwys sefydlu cyfleuster Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch [AMRC Cymru] yng Nglannau Dyfrdwy, creu lle swyddfa Gradd A sylweddol a datblygiadau defnydd cymysg yng Nghanol Caerdydd, datblygu'r M-SParc yn Ynys Môn a'r gwaith yn Eryri sydd wedi helpu i godi'r safle’n un a ddewisir ar gyfer datblygiadau carbon isel newydd.  Yn Ardal Dyfrffordd y Ddau Gleddau mae gwaith wedi dechrau ar Barc Bwyd Sir Benfro. Sefydlwyd rhaglen rhannu prentisiaethau gweithgynhyrchu i annog twf a sgiliau busnes yng Nglyn Ebwy, ac mae wedi bod o fudd i dros 100 o unigolion. Ym Mro Tathan rydym wedi gweld buddsoddiad gan gwmnïau fel Aston Martin ac E Cube, ac ym Mhort Talbot mae gwaith yn parhau gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys yr awdurdod lleol, Prifysgol Abertawe, TATA Steel a'r porthladd i fanteisio ar gyfleoedd yn yr ardal. 

Mae Byrddau Cynghori'r Ardaloedd Menter wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o lunio a datblygu rhaglen yr Ardaloedd Menter yng Nghymru a hoffwn nodi fy ngwerthfawrogiad i'r Cadeiryddion - Mr Neil Rowlands, Dr John Idris Jones, Mr Roger Maggs MBE a Mr Stan McIlvenny OBE - a holl Aelodau'r Byrddau am eu cefnogaeth dros flynyddoedd lawer.  Hoffwn ddiolch hefyd i'r awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ar draws yr holl Ardaloedd Menter sydd wedi chwarae rhan sylweddol yn y gwaith o ddatblygu’r amcanion a'r effeithiau cadarnhaol yn eu hardaloedd priodol.

Mae'r ffordd o weithio ar y cyd rhwng y partneriaid cyhoeddus a’r partneriaid preifat y mae'r Byrddau wedi helpu i'w meithrin wedi creu argraff arnaf. Felly, rwy'n bwriadu ymestyn y penodiadau i'r Byrddau yn Ynys Môn, Dyfrffordd y Ddau Gleddau a Phort Talbot am gyfnod o hyd at 12 mis.  Yn ystod y cyfnod hwn byddwn yn dechrau proses i adnewyddu aelodaeth y byrddau y tu hwnt i'r amserlen hon, ac yn cysoni eu ffocws â'n blaenoriaethau ar gyfer Cymru fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrddach.

Yn dilyn gwaith penderfynol Dr John Idris Jones ac aelodau'r Bwrdd yn Ardal Fenter Eryri, rydym wedi sefydlu Cwmni Egino Cyfyngedig yn ddiweddar, sef cwmni newydd i fynd i’r afael â datblygiadau, gan gynnwys prosiectau Adweithyddion Modiwlar Bach (SMR) posibl a cheisiadau am radioisotopau meddygol, ar safle Trawsfynydd. Bydd gwaith sy'n ymwneud â safle Llanbedr yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a rhanddeiliaid rhanbarthol eraill. Ar y sail honno, ni fyddaf yn ymestyn tymor y Bwrdd.  Hoffwn ddiolch i John a holl Aelodau'r Bwrdd am eu hymdrechion ac am y cynnydd sylweddol a wnaed.   

Cafodd y Byrddau Cynghori ar gyfer yr Ardaloedd Menter yng Nglannau Dyfrdwy, Glyn Ebwy, Canol Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan eu diddymu yn dilyn yr adolygiad cynharach yn 2018.

Bu'n amserol adolygu rhaglen yr Ardaloedd Menter a’r strwythurau llywodraethu cysylltiedig yng ngoleuni'r blaenoriaethau a amlinellir yn y Rhaglen Lywodraethu newydd, yr adferiad economaidd parhaus o'r pandemig, ein hymrwymiad i gyflawni yn unol â’r agenda carbon isel, a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau rhanbarthol fel y cytunwyd yn y Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Fel y nodir yn ein Cenhadaeth Economaidd, rydym yn rhoi'r pwys mwyaf ar fuddsoddi mewn pobl a lleoedd, ac mae Ardaloedd Menter yn parhau i fod yn nodwedd o'r dull hwnnw o ddatblygu economaidd. Edrychaf ymlaen at gydweithio â'r Byrddau a rhanddeiliaid allweddol eraill i fwrw ymlaen â'r uchelgeisiau ar gyfer pob un o'r wyth Ardal yng Nghymru.